14 Tachwedd 2022

 

Saba Amir: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

 

  • Mae galw defnyddwyr am gig gyda safonau lles uchel sy’n cael ei hyrwyddo gan grwpiau lles anifeiliaid a chyrff anllywodraethol yn gyrru’r farchnad ar gyfer brwyliaid sy’n tyfu’n araf
  • Mae iechyd a lles brwyliaid sy’n tyfu’n araf yn well na’r rhai sy’n tyfu’n gyflym
  • Mae angen mwy o amser ac adnoddau ar frwyliaid sy’n tyfu’n araf cyn cyrraedd pwysau targed, felly maen nhw’n costio mwy i’r defnydddwyr ac mae’r effaith amgylcheddol yn uwch

 

Cyflwyniad

Cywion ieir (Gallus gallus domesticus) yw’r cig sy’n cael ei fwyta fwyaf ar draws y byd. Mae’r twf sydyn, effeithlonrwydd bwydo a’r effaith amgylcheddol isel o’i gymharu â rhywogaethau da byw eraill, eu fforddiadwyedd a’r ffaith eu bod yn cael eu derbyn ar draws gwahanol ddiwylliannau yn golygu eu bod ar y brig yn yr ymdrech i sicrhau bwyd ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol. Mae 1.1 biliwn o frwyliaid yn cynhyrchu 1.6 biliwn tunnell o gig y flwyddyn yn y DU yn unig. Mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn fridiau sy’n tyfu’n gyflym ac yn cael eu   lladd yn 5-6 wythnos oed gyda phwysau cyfartalog o 2.2 – 2.5 kg yn y lladd-dy.  Fodd bynnag, mae eu cyfradd twf uchel ynghyd ag amodau cadw dan do a dwysedd stocio uchel yn gysylltiedig â nifer o broblemau iechyd a lles. O ganlyniad, mae’r diwydiant wedi wynebu beirniadaeth sylweddol. Er mwyn mynd i’r afael â phroblemau iechyd a lles brwyliaid sy’n tyfu’n gyflym, mae bridiau brwyliaid sy’n tyfu’n arafach wedi cael eu hawgrymu, ond mae’r rhain yn dod â chostau premiwm i’r prynwyr.

Cymhariaeth rhwng brwyliaid sy’n tyfu’n gyflym o 1957 i 2005 yn dangos newidiadau mewn maint yn seiliedig ar oedran – wedi’i gymryd o Zuidhof et al. 2014

 

Y broblem

Yn hanesyddol, mae’r diwydiant brwyliaid yn y DU a nifer o wledydd datblygedig eraill wedi canolbwyntio ar dyfu bridiau sy’n cynhyrchu mwy o fuddion economaidd i’r cynhyrchwyr, proseswyr a’r adwerthwyr, ond sydd hefyd yn fforddiadwy i’r defnyddwyr. Yn ogystal, yn y gorffennol, a heddiw, mae’r farchnad ar gyfer brwyliaid sy’n tyfu’n gyflym wedi cael ei arwain gan hoffter y defnyddwyr o brotein rhatach yn hytrach na chigoedd drytach gyda safonau lles uwch. Mae cyfradd twf cyfartalog brwyliaid sy’n tyfu’n sydyn yn 50g/dydd. Mae dethol genetig ar gyfer twf cyflym wedi arwain at drosi bwyd yn fwy effeithlon a llai o amser i gyrraedd y farchnad, ond mae hyn hefyd wedi arwain at effeithiau negyddol anfwriadol ar iechyd a lles brwyliaid. Mae lles anifeiliaid yn cynnwys swyddogaethau biolegol arferol a chyflwr emosiynol a’r gallu i fynegi ymddygiadau arferol penodol. Wrth i frwyliaid dyfu ac aeddfedu, mae lefel gweithgarwch yn lleihau ac mae cloffni’n cynyddu.

Mae systemau sgorio cerddediad (graddfa 0- 5) wedi cael eu datblygu i asesu cloffni, gyda 0 yn nodi cerddediad cwbl normal, a 5 yn nodi anallu i gerdded. Ystyrir fod adar gyda sgôr cerddediad o ≥ 3 mewn poen. Gall cloffni amrywio yn ôl systemau cynhyrchu a rheoli. Yn 2008, canfuwyd bod gan 27.6% o frwyliaid masnachol ar ffermydd yn y DU sgôr cerddediad o 3 neu uwch. Fodd bynnag, cafodd y data hwn ei gasglu dros ddegawd yn ôl, ac yn y cyfamser, mae cwmnïau bridio wedi bod yn ymdrechu i ddethol rhag anhwylderau ar y coesau, felly gallai lefelau presennol fod yn is na’r hyn a nodir mewn llenyddiaeth wyddonol. Er hynny, mae cloffni yn fater llesiant pwysig sy’n cael ei arsylwi’n fanwl gan y llywodraeth a’r rhai sy’n Mae systemau sgorio cerddediad (graddfa 0- 5) wedi cael eu datblygu i asesu cloffni, gyda 0 yn nodi cerddediad cwbl normal, a 5 yn nodi anallu i gerdded. Ystyrir fod adar gyda sgôr cerddediad o ≥ 3 mewn poen. Gall cloffni amrywio yn ôl systemau cynhyrchu a rheoli. Yn 2008, canfuwyd bod gan 27.6% o frwyliaid masnachol ar ffermydd yn y DU sgôr cerddediad o 3 neu uwch. Fodd bynnag, cafodd y data hwn ei gasglu dros ddegawd yn ôl, ac yn y cyfamser, mae cwmnïau bridio wedi bod yn ymdrechu i ddethol rhag anhwylderau ar y coesau, felly gallai lefelau presennol fod yn is na’r hyn a nodir mewn llenyddiaeth wyddonol. Er hynny, mae cloffni yn fater llesiant pwysig sy’n cael ei arsylwi’n fanwl gan y llywodraeth a’r rhai sy’n lobïo dros lesiant anifeiliaid.

Mae cynnydd mewn cloffni hefyd yn awgrymu bod adar yn treulio mwy o amser yn eistedd, ac mewn achosion lle mae ansawdd y deunydd gorwedd yn isel, gellir gweld cynnydd yn nifer yr achosion o glwyfau ar y croen megis llosgiadau ar gymal yr egwyd, dermatitis ar waelod y droed a phothelli ar y frest a chredir fod y rhain yn achosi poen mewn achosion difrifol. Yn ogystal, gall twf sydyn arwain at gyfradd marwolaeth uchel o ganlyniad i anhwylderau metabolig megis syndrom marwolaeth sydyn ac asgites, sy’n achosi colledion economaidd i ffermwyr. Problem arall o ran lles anifeiliaid ymysg stoc rhieni’r brwyliaid sy’n tyfu’n gyflym, a elwir yn frwyliaid bridio, yw newyn cronig. O safbwynt genynnol, mae gan frwyliaid bridio botensial tebyg ar gyfer twf a chynnydd pwysau â’u hepilion, ond tra bod eu hepilion yn cael eu lladd cyn cyrraedd aeddfedrwydd rhywiol, mae brwyliaid bridio yn byw am gyfnodau llawer hwy (60+ wythnos) ac mae ganddynt allu atgynhyrchiol da. Fodd bynnag, mae eu bwyd yn cael ei gyfyngu i hyd at 1/3 o’r hyn y byddant yn dewis ei fwyta er mwyn eu hatal rhag magu gormodedd o bwysau a dioddef problemau iechyd cysylltiedig. Mae hyn yn arwain at adar sy’n iach yn gorfforol ond sy’n arddangos ymddygiad annormal o ganlyniad i newyn cronig (Broiler Breeder Paradox).

Un ffactor rheoli pwysig sy’n peryglu lles brwyliaid yw dwysedd stocio. Mae Cyfarwyddeb Brwyliaid y Cyngor Ewropeaidd (2007/43/EC) wedi gosod uchafswm o 42 kg/m2ar gyfer dwysedd stocio (ar yr amod bod gofynion penodol yn cael eu bodloni). Fodd bynnag, nid yw codau ymarfer y DU yn caniatáu dwysedd stocio mwy na 39 kg/m2. Mae manwerthwyr gyda safonau lles uwch wedi gosod uchafswm hyd yn oed yn is o 34 kg/m2.

Mae Cyrff Anllywodraethol Ewropeaidd a Gogledd America yn lobïo am ddwysedd stocio o 30 kg/m2 ar ei uchaf. Mae manteision dwysedd stocio is yn ddigon amlwg. Mae’r pellter y mae angen i’r adar deithio yn lleihau gyda dwysedd stocio, ac ar ddwysedd uwch, mae’r adar yn tueddu i wthio ei gilydd ac yn profi mwy o aflonyddu yn ystod cyfnodau gorffwys. Yn gyffredinol, mae adar ar ddwysedd stocio uwch yn tueddu i brofi mwy o broblemau iechyd, gan gynnwys mwy o broblemau cerdded a chynnydd mewn dermatitis ar waelod y droed.

 

Yr ateb a awgrymir

Mae brwyliaid sy’n tyfu’n araf, fel mae’r enw yn ei awgrymu, yn fridiau sy’n cymryd mwy o amser i gyrraedd pwysau targed ar gyfer lladd, sef 52-81 diwrnod fel arfer o’i gymharu â 35-42 diwrnod ar gyfer brwyliaid sy’n tyfu’n gyflym. Maen nhw hefyd yn bwyta mwy o fwyd i gyrraedd yr un pwysau targed ar gyfer lladd, sef y brif gost wrth gynhyrchu brwyliaid. Mae bridiau brwyliaid sy’n tyfu’n araf hefyd yn dioddef llai o newyn cronig a achosir o ganlyniad i gyfyngu ar fwyd gan eu bod yn fridiau bychain a’u bod yn gallu cynnal cyfraddau twf araf a bwyta mwy. Mae astudiaethau wedi dangos eu bod yn fwy bywiog a bod cyfraddau marwolaeth yn is o ganlyniad i’r problemau iechyd a lles a soniwyd amdanynt ymhlith y rhai sy’n tyfu’n gyflym.

Mae’r farchnad ar gyfer brwyliaid sy’n tyfu’n araf yn fach ar hyn o bryd, ac fe amcangyfrifir ei fod oddeutu 11% yn y DU. Fodd bynnag, ceir diddordeb cynyddol wedi’i arwain gan dueddiadau defnyddwyr sy’n cynnwys diddordeb mewn lles anifeiliaid sy’n cael ei hybu gan gyrff anllywodraethol, deddfwriaeth ar gyfer isafswm oedran wrth fynd i’r lladd-dy, ar awydd am fwydydd traddodiadol, a mentrau cig brandiau premiwm gyda ‘Safonau Lles’ uwch gan fanwerthwyr.

 

Sut maen nhw’n cymharu?

Perfformiad

Fel y nodwyd uchod, mae brwyliaid sy’n tyfu’n araf yn hŷn na brwyliaid sy’n tyfu’n gyflym pan maen nhw’n cyrraedd pwysau’r farchnad. Mae data a gasglwyd mewn arbrofion grŵp yn awgrymu nad oedd dwysedd stocio’n cael effaith arwyddocaol ar gyfraddau trosi bwyd a marwoldeb gyda’i gilydd (sy’n cynnwys difa ac adar marw). Mae hyn yn debygol o fod o ganlyniad i’r mesurau lles a bioddiogelwch a ddefnyddiwyd yn yr arbrofion ymchwil. Fodd bynnag, mae cyfraddau marwolaeth ar ffermydd masnachol yn uwch ymysg adar sy’n tyfu’n gyflym ar ddwysedd stocio uwch. Mae mesurau perfformiad y brwyliaid sy’n tyfu’n araf a’r rhai sy’n tyfu’n gyflym i’w gweld isod.

Paramedrau

Tyfu’n gyflym

Tyfu’n araf

Oedran mewn dyddiau ar bwysau’r farchnad (2.2- 2.6 kg)

35 - 42

45 - 63

Cymhareb trosi porthiant *

1.54 – 1.60

2.3 – 2.5

Cyfradd twf ar bwysau’r farchnad (g/dydd)

56 - 63

43 – 46

 

Marwoldeb ar 34 kg/m2 (%)

5 -7

2 – 3.5

Marwoldeb ar ≤30 kg/m2 (%)

2- 3

1 - 2

Data o arbrofion grŵp

 

Iechyd adar

Ar ffermydd gyda lefelau lles uchel, gwelwyd fod coesau brwyliaid sy’n tyfu’n araf yn fwy iach, a bod ganddynt fwy o blu, gyda llai o adar yn dangos clwyfau o ganlyniad i losgiadau cymal yr egwyd a dermatitis ar waelod y droed. Mewn archwiliadau post-mortem, mae canran uwch o frwyliaid sy'n tyfu'n gyflym yn cael eu hisraddio yn bennaf oherwydd rhesymau’n ymwneud â chyfraddau twf cyflymach megis perihepatitis ac asgites. Mae ymateb imiwnedd brwyliaid sy’n tyfu’n araf i heintiau’n well, gyda chrynodiadau uwch o’r serwm IgY (cydran hanfodol o ran ymateb i haint) mewn cywion 7 diwrnod oed.

Mae IgY yn wrthgorff mamol sy’n cael ei drosglwyddo i gywion drwy’r melynwy ac sy’n para hyd at 10 diwrnod ar ôl deor, gan ddarparu amddiffyniad imiwnedd i’r cywion nes iddynt ddatblygu eu system imiwnedd. Mae lefelau uwch o wrthgyrff yn dangos mwy o gryfder ar ddechrau bywyd ac amddiffyniad sy’n para’n hwy, sy’n enwedig o bwysig o ran iechyd brwyliaid oherwydd oes fyrrach brwyliaid masnachol. Gwelwyd hyn mewn arbrawf lle cyflwynwyd Salmonela typhimurium i'r adar, a gwelwyd fod brwyliaid sy’n tyfu’n araf yn dueddol o allu gwrthsefyll haint Salmonela yn well nag adar sy’n tyfu’n gyflym. Mae’n ddiddorol nodi bod astudiaeth arall wedi dangos nad oedd brwyliaid sy’n tyfu’n gyflym a gafodd eu heintio Campylobacter jejuni mewn arbrawf yn dangos lefelau gwahanol iawn o gario Campylobacter. Mae hyn yn bwysig o safbwynt iechyd cyhoeddus ac mae’n awgrymu bod rhesymau eraill y tu hwnt i genoteip yn debygol o reoli ac effeithio ar sefydliad Campylobacter mewn ieir.

 

Ymddygiad

Mae brwyliaid sy’n tyfu’n araf yn dangos mwy o ymddygiad chwareus (paffio, rhedeg gyda bwyd a chwarae o gwmpas), yn chwarae’n amlach ac yn fwy ymatebol i bobl sy’n eu gwylio. Mae chwarae’n gysylltiedig â lles positif, cyflwr emosiynol positif ac absenoldeb ffactorau sy’n achosi straen. Gall ymddygiad chwareus ddigwydd o ganlyniad i goesau iachach a chyrff ysgafnach, gan olygu eu bod yn gallu chwarae’n well. Mae iechyd y coesau hefyd yn gysylltiedig ag ymddygiad positif megis sefyll, rhedeg, llyfnu a rholio mewn llwch. Mae brwyliaid sy’n tyfu’n gyflym ar y llaw arall yn llai chwilfrydig ac yn fwy ofnus. Maen nhw hefyd yn arddangos llai o ymddygiad fforio o’i gymharu â brwyliaid sy’n tyfu’n araf. Mae fforio sy’n cynnwys archwilio’r amgylchedd, pigo’r pridd a bwyta’r hyn maen nhw’n ei ddarganfod yn cael ei ystyried yn un o anghenion ymddygiadol ieir.

 

Ansawdd y carcas

Mae data o arbrawf ymchwil wedi datgelu bod adar sy’n tyfu’n araf yn dangos llai o rigolau a brestiau prennaidd na bridiau eraill. Mae’r cyflyrau hyn yn gyflwr ar y cyhyrau sy’n gysylltiedig â chynnydd yn nhwf a mas cyhyrau brwyliaid sy’n tyfu’n gyflym, sy’n gallu arwain at israddio carcas. Mae canfyddiad defnyddwyr o’r rhain yn negyddol, a galli ddylanwadu ar eu dewis i brynu naill ai cyw iâr gyfan neu ffiledau brest yn unig.

Cymhariaeth o frest cyw iâr heb rigolau gwyn (chwith) a gyda rhigolau gwyn (dde)

 

Effaith Amgylcheddol

Nid yw’n ymddangos bod gwahaniaeth arwyddocaol yn effeithiau amgylcheddol unedau brwyliaid twf araf a thwf cyflym a aseswyd o ran lefelau llwch ac amonia yn y siediau cynhyrchu, ond mae’n bosibl bod ansawdd y deunydd gorwedd yn y siediau brwyliaid twf cyflym yn waeth na’r brwyliaid twf araf oherwydd croniad ysgarthion fesul uned o wagle ar y llawr. Mae deunydd gorwedd gwlyb yn gysylltiedig â diffyg iechyd mewn brwyliaid. Mae amonia mewn siediau dofednod yn effeithio’n andwyol ar iechyd pobl, adar ac ar yr amgylchedd. Fodd bynnag, nid oes astudiaeth fanwl yn edrych ar gyfanswm yr allyriadau drwy gydol y gylchred gynhyrchu ar gyfer brwyliaid twf araf a thwf cyflym wedi’i wneud hyd yma.

Ond gan ystyried y ffaith bod adar sy’n tyfu’n gyflym angen mwy o amser i gyrraedd y pwysau ar gyfer y lladd-dy, mae hynny’n awgrymu cynnydd aruthrol yn y dŵr, tir a thanwydd a ddefnyddir. Yn ogystal, byddai cynnydd yn y porthiant a’r tir angenrheidiol i dyfu’r porthiant (ŷd a ffa soia), ynghyd â’r tail a gynhyrchir gan unedau cynhyrchu brwyliaid. Byddai’r rhain yn arwain at oblygiadau economaidd gan gynnwys cynnydd mewn prisiau bwyd. Mae angen gwerthuso’r effaith amgylcheddol yn ofalus wrth asesu symudiad tuag at frid sy’n tyfu’n arafach.

Effeithiau niweidiol allyriadau amonia ar adar – cymerwyd o Swelum et al. 2021

 

Crynodeb

Mae dethol ar gyfer gwell effeithlonrwydd bwyd a datblygiad cyhyrau wedi arwain at nifer o bryderon iechyd a lles o ran brwyliaid sy’n tyfu’n gyflym. Er bod modd gwella lles yr adar hyn drwy arferion hwsmonaeth a lleihau dwysedd stocio, nid oes modd dileu’r problemau’n llwyr, yn enwedig y rhai sy’n gysylltiedig â chyfraddau twf cyflym. Mae brwyliaid sy’n tyfu’n araf yn cynnig ateb i broblemau iechyd a lles yr adar hyn sy’n tyfu’n gyflym. Yn ogystal, maent yn dangos mwy o ymddygiadau naturiol ac yn gallu gwrthsefyll heintiau yn well.

Mae brwyliaid sy’n tyfu’n araf angen mwy o amser ac adnoddau i gyrraedd pwysau ar gyfer y lladd-dy, ac o ganlyniad efallai nad ydynt yn opsiwn sy’n garedig i’r amgylchedd. Mae angen astudiaeth fanwl o effaith amgylcheddol ac ôl troed carbon brwyliaid sy’n tyfu’n araf cyn symud yn gyfan gwbl oddi wrth fridiau sy’n tyfu’n gyflym. Maen nhw hefyd yn costio mwy i’r defnyddwyr, felly gallai fforddiadwyedd gan bob rhan o’r gymdeithas fod yn destun trafod.

 

Os hoffech fersiwn PDF o'r erthygl hon, cysylltwch â heledd.george@menterabusnes.co.uk


Related Newyddion a Digwyddiadau

Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr
Cnydau Porthiant ar gyfer Pesgi Ŵyn: Cnydau Bresych
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth