10 Chwefror 2023
Mae ffermydd Cymru wedi cynyddu poblogaethau adar tir fferm yn sylweddol ers tyfu cnydau gorchudd sy'n cynhyrchu hadau a darparu gorsafoedd bwydo sy'n cynnwys hadau ategol.
Mae prosiect Partneriaeth Arloesi Ewrop (EIP) yng Nghymru, sy'n cael ei redeg ar y cyd â'r Game and Wildlife Conservation Trust (GWCT) ar ddwy fferm, wedi ceisio helpu i wrthdroi'r dirywiad yn niferoedd adar tir fferm yng Nghymru.
Wrth i'r prosiect tair blynedd agosáu at ei derfyn, mae'n dangos canlyniadau dramatig.
Mae arolygon y gaeaf wedi dangos cynnydd o chwe gwaith cymaint yn nifer yr adar sy'n ymweld â'r ffermydd hynny, gan gynnwys llinosiaid, rhywogaeth sydd ar y rhestr goch o Adar o Bryder Cadwraethol. Yn hanfodol, canfu arolygon adar bridio fod poblogaethau adar tir fferm wedi dyblu.
Dywedodd Cynghorydd GWCT yng Nghymru, Matt Goodall, fod y tîm entomoleg hefyd wedi canfod niferoedd uwch o bryfed yn y cnydau gorchudd, ac ystod fwy amrywiol o rywogaethau, sy'n helpu i ddarparu porthiant i'r adar a'u cywion yn y gwanwyn a'r haf.
Mae Mr Goodall yn nodi nad adar yn unig sy'n elwa o gnydau gorchudd gaeaf ond priddoedd fferm hefyd. “Mae'r rhain yn blanhigion sy'n gwreiddio'n ddyfnach felly mae potensial i wella iechyd y pridd ac atafaelu mwy o garbon, yn enwedig os yw'r cnwd yn cael ei ddrilio'n uniongyrchol.”
Ledled Cymru ac yn y DU yn gyffredinol, mae niferoedd adar tir fferm wedi dirywio gyda rhywogaethau fel breision yr ŷd yn diflannu'n gyfan gwbl o Gymru, ac eraill, gan gynnwys breision melyn, ar y rhestr goch.
Yn ôl Mr Goodall, un rheswm am yr hyn yw polareiddio systemau ffermio. “Roedd yn arfer bod gan Gymru mwy o dirwedd ffermio cymysg, gyda chnydau'n cael eu tyfu ar y fferm i fwydo gwartheg a defaid.
“O ganlyniad i'r dirwedd ffermio fwy polareiddiedig honno, mae llawer o rywogaethau sy'n dibynnu ar fwyta hadau yn dirywio.”
Dewiswyd y ddwy fferm sy'n rhan o'r prosiect - Fferm Tŷ Newydd, fferm laeth organig yn Nhrefnant, Sir Ddinbych, a Fferm Gilar, fferm ddefaid a bîff mynydd ger Pentrefoelas — oherwydd eu bod yn gynrychioliadol o ffermydd a geir ledled Cymru.
Tyfwyd cyfanswm cyfunol o 5.5 hectar (ha) o gnydau gorchudd cymysgedd hadau adar gwyllt ar draws y ddau ddaliad a llenwyd bwcedi bwydo ategol â hadau ger y cnydau i ddarparu digon o fwyd yn ystod y 'bwlch llwglyd' o fis Rhagfyr i fis Ebrill, pan fwyteir yr had yn y cnwd gorchudd.
Roedd arolygon llinell sylfaen o boblogaethau ym mlwyddyn gyntaf y prosiect yn fan cychwyn.
Roedd yr arolwg a gynhaliwyd yn ddiweddar wrth i'r prosiect ddod i ben yn dangos cynnydd sydyn yn nifer yr adar.
Dywed Mr Goodall fod y canlyniadau wedi rhagori ar y disgwyliadau. “Efallai y bydd rhai amheuwyr yn awgrymu ein bod yn denu adar o ardaloedd eraill i'r safleoedd hyn, nad ydym yn gweld cynnydd mewn poblogaethau, ond hyd yn oed os yw hynny’n wir, mae’r adar hynny yn goroesi'r gaeaf yn hytrach na marw ac yn gryfach yn mynd i mewn i'r tymor bridio.
“Fodd bynnag, mae ein harolygon adar sy'n bridio yn dangos bod y cnydau a'r porthiant yn gwneud gwahaniaeth i'r poblogaethau ar y ffermydd eu hunain.”
Yr hyn a oedd wedi bod yn annisgwyl oedd dyblu niferoedd adar bridio mor gyflym ac o fewn oes y prosiect, ychwanega.
Er bod prosiect EIP yn dod i ben, dywed Mr Goodall fod uchelgais i barhau â'r gwaith hwn, gyda'r gobaith y bydd cynlluniau cymorth yn y dyfodol yn darparu opsiynau sydd o fudd i boblogaethau adar tir fferm.
Gall pob ffermwr yng Nghymru helpu i nodi unrhyw newidiadau i boblogaethau adar yng Nghymru drwy gymryd rhan yng Nghyfrifiad Adar Tir Fferm Mawr GWCT, eleni rhwng 3-19 Chwefror. Ewch i https://www.bfbc.org.uk/ i ddarganfod sut.