14 Ionawr 2022

 

Dr Emma Davies: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

 

  • Gall mân newidiadau i reolaeth tir fferm arwain at fuddion sylweddol ar gyfer poblogaethau adar.
  • Mae bwydo ategol dros y gaeaf yn lleihau nifer y marwolaethau ymhlith adar, fodd bynnag, mae angen newidiadau i’r ecosystem gyfan i wyrdroi dirywiad poblogaethau.
  • Dylid ystyried dulliau i wella cynefinoedd adar fferm ar lefel y fferm a’r dirwedd fel bod ecosystemau’n cael eu cefnogi’n briodol ac yn effeithiol.
  • Gall rheoli tir fferm i gefnogi adar hefyd arwain at fuddion cadarnhaol o ran cynhyrchiant y fferm, cynaliadwyedd a lles anifeiliaid.

 

Cyflwyniad

Roedd polisïau a budd-daliadau a ddatblygwyd rhwng y 1970au a’r 1990au yn annog cynnydd mewn cynhyrchiant a sicrwydd bwyd. Roedd y polisïau hyn yn llwyddiannus iawn; fodd bynnag, un o’r goblygiadau anfwriadol oedd bod y newid mewn defnydd tir a dulliau ffermio dwys wedi cyfrannu at golli cynefinoedd naturiol a bioamrywiaeth. O ganlyniad, mae polisïau diweddar y llywodraeth wedi symud tuag at gefnogi’r sector amaeth nid yn unig i gynhyrchu bwyd, ond hefyd ar gyfer nwyddau cyhoeddus, bioamrywiaeth a lleihau’r newid yn yr hinsawdd. Un o’r effeithiau mwyaf ar fioamrywiaeth yw’r dirywiad ym mhoblogaethau rhywogaethau adar fferm. Fodd bynnag, mae rheoli tir fferm mewn modd sy’n cefnogi poblogaethau adar fferm yn gallu arwain at ystod o effeithiau cadarnhaol, nid yn unig ar gyfer poblogaethau adar, ond hefyd o ran cynhyrchiant y fferm, cynaliadwyedd a lles anifeiliaid. Gyda diwedd y cynllun taliad sylfaenol yn agosáu ar ddiwedd 2023, bydd ystyried cyflwyno newidiadau a fydd yn cefnogi adar fferm ac ecosystem ehangach y fferm hefyd yn debygol o helpu ffermwyr i baratoi ar gyfer dyfodiad y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, a fydd yn cael ei gyflwyno o 2025.

Mae rhai ffermydd yng Nghymru eisoes yn treialu ffyrdd o gefnogi rhywogaethau adar fferm, gyda chefnogaeth prosiect Partneriaeth Arloesi Ewrop o’r enw Menter Adar ar Dir Fferm Cymru.

 

Heriau sy’n wynebu poblogaethau adar ar dir fferm

Amcangyfrifir bod poblogaethau adar ar dir fferm wedi lleihau oddeutu 50% ers 1970. Mae niferoedd rhywogaethau sy’n bwyta hadau a grawn megis bras melyn, coch y berllan, bras yr ŷd, ehedydd a’r siglen felen, adar hirgoes megis y gornchwiglen, y gylfinir, y pibydd groesgoch, ac adar helwriaeth megis y betrisen a’r rugiar ddu wedi profi dirywiad sylweddol mewn poblogaeth. Mae poblogaethau adar ysglyfaethus megis cudyll coch, cudyll bach a’r dylluan wen hefyd wedi dirywio.

Mae poblogaeth adar fferm megis bras yr ŷd wedi dirywio’n sylweddol.

Mae dirywiad ym mhoblogaeth adar fferm yn gysylltiedig â llai o adar yn goroesi’r gaeaf, llai’n goroesi’r tymor bridio a lleihad yn nifer y nythod sy’n llwyddo i gynhyrchu cywion llwyddiannus. Mae’r ffactorau hyn yn gysylltiedig â phrinder bwyd yn yr haf a’r gaeaf, dirywiad mewn cynefinoedd bridio hanfodol, a chynnydd mewn ysglyfaethu, o fewn systemau tir âr a glaswelltir fel ei gilydd.

Gall bwyd ar gyfer adar sy’n bwyta hadau ddeillio o hadau sy’n cael eu hau, hadau sy’n cael eu gollwng yn ystod y cynhaeaf a phlanhigion chwyn llydanddail sy’n bresennol o fewn cnydau a gwyndonnydd glaswellt. Mae planhigion sy’n cynhyrchu hadau hefyd yn bresennol mewn gwrychoedd, dolydd ac ymylon caeau. Mae adar sy’n bwyta pryfed yn ddibynnol ar boblogaethau pryfed o fewn yr holl amgylcheddau hyn, yn ogystal â chynefinoedd corsiog.

Fodd bynnag, ystyrir mai dirywiad mewn cyflenwad bwyd dros y gaeaf yw un o’r prif ffactorau sy’n arwain at ddirywiad poblogaethau adar. Dros y degawdau diwethaf, mae cyflenwad bwyd dros y gaeaf wedi lleihau o ganlyniad i symudiad oddi wrth gnydau sy’n cael eu hau yn y gwanwyn i gnydau sy’n cael eu hau yn y gaeaf, diffyg cnydau âr o fewn systemau glaswelltir yn bennaf, a dulliau dwysach o reoli tir âr a glaswelltir.

Mae symud oddi wrth hau cnydau grawn yn y gwanwyn i hau yn yr hydref yn arwain at leihad sylweddol yn y bwyd sydd ar gael trwy gydol y flwyddyn, gan nad oes grawn a heuwyd yn y gwanwyn na grawn sy’n cael ei ollwng yn ystod y cynhaeaf ar gael. Nid yw sofl cnydau sy’n cael eu hau yn y gwanwyn, sy’n darparu mannau bwydo hanfodol yn y gaeaf, ar gael mewn systemau hau yn y gaeaf. Nid yw’r safleoedd nythu a’r mannau bwydo mewn llystyfiant byr a ffefrir gan rywogaethau sy’n nythu ar y tir megis y gornchwiglen a’r ehedydd ar gael chwaith gan fod grawn sy’n cael ei hau yn y gaeaf yn rhy dal ac yn rhy ddwys erbyn dechrau’r tymor nythu. Hyd yn oed mewn systemau hau yn y gwanwyn, mae prinder bwyd yn gwaethygu ar ddiwedd y gaeaf gan fod sofl chnydau hadau’n cael eu cynaeafu ym mis Chwefror i baratoi ar gyfer hau yn y gwanwyn.

Mae defnyddio chwynladdwyr yn eang ac arferion rheoli chwyn dwys yn lleihau nifer y planhigion sy’n cynhyrchu hadau’n sylweddol, ac mae defnydd eang o bryfleiddiaid yn lleihau niferoedd pryfed. Ynghyd â’r defnydd o systemau âr ungnwd a glaswelltir cystadleuol rhywogaeth unigol, mae bioamrywiaeth planhigion blodau, hadau a grawn yn gyfyngedig iawn. Mae arferion megis torri glaswellt yn amlach er mwyn cynhyrchu silwair hefyd yn arwain at leihad sylweddol mewn bioamrywiaeth mewn ecosystemau fferm.

Mae gwella tir ymylol a fu’n anghynhyrchiol yn y gorffennol, ynghyd â gwaredu gwrychoedd yn lleihau faint o fwyd sydd ar gael yn ogystal ag adnoddau cynefin. Mae draenio cynefinoedd glaswelltir gwlyb yn sylweddol er mwyn cynhyrchu glaswelltir sych a chnydau grawn hefyd wedi cyfrannu at ddirywiad rhywogaethau adar hirgoes ar wlyptir, gan fod yr adar hyn yn dibynnu ar boblogaethau infertebratau sydd ar gael mewn cynefinoedd o’r fath.

O ganlyniad, ar draws y DU ac Ewrop, mae poblogaethau adar wedi dirywio fwyaf mewn ardaloedd llawr gwlad cynhyrchiol iawn sy’n cael eu rheoli’n ddwys. Fodd bynnag, mae poblogaethau adar mewn ardaloedd ucheldir nad ydynt fel arfer yn cynnwys cnydau âr hefyd wedi gweld dirywiad sylweddol. Er enghraifft, mae ardaloedd ucheldir yng Nghymru wedi gweld dirywiad ym mhoblogaeth adar sy’n nythu ar y tir ac adar sy’n gysylltiedig â gweundir grugog megis grugieir a’r cudyll bach. Mae’r dirywiad hwn yn gysylltiedig gyda chynnydd parhaus mewn niferoedd stoc a phwysau pori dwys.

 

Sut y gellir cefnogi rhywogaethau adar fferm?

Mae’r straen bwyd ar ei uchaf ar ddiwedd y gaeaf o ganlyniad i brinder bwyd a gofynion metabolaidd uwch o ganlyniad i dywydd anffafriol. Felly, bydd darparu cyflenwad bwyd ategol yn cynyddu cyfraddau goroesi dros y gaeaf. Gwelwyd hyn trwy fwydo mewn gorsafoedd penodol, lle bo cyfaint sylweddol o hadau’n cael eu darparu mewn lleoliadau cudd. Gwelwyd fod y dull hwn yn arafu dirywiad rhywogaethau megis bras melyn, bras y cyrs a llwyd y gwrych. Fodd bynnag, nid yw dulliau bwydo mewn gorsaf benodol wedi atal na gwyrdroi dirywiad poblogaethau adar, gan fod cynefinoedd bridio o ansawdd uchel a chyflenwad bwyd dros yr haf hefyd yn hanfodol er mwyn i adar allu magu cywion yn llwyddiannus. Felly,  mae cyflwyno newidiadau sy’n cynyddu adnoddau’r ecosystem gyfan, gan gynnwys poblogaethau pryfed, argaeledd hadau a chynefin ar gyfer bridio yn hanfodol. Gellir cyflwyno addasiadau o’r fath mewn amgylcheddau tir âr a glaswelltir. Mae hyn yn bwysig mewn rhanbarthau fel Cymru lle mae 81% o’r 2.1 miliwn hectar sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer amaethyddiaeth yn laswelltir.

Un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o gynyddu’r adnoddau sydd ar gael ar gyfer adar yw lleihau neu atal defnyddio chwynladdwyr a phryfleiddiaid. Gall gwyndonnydd cnydau sy’n cael eu rheoli mewn modd organig gynnal teirgwaith yn fwy o rywogaethau chwyn llydanddail a chynnydd sylweddol mewn poblogaethau pryfed o’i gymharu â chaeau âr nad ydynt yn cael eu rheoli’n organig. Mae’r cynnydd hwn mewn rhywogaethau planhigion a phryfed yn darparu safleoedd nythu a bwyd hanfodol ar gyfer cywion sy’n datblygu yn ystod y tymor bridio.

Fel arall, gellir hau caeau gyda chymysgeddau hadau sydd wedi cael eu datblygu’n arbennig i ddarparu bwyd trwy gydol y gaeaf a’r tymor bridio. Fodd bynnag, er mwyn bod yn effeithiol, mae angen rheoli cnydau sy’n cael eu hau er mwyn sicrhau nad ydynt yn teneuo cyn y gwanwyn. Mae cymysgeddau’n seiliedig ar gnydau bresych megis mwstard neu gêl yn darparu gorchudd, ac mae rhygwenith, ceirch, sorgwm, cwinoa, miled, gwenith yr hydd, blodau haul, had llin a chodlysiau yn cynhyrchu hadau gwerthfawr. Gall ffermydd âr hefyd gynyddu nifer y rhywogaethau adar y maen nhw’n eu cefnogi trwy dyfu amrywiaeth o wahanol gnydau gan gynnwys grawn, ffacbys a hadau olew.

Gall hau cymysgedd o gnydau had helpu adar megis bras melyn i oroesi’r gaeaf.

Mae astudiaethau poblogaeth wedi dangos er bod niferoedd yr ehedydd yn uchel mewn cnydau grawn yn y gaeaf, mae niferoedd yr ehedydd o fewn cnydau grawn gaeaf yn isel yn ystod hanner olaf y tymor bridio (Mai-Gorffennaf) gan fod adar angen cnydau sy’n llai na 30cm o uchder, a’u bod yn ffafrio cnydau sy’n cael eu hau yn y gwanwyn a thir sydd wedi’i neilltuo. Felly, bydd tyfu cymysgedd o gnydau grawn sy’n cael eu hau yn y gaeaf a’r gwanwyn yn darparu safleoedd nythu a bwyd trwy gydol y flwyddyn.

Gall cyfuno arferion organig gyda datblygiad ardaloedd o dir wedi’u neilltuo hefyd fod yn effeithiol iawn er mwyn cynyddu poblogaethau adar fferm. Gall tir sy’n cael ei neilltuo fod yn ddarn o dir parhaol sy’n cael ei adael i ddatblygu gorchudd llystyfiant yn naturiol, neu ardal o dir gan gynnwys cnydau grawn sy’n cael eu rheoli fel rhan o strategaeth neilltuo ar system gylchdro. Gall y ddau ddewis ddarparu cynefin o ansawdd uchel yn ystod y gaeaf a’r gwanwyn ar gyfer sawl rhywogaeth megis y betrisen a’r ehedydd. Gall tir sydd wedi’i neilltuo’n barhaol wella gwrychoedd ac ymylon caeau, clustogi cyrsiau dŵr a chynyddu bioamrywiaeth planhigion a phryfed ar ffermydd sy’n tyfu cnydau âr yn unig. Fodd bynnag, er mwyn i dir sy’n cael ei neilltuo fod yn effeithiol, mae angen iddo gael ei reoli’n briodol ar gyfer bywyd gwyllt. Er enghraifft, mae angen torri tir sydd wedi’i neilltuo unwaith bob blwyddyn i ddwy flynedd er mwyn atal olyniaeth glaswellt eilaidd a fydd yn lleihau bioamrywiaeth planhigion. Fodd bynnag, ar ddiwedd y tymor bridio (diwedd Awst) yw’r amser mwyaf effeithiol i dorri’r ardaloedd hyn. Yn yr un modd, o fewn system gylchdro, y ffordd orau o waredu gorchudd llystyfiant wrth baratoi ar gyfer trin y tir yw chwistrellu mor hwyr â phosibl, gan fod hyn yn diogelu’r nythod rhag cael eu haflonyddu’n uniongyrchol ac yn galluogi i orchudd llystyfiant a niferoedd pryfed leihau’n raddol dros nifer o wythnosau.

Gellir rheoli ardaloedd addas i greu cynefinoedd ar dir fferm gwlyb, sy’n bwysig ar gyfer rhywogaethau gwlyptir megis cornchwiglod. Mae tir moel yn gwella mynediad at fwyd ar gyfer adar sy’n chwilota am fwyd, mae’r llystyfiant yn darparu safleoedd nythu, ac mae ffynonellau dŵr parhaol yn cynnal infertebratau sy’n ddibynnol ar wlyptir, sy’n ffynhonnell fwyd ar gyfer adar sy’n bwyta pryfed yn ogystal â’r rhai sy’n bwyta hadau. Mae dulliau o greu cynefinoedd tir fferm gwlyb yn cynnwys clirio ffosydd, creu dyfrffyrdd newydd trwy gloddio sianeli bas yn y pridd, neu greu cynefinoedd gwlyptir bychain. Mae addasiadau hirdymor yn golygu mabwysiadu arferion cadwraeth neu drin y tir cyn lleied â phosibl er mwyn cynyddu bioamrywiaeth pryfed a lleihau’r effaith ar strwythur y pridd.

Mae cornchwiglod yn ffafrio systemau ffermio gyda glaswelltiroedd gwlyb sy’n cael eu rheoli’n eang

Mae adfer ansawdd nodweddion naturiol megis gwrychoedd ac ymylon caeau (talarau âr neu ymylon glaswelltir garw) yn cefnogi poblogaethau adar gan fod y rhain yn cael eu defnyddio gan ystod o rywogaethau ar gyfer bwyd, cysgod a safleoedd nythu. Y ffactorau sy’n dylanwadu fwyaf ar ansawdd gwrychoedd yw eu maint,  faint o goed maent yn eu cynnwys, ac amrywiaeth a chymhlethdod strwythurol y llystyfiant brodorol. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau’r buddion gorau o’r gwrychoedd, dylid eu rheoli'n ofalus a’u hintegreiddio i’r dirwedd. Gellir cynyddu effeithiolrwydd y gwrychoedd trwy eu cyfuno gyda chynefinoedd eraill megis coetiroedd, stribedi blodau gwyllt, llethrau a ffosydd, a’u lleoli ymhell o beryglon megis ffyrdd.  Fodd bynnag, wrth leoli gwrychoedd, dylid bod yn ofalus rhag aflonyddu cynefinoedd eraill pwysig megis dolydd glaswellt, gan fod rhai rhywogaethau angen cynefinoedd o faint penodol.  Felly, er bod adfer gwrychoedd yn cael ei gefnogi’n eang gan gynlluniau amaeth amgylchedd, dylid ystyried y rhain yn ofalus ar lefel y fferm unigol.

Mae’r betrisen yn defnyddio’r llystyfiant trwchus a ddarperir ar ymylon caeau i nythu.

Mae arferion rheoli glaswelltir, gan gynnwys lleihau dwysedd stocio a phwysedd pori yn bwysig er mwyn sicrhau iechyd rhostir, gweundir a glaswelltir gwlyb, er mwyn diogelu safleoedd nythu a chyflenwadau bwyd. Mae’n bwysig nodi bod ffermydd glaswelltir, heb unrhyw ffermio âr yn gallu cyflenwi hadau hanfodol ar gyfer adar trwy gydol y gaeaf pan fo prinder planhigion eraill gyda hadau trwy ganiatáu i wyndonnydd rhygwellt (Lolium spp) gynhyrchu had.

 

Manteision cefnogi poblogaethau adar ar dir fferm

Mae poblogaethau adar fferm yn werthfawr o safbwynt ecolegol, ac maent yn cael eu cydnabod fel un o ddangosyddion pwysicaf ansawdd ecosystemau a chynaliadwyedd arferion ffermio. Gall buddsoddi mewn tirweddau amaethyddol sy’n cefnogi poblogaethau adar fferm ddarparu nifer o fuddion a gwasanaethau eraill i ffermydd, yn ogystal â chadwraeth adar.

Er enghraifft, mae gwrychoedd ac ymylon caeau o ansawdd uchel yn darparu coridorau bywyd gwyllt, sy’n cysylltu ecosystemau ar gyfer ystod o rywogaethau anifeiliaid, gan gefnogi bioamrywiaeth mamaliaid, adar a phryfed. Mae’r nodweddion hyn hefyd yn cynnig cynefin ar gyfer pryfed peillio sy’n hanfodol ar gyfer cynhyrchiant, a phryfed ysglyfaethu, sy’n bwysig er mwyn rheoli plâu yn fiolegol. Mae gwrychoedd yn lleihau cyflymder y gwynt, gan leihau erydiad pridd, a gweithredu fel rhwystr rhag plâu sy’n cael eu chwythu gan y gwynt. Mae gwrychoedd a choed aeddfed hefyd yn darparu buddion lles ar gyfer da byw trwy ddarparu cysgod yn ystod cyfnodau o dywydd eithafol, yn ystod yr haf a’r gaeaf.

Mae gwrychoedd, ymylon caeau a thir sy’n cael ei neilltuo hefyd yn gwella ansawdd y pridd ac yn ffurfio rhan o leiniau llysieuol a glannau afon sy’n tynnu llygryddion o ddŵr daear a dŵr ffo, gan leihau llygredd mewn cyrsiau dŵr, a gwella ansawdd dŵr. Mae hyn yn enwedig o fuddiol mewn ardaloedd sydd wedi’u dynodi’n barthau perygl nitradau (NVZ) sy’n cynnwys Cymru gyfan ers mis Ebrill 2021.

Mae rheoli cnydau a glaswelltir mewn modd llai dwys hefyd yn gwella iechyd y pridd, gan gyfrannu at gynnal neu hyd yn oed gynyddu cynhyrchiant, gan hefyd leihau’r angen i drin y tir, ynghyd â chostau mewnbynnau plaladdwyr a gwrtaith. Mae’n bwysig nodi bod rheoli tirweddau i gefnogi iechyd y pridd a bioamrywiaeth hefyd yn debygol o gynyddu gallu’r tir fferm i ddal a storio carbon, gan gyfrannu at liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd.

 

A yw newidiadau ar y fferm yn effeithiol?

Ledled y DU, mae ymyriadau penodol sy’n canolbwyntio ar ecoleg rhywogaethau unigol wedi llwyddo i atal a gwyrdroi dirywiad poblogaethau blaenoriaeth uchel megis bras Ffrainc, rhegen yr ŷd  a’r gylfinir.  Fodd bynnag, nid yw’r tueddiad o ddirywiad cyffredinol mewn adar fferm wedi cael ei wyrdroi hyd yn hyn.

Mae hyn oherwydd bod y nifer sy’n manteisio ar gynlluniau amaeth amgylchedd cyffredinol yn amrywiol iawn, a’r bod yn ymddangos bod ymyriadau cyffredinol yn arwain at ganlyniadau cymysg o ran rhywogaethau penodol. Er enghraifft, daeth un astudiaeth a oedd yn canolbwyntio ar ardaloedd tir isel yn Lloegr i’r casgliad bod darparu ardaloedd o sofl gaeaf ac ardaloedd hadau adar gwyllt wedi’u hau, rheoli glaswelltir a gwrychoedd yn gysylltiedig â chynnydd a dirywiad yng nghyfraddau twf poblogaethau adar, gan ddibynnu ar y rhywogaeth dan sylw. Mae’r canlyniadau cymysg hyn yn adlewyrchu i ba raddau mae’r gwahanol opsiynau rheoli’n mynd i’r afael â’r ffactorau sy’n cyfyngu ar boblogaethau rhywogaethau penodol, ac mae’n dangos bod angen ystyried dulliau ar raddfa’r fferm a’r dirwedd.

Mae mabwysiadu nifer o fesurau’n fwy tebygol o arwain at gynnydd mewn niferoedd poblogaethau. Er enghraifft, daeth astudiaeth chwe blynedd o hyd yn edrych ar fferm ddwys ar raddfa eang ar dir isel, i’r casgliad bod cyfuniad o neilltuo tir, tyfu cnydau cymysg a strategaeth o ddefnyddio ychydig iawn o chwynladdwyr a phryfladdwyr wedi arwain at gynnydd cyson a sydyn mewn poblogaethau adar, gyda chynnydd o gymaint â 46% a 300% ym mhoblogaeth yr ehedydd a’r betrisen yn y drefn honno.

Daeth astudiaeth a oedd yn archwilio effeithiolrwydd cynllun Tir Gofal (y cynllun amaeth-amgylchedd mwyaf yng Nghymru rhwng 1999-2013) i’r casgliad bod y cynllun wedi cael effaith gadarnhaol ar boblogaethau nifer o rywogaethau adar fferm ledled Cymru. Er enghraifft, roedd rheoli gwrychoedd wedi effeithio’n gadarnhaol ar boblogaethau llwyd y gwrych, llinos werdd, adar to, llinos a bras melyn.  Daeth yr astudiaeth hefyd i’r casgliad bod rheoli glaswelltir yn llai dwys gan ddefnyddio llai o blaladdwyr wedi effeithio’n gadarnhaol ar boblogaethau llinos, a bod lleihau dwysedd stocio mewn ardaloedd coediog wedi arwain at gynnydd ym mhoblogaethau ystod o rywogaethau gan gynnwys yr aderyn du, coch y berllan, gwybedog mannog, titw’r wern a thelor benddu. Yn ogystal, roedd ffermydd âr a oedd wedi darparu hadau dros y gaeaf wedi effeithio’n gadarnhaol ar boblogaethau’r llinos werdd, ac roedd ffermydd a oedd wedi cefnogi infertebratau trwy leihau eu defnydd o chwynladdwyr a phryfladdwyr hefyd wedi effeithio’n gadarnhaol ar niferoedd  y llwydfron.

 

Crynodeb

Mae cynyddu darpariaeth bwyd adar dros y gaeaf yn lleihau nifer yr adar sy’n marw. Fodd bynnag, mae angen cynnal darpariaeth bwyd drwy gydol diwedd y gaeaf i fod yn effeithiol. Er mwyn gwyrdroi’r tueddiad o leihad mewn poblogaethau adar, mae angen addasiadau ychwanegol ar ffermydd sy’n darparu safleoedd nythu da ac adnoddau bwyd ar gyfer y tymor bridio. Dylai’r math o addasiadau a ddewisir roi ystyriaeth i ofynion ecolegol  y rhywogaethau ar y dirwedd, ac o ganlyniad, efallai y bydd angen i’r rhain fynd y tu hwnt i gynlluniau amaeth-amgylchedd. Er bod angen i ardal y tir fferm sy'n cynnig y dulliau hyn fod yn sylweddol, mae gwella ansawdd y cynefinoedd yr un mor bwysig er mwyn dylanwadu ar boblogaethau adar.

 

Os hoffech fersiwn PDF o'r erthygl hon, cysylltwch â heledd.george@menterabusnes.co.uk


Related Newyddion a Digwyddiadau

Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr
Cnydau Porthiant ar gyfer Pesgi Ŵyn: Cnydau Bresych
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth