Marc Griffiths

Llansantffraid, Powys

Mae Marc Griffiths, sy’n raddedig mewn Rheoli Busnes Amaethyddol o Brifysgol Reading, yn cynhyrchu bîff, cig oen a grawnfwydydd ar fferm y teulu yng Nghilthrew.

Mae Marc, gan weithio ochr yn ochr â’i dad, Wynn, yn gwella ei briddoedd a'i laswelltir yn barhaus i ddal cymaint â phosibl o’r sylfaen tir 120 hectar, wedi’i ysbrydoli gan rywfaint o’r wybodaeth a gafodd wrth weithio yn Seland Newydd ar ôl graddio.

O ganlyniad i reoli glaswelltir yn well, mae wedi gallu cynyddu cyfradd stoc y fferm.

“Lleihau costau cynhyrchu yw’r neges allweddol yma ar gyfer dyfodol ein busnes fferm, ond nid ras yw’r ateb, darparu cynnyrch o safon yw’r ateb,’’ meddai.

“Fy nghynlluniau ar gyfer ein busnes fferm yw parhau i ddatblygu’r busnes er mwyn sicrhau ei lwyddiant yn y cyfnod heriol ond cyffrous hwn sydd o'n blaenau.''

Er mwyn helpu i lywio’r weledigaeth hon mae Marc wedi manteisio ar gyfleoedd i ddysgu mwy, gan gymryd rhan yn Sefydliad Ffermwyr y Dyfodol Tesco 2019, fel aelod o Grŵp Cenhedlaeth Nesaf yr NFU a drwy grwpiau trafod defaid a glaswelltir Cyswllt Ffermio.

Erbyn hyn, mae ganddo lygad ar arallgyfeirio i gynhyrchu ffrydiau refeniw pellach i ledaenu risg busnes ac i roi amrywiaeth i'w waith o ddydd i ddydd.

Mae Marc yn gweld ei ran yn y Rhaglen Busnes ac Arloesedd yn gyfle i herio ei broses o feddwl i helpu i ddatblygu'r syniadau hynny wrth symud ymlaen.

“Rwy’n edrych ymlaen at graffu ar yr hyn yr ydym yn ei wneud o safbwynt gwahanol a byddaf yn defnyddio’r sgiliau a’r syniadau busnes y byddaf yn eu darganfod ar hyd taith yr Academi Amaeth i helpu i lywio unrhyw newidiadau y gallwn eu cyflwyno yn y dyfodol.’’