1 Mai 2020

 

Simon Pitt, Swyddog Technegol Llaeth 

 

Nid oes gan fuchesi sydd â siediau ac ynddynt gyfleusterau ardderchog yn aml yr un lefel o isadeiledd pori i baratoi ar gyfer adegau pan fo angen iddynt bori eu buchod yn ddwys yn ystod cyfnodau sy’n mynd y tu hwnt i’r drefn arferol. Mae’r caeau’n aml yn fawr ac yn addas iawn ar gyfer gwneud silwair. Mae’n bosibl hefyd nad oes ganddynt gafnau dŵr mewn lleoliadau addas na mannau mynediad i annog eu buchod i bori’n effeithiol a chael y lefelau cynhyrchiant gorau o’r borfa.

Dylai ffermwyr sy’n ystyried troi eu buchod allan, ac a fyddai fel arfer yn eu cyfyngu i badogau gorffwys a chaeau penodol wrth ymyl yr iard, roi ystyriaeth i bwyntiau allweddol yn ymwneud â mynediad i ddŵr a’r isadeiledd pori i sicrhau na chaiff perfformiad nac iechyd y buchod ei beryglu, pa bynnag ran o’r fferm sy’n cael ei phori.
 

  • Cadwch y padogau mor sgwâr â phosibl, gan fod da byw yn teithio llawer ar badogau hir a main. Peidiwch â thorri’r rheol 4 i 1, gyda 4 yn hyd ac 1 yn lled.
  • Defnyddiwch gyfuniad o byst pren, pyst ffens drydan cludadwy dros dro a pholi-wifren i rannu caeau mawr dros dro yn badogau llai.
  • Gellir gosod pibell 25mm ar y wyneb ar hyd llinell y ffens i gludo dŵr i’r cafnau.
  • Y lleoliad gorau i gafnau dŵr ydy yng nghanol cae fel nad oes rhaid i dda byw deithio ymhell i’w cyrraedd. Mae hefyd yn helpu gyda lledaenu maetholion o’r tail.
  • Bydd system ddŵr gylchol ar gyfer eich platfform pori yn helpu i gynnal y pwysedd a’r llif.
  • Gall da byw yfed llawer o ddŵr ar ddiwrnod cynnes. Y canllawiau yw 12% o’u pwysau mewn litrau/dydd ar gyfer anifeiliaid sych a 15% o’u pwysau ar gyfer anifeiliaid sy’n llaetha.
  • Maent yn yfed mwy o ddŵr yn ystod y dydd na’r nos, felly, mae cyfraddau llif yn bwysig.
  • Gall llwybrau cul sy’n rhedeg oddi ar y prif lwybr fod yn ffordd dda o gyrraedd rhannau pellaf y cae rhag bod y gwartheg yn dychwelyd i fannau sydd wedi cael eu pori o’r blaen mewn caeau mawr.

Related Newyddion a Digwyddiadau

Glaswellt cynnar tymor 2021
8 Chwefror 2021 Ysgrifennwyd gan Chris Duller, Ymgynghorydd
Materion rheoli gyda lefelau lleithder isel yn y pridd a dim rhagolygon o law
27 Mai 2020 Chris Duller, Arbenigwr Priddoedd a Glaswelltir Fel
Blog – Plannu tatws â Puffin Produce
01 Mai 2020 Mae’r gwaith plannu tatws yn mynd rhagddo ers tro yn