Gan, Dr. Ruth Wonfor, IBERS, Aberystwyth University
Mae Ymchwilwyr yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), Prifysgol Aberystwyth wedi arwain ar adolygiad cydweithredol Ewropeaidd yn ddiweddar sy’n crynhoi ymchwil diweddar yn ymwneud â modelu cynhyrchiant anifeiliaid cnoi cil Ewropeaidd dan amodau newid hinsawdd, mewn modd mathemategol. Mae’r adolygiad yn amlygu datblygiadau a’r heriau sydd i’w wynebu yn y dyfodol.
Mae egwyddorion gwyddonol newid hinsawdd yn ymwneud ag arferion amaethyddol yn cael eu hadolygu mewn erthygl dechnegol Cyswllt Ffermio diweddar. Ymysg nifer o heriau sy’n wynebu’r sector amaeth yn y dyfodol, mae newid arferion er mwyn gallu ymdopi ag effeithiau newid hinsawdd a gweithio i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yn ddau o’r rhai pwysicaf.
Mae modelu gwyddonol yn Ewrop yn gweithio tuag at gadarnhau sut y bydd newid hinsawdd yn newid arferion amaethyddol yn Ewrop dros y blynyddoedd i ddod. Mae’r broses fodelu yn gymhleth iawn ac yn y dyfodol, bydd angen i ni hefyd gynnwys arferion rheolaeth ar y fferm sy’n cael eu datblygu i ymateb i newid hinsawdd.
Bydd effeithiau newid hinsawdd ar gynhyrchiant amaethyddol yn uniongyrchol, trwy effeithiau ar ffactorau megis cynnyrch neu iechyd, ac yn anuniongyrchol, trwy newidiadau mewn lledaeniad a niferoedd pathogenau a phlâu. Mae’n hanfodol felly i hysbysu’r diwydiant amaeth o faterion sy’n debygol o’i wynebu dros y blynyddoedd i ddod.
Iechyd a Lles Anifeiliaid
Mae rhai effeithiau newid hinsawdd ar afiechydon a phathogenau da byw eisoes wedi cael eu gweld. Fodd bynnag, gallwn ddisgwyl gweld newidiadau pellach, gyda newidiadau yn y modd y mae pathogenau’n lledaenu a newidiadau mewn lefelau risg afiechydon tymhorol, patrymau heintio a dwysedd. Mae nifer o bathogenau a fectorau’n sensitif i newidiadau mewn tymheredd a glawiad ymysg ffactorau amgylcheddol eraill. Gellir defnyddio modelu mathemategol ochr yn ochr â gwaith ymchwil arbrofol yn ymwneud â phathogenau er mwyn rhagweld lledaeniad pathogenau a fectorau, yn seiliedig ar ddata ecolegol a hinsoddol. Mae’r gwaith rhagfynegol hwn yn hanfodol ar gyfer afiechydon sy’n cael eu cludo gan fectorau megis haint clefyd y tafod glas, sy’n glefyd y mae’r llywodraeth yn rhagweld y bydd risg uchel o’i ledaenu i’r DU erbyn diwedd yr haf 2016.
Mae effaith straen gwres mewn gwartheg yn bryder ychwanegol yn nhermau iechyd a lles anifeiliaid. Gyda chyfnodau poeth iawn (heat waves) yn dod yn fwy aml yn ne Ewrop, mae’n debygol y bydd effaith negyddol ar gynhyrchiant a lles anifeiliaid, yn enwedig yn y sector llaeth. Bydd angen addasu strategaethau rheolaeth a chadw anifeiliaid dan do er mwyn goresgyn y materion hyn. Gellir defnyddio modelu ar lefel rhanbarthol a byd eang er mwyn adnabod ardaloedd lle mae’n bosib y bydd angen addasu arferion rheolaeth neu bolisi ffermio.
Cynhyrchiant Tir Glas a Bioamrywiaeth
Disgwylir y bydd gwahaniaeth eang o ran effaith newid hinsawdd ar gynhyrchiant tir glas ledled Ewrop. Mae gogledd Ewrop yn debygol o weld tymhorau tyfu estynedig gyda thywydd cynhesach a mwy o lawiad, a bydd rhanbarthau de Ewrop yn debygol o weld cyfnodau estynedig o sychder. Bydd angen rhagweld cynnyrch a gwerth maethol y glaswellt. Mae modelu cynhyrchiant a gwerth maethol yn arbennig o heriol ar gyfer glaswelltir parhaol, gyda’r angen i gynnwys nifer o rywogaethau, yn ogystal â gwella prosesau pridd a dŵr. Tu hwnt i’r tymor tyfu, mae angen i fodelau hefyd ystyried effaith y newidiadau ar amodau’r gaeaf, megis newidiadau mewn cwymp eira ac effeithiau rhew. Mae gwell modelu o gynnydd posib mewn dŵr ffo ffosfforaidd (o ganlyniad i lawiad trwm a chynyddol) hefyd wedi cael ei nodi’n flaenoriaeth gan ymchwilwyr, fel rhan o bryder ehangach i fodelu achosion o dywydd garw’n fwy effeithiol, gyda disgwyl iddynt gynyddu gyda newid mewn hinsawdd.
Dros y blynyddoedd nesaf, bydd angen i reolaeth tir glas addasi i amodau amgylcheddol newydd. Mae’r newidiadau hyn ynghyd ag effeithiau newid hinsawdd yn debygol o effeithio bioamrywiaeth tir glas yn Ewrop. Mae modelau optimeiddio bio-economaidd yn hanfodol yn yr achos hwn er mwyn deall sut y bydd newidiadau rheolaeth ehangach yn gallu effeithio ar fioamrywiaeth, ac i ganfod y ffordd fwyaf effeithiol yn economaidd i gyrraedd nodau bioamrywiaeth. Mae’r math hwn o fodelu yn darparu cefnogaeth hanfodol i wneuthurwyr polisi, gan sicrhau bod y diwydiant amaeth yn gallu cael y gorau o’r tir, gan gyfyngu ar y niwed a wneir i ecosystemau lleol. Gall hefyd amlygu opsiynau rheolaeth lle mae pawb yn ennill, lle y gall gwella amodau amgylcheddol gynorthwyo i gynnal cynhyrchiant yn y tymor hir. Mae gwybodaeth bellach ynglŷn â chydfodolaeth planhigion, anifeiliaid di-asgwrn cefn, adar ac anifeiliaid o fewn ecosystemau a gweoedd bwyd yn hanfodol i wella’r broses fodelu.
Effaith Amgylcheddol Ffermydd - Allyriadau nwyon tŷ gwydr
Y prif ffynonellau methan o amaethyddiaeth yw tail (o adeiladau, storfeydd slyri neu wasgaru) a chnoi cil. Mae cyfleoedd i leihau rhyddhad methan o systemau fferm trwy addasu systemau rheolaeth. Gan fod methan yn cynrychioli egni’n cael ei golli o’r system gynhyrchu, mae newid rheolaeth er mwyn lleihau allyriadau’n golygu arbedion o ran effeithlonrwydd i ffermwyr. Mae cynrychioli newidiadau o’r fath yn faes pwysig ar gyfer datblygiad model, ynghyd â’r angen i gynnwys amrywiadau sy’n seiliedig ar newid hinsawdd mewn afiechydon a lles anifeiliaid. Tu hwnt i’r fferm, mae dadansoddiadau cylchred bywyd, sy’n cynnwys allyriadau nwyon tŷ gwydr o gludiant a chynhyrchu bwyd yn bwysig er mwyn galluogi gwneuthurwyr polisi ystyried y darlun cyfan wrth wneud penderfyniadau ynglŷn â chefnogaeth ar gyfer strategaethau lleihau.
Yn nhermau lleihau newid hinsawdd, mae gan dir glas yn Ewrop botensia enfawr trwy enciliad carbon yn y pridd. Mae modelu’n dangos sut y gellir cydbwyso rheolaeth tir glas yn llwyddiannus er mwyn galluogi gostyngiad effeithiol, gan hefyd gael ei ddefnyddio fel tir cynhyrchiol ar gyfer cynhyrchu anifeiliaid cnoi cil.
Beth am y dyfodol?
Mae modelu gwyddonol er mwyn rhagweld effeithiau newid hinsawdd ar amaethyddiaeth yn broses barhaus. Mae’n rhaid i’r modelau fod yn berthnasol ar gyfer y byd go iawn, ac felly mae angen mewnbwn gan wybodaeth wyddonol a gwybodaeth gan ffermwyr a chynghorwyr fferm. Yn ogystal, mae angen rhoi ystyriaeth i ffactorau economaidd-gymdeithasol sy’n berthnasol i ddewisiadau polisi, sy’n gofyn am waith amlddisgyblaethol i gysylltu modelu economaidd ac amgylcheddol. Mae angen polisïau deallus ar gyfer y dyfodol er mwyn lleihau allyriadau dynol a sicrhau’r effeithlonrwydd cynhyrchiant gorau posib, gan greu diwydiant cynhyrchu anifeiliaid sy’n cnoi cil sydd mor gynaliadwy â phosib.
Dros y blynyddoedd nesaf, bydd angen i systemau cynhyrchu anifeiliaid cnoi cil ledled Ewrop addasu i newid amgylcheddol. Bydd angen i ffermydd ymdopi gyda newidiadau rheolaeth er mwyn cynnal cynhyrchiant presennol, yn ogystal â gwella’u hôl troed amgylcheddol, trwy ffactorau gwella a lliniaru megis enciliad carbon tir glas. Bydd hyn yn her sylweddol i’r diwydiant ffermio anifeiliaid cnoi cil, ond bydd datblygiad a defnydd modelau mathemategol yn galluogi gwneuthurwyr polisi a ffermwyr i edrych ar opsiynau a goblygiadau eu dewisiadau mewn byd lle mae newid hinsawdd yn digwydd. Er mwyn gallu sicrhau datblygiadau o’r fath, bydd angen annog cyfathrebu a throsglwyddo gwybodaeth ar draws sawl maes rhwng ffermwyr, gwyddonwyr a modelwyr.