Menter Adar ar Dir Fferm Cymru: Bwydo adar tir fferm dros y gaeaf er mwyn gwyrdroi dirywiad ar diroedd fferm cynhyrchiol sy’n seiliedig ar y borfa
Mae nifer o gyfleoedd o fewn systemau ffermio’n seiliedig ar y borfa a allai helpu i wyrdroi dirywiad yn niferoedd adar tir fferm. Yn ystod y prosiect dwy flynedd a hanner hwn, mi fuodd un ffermwr llaeth yn Sir Ddinbych ac un ffermwr defaid yng Nghonwy yn gweithio’n agos gyda’r Ymddiriedolaeth Anifeiliaid Hela a Chadwraeth Bywyd Gwyllt (GWCT) i ymchwilio i weld a allai ddarparu cynefin ynghyd â bwyd ychwanegol dros y gaeaf helpu i gynyddu niferoedd adar tir fferm.
Ar ddechrau'r prosiect, rhoddwyd ystyriaeth ofalus i pa gnydau gorchudd i’w defnyddio ar bob fferm, ynghyd â lle i’w plannu. Cafwyd y cnydau gorchudd hyn wedi’u llunio i fodloni gofynion y ddwy fferm, ynghyd â darparu bwyd dros y gaeaf ar gyfer adar tir fferm sy’n bwyta hadau, a darparu cysgod rhag ysglyfaethwyr a thywydd garw ar gyfer llu o fywyd gwyllt arall. Sefydlwyd ardaloedd bwydo adar hefyd ar draws y ddwy fferm I ddarparu bwyd ychwanegol i’r adar dros y gaeaf. Gobeithwyd y bydd bwydo atodol yn lleihau nifer y marwolaethau dros y gaeaf ac yn sicrhau poblogaeth fridio uwch ymhlith yr adar llawn dwf yn y gwanwyn canlynol. Yna cynhaliwyd arolygon trwy gydol y prosiect i gofnodi niferoedd adar a pheillwyr er mwyn dadansoddi effaith y dulliau hyn.
Ceir tystiolaeth wyddonol fod y technegau hyn wedi hybu niferoedd adar tir fferm mewn ardaloedd eraill yn y DU a nod y prosiect hwn oedd i brofi’r un canlyniad ar ddwy fferm tir pori yng Nghymru. Dangoswyd y prosiect yma, y gallai’r mesurau syml hyn fod yn ddulliau effeithiol o warchod adar gan gyd-fynd â systemau ffermio da byw masnachol ar yr un pryd. Gyda’r posibilrwydd o symud tuag at gefnogaeth gymorthdaledig i ddarparu nwyddau cyhoeddus ar ffermydd, nod y prosiect hwn oedd rhoi enghraifft o sut y gellir gwneud hynny ar raddfa’r fferm.
Canlyniadau'r Prosiect:
- Dangosodd arolygon adar magu fod gan y cnydau a'r porthiant botensial i wneud gwahaniaeth i'r poblogaethau ar y ffermydd eu hunain.
- Yn ystod oes y prosiect hwn, roedd nifer yr adar magu wedi dyblu