Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth.

Chwefror 2024

 

  • Gellir bwydo cnydau porthiant i anifeiliaid cnoi cil mewn cyfnodau pan fo bylchau o ran porthiant, ac felly gellir ymestyn y tymor pori a lleihau dibyniaeth ar fwydydd ategol.
  • Yn nodweddiadol, mae cnydau bresych yn cynnwys llawer o egni metaboladwy, cymhareb uchel o garbohydradau eplesadwy i garbohydradau strwythurol a lefel protein gymharol dda.
  • Er bod cyfansoddion maethol cnydau bresych yn dda, mae angen ystyried crynodiad metabolion eilaidd o fewn y planhigion sy’n gallu arwain at ddiffyg perfformiad ac effeithio’n negyddol ar iechyd. Fodd bynnag, gellir osgoi’r rhain drwy reoli’n ofalus.

Cyflwyniad

Mae gan anifeiliaid cnoi cil anatomi a ffisioleg unigryw sy’n eu galluogi i oroesi ar ddiet yn seiliedig ar blanhigion. O ganlyniad, cnydau porthiant yw’r bwyd mwyaf economaidd ar gyfer anifeiliaid cnoi cil, ac mae cnydau porthiant poblogaidd mewn systemau pori yn y DU fel arfer yn cynnwys glaswelltau megis rhygwellt parhaol (Lolium perenne) a chodlysiau megis meillion gwyn (Trifolium repens L.) a choch (Trifolium pratense L.). Fodd bynnag, mae argaeledd porfa ac ansawdd o ran maeth yn amrywio drwy gydol y flwyddyn, lle gwelir diffyg porthiant i ateb galw gan dda byw fel arfer yn ystod misoedd y gaeaf (Ffigur 1). Cyfeirir at hyn yn aml fel bwlch porthiant.  Yn ystod y cyfnod hwn, mae’n gyffredin i gynnig bwyd ategol, a allai gynnwys porthiant wedi’i gywain megis silwair neu fyrnau gwair a gynhyrchwyd yn ystod misoedd y gwanwyn/haf pan fo twf y borfa yn uchel ac yn fwy na’r galw gan anifeiliaid. Fodd bynnag, gall fod yn heriol i gynhyrchu porthiant o’r fath o ganlyniad i ansicrwydd o ran y tywydd, ac mae ei fwydo’n rheolaidd yn ddwys o ran llafur.  Yn ogystal, ceir adegau lle nad yw porthiant wedi’i gywain yn cynnig digon o faeth i ateb gofynion cynhyrchiant, sy’n gallu achosi problemau wrth besgi ŵyn. Er mwyn ceisio lliniaru hyn, gellir ychwanegu dwysfwyd ategol at y diet, ond mae’r rhain yn ddrud i’w prynu ac mae costau llafur uwch yn gysylltiedig â’u bwydo, ac felly gall y rhain gyfrannu’n sylweddol at gostau amrywiol ar ffermydd. Mae defnyddio cnydau porthiant a dyfir gartref yn cynnig ffordd arall o ddarparu maeth ar gyfer pesgi ŵyn dros fisoedd yr hydref a’r gaeaf. Yn ogystal, gwelwyd bod cnydau porthiant yn fuddiol y tu hwnt i fisoedd y gaeaf. Yn Awstralia, mae cnydau porthiant yn aml yn cael eu hau yn y gwanwyn a’u bwydo i anifeiliaid cnoi cil sy’n pori yn ystod yr haf pan fo prinder glaw, a bod y tymheredd yn uchel gan olygu bod twf glaswellt yn isel.

 

Ffigwr 1: Graff yn dangos cyflenwad a galw am laswellt yn y DU, llun gan AHDB.

Buddion Cnydau Porthiant ar Ffermydd

Gall ymgorffori cnydau porthiant ar ffermydd fod yn fuddiol am sawl rheswm. Yn gyntaf, gall cnydau porthiant weithredu fel cnydau gorchudd mewn cylchdroadau tir âr, sy’n galluogi’r pridd i gael ei orchuddio pan nad yw’r prif gnwd âr yn tyfu.  Gall hyn fod o fudd i iechyd y pridd gan ei fod yn gallu helpu i rwystro erydiad y pridd a gwella ffrwythlondeb drwy atal colledion maetholion o’r pridd o ganlyniad i ddŵr ffo a thrwytholchi. Yn yr un modd, mae deunydd organig dros ben yn gallu cael ei ail-integreiddio i’r pridd. Yn ail, gellir defnyddio cnydau porthiant fel cnydau toriad, sy’n fuddiol o ran atal maetholion rhag dihysbyddu yn y pridd a fyddai’n gallu digwydd o ganlyniad i systemau cnydau parhaus. Yn ogystal, gall cnydau toriad helpu i dorri cylchred pathogenau, plâu a chlefydau sy’n gysylltiedig â phlanhigion a phriddoedd. Mae hyn yn fuddiol o ran lleihau dibyniaeth ar blaladdwyr cemegol ar gyfer rheoli. O ganlyniad, ceir potensial i gnydau porthiant o’r fath fod yn rhan o gynlluniau rheoli plâu yn integredig. Yn drydydd, gall defnyddio cnydau porthiant helpu i ymestyn y tymor pori, gan leihau dibyniaeth ar fwydydd ategol. Gall ymestyn y tymor pori fod yn arbennig o fuddiol ar gyfer gwartheg a lleihau’r amser y caiff gwartheg eu cadw dan do dros gyfnod y gaeaf. Mae hyn yn cynnig budd economaidd drwy leihau cyfaint y bwyd ategol, deunydd gorwedd a’r gofynion llafur sy’n gysylltiedig â hwsmonaeth berthnasol. Yn ogystal, mae lleihau’r cyfnod y caiff gwartheg eu cadw dan do dros y gaeaf yn gallu bod o fudd amgylcheddol, gan fod angen storio llai o dail/slyri. Mae hyn yn fuddiol o safbwynt lleihau allyriadau amonia sy’n gallu effeithio’n negyddol ar iechyd anifeiliaid a phobl drwy ddyddodiad sych a gwlyb fel y nodir mewn erthygl dechnegol flaenorol . Fodd bynnag, mae angen ystyried effaith presenoldeb da byw am gyfnod hwy ar y borfa dros fisoedd yr hydref, y gaeaf a dechrau’r gwanwyn o ran mwy o nitrogen wrinol yn cael ei ryddhau i’r tir, sydd â photensial i arwain at gynnydd mewn trwytholchi nitradau (NO3) ac felly i gyfrannu at allyriadau ocsid nitraidd (allyriadau nwyon tŷ gwydr).

 

Cnydau Bresych fel Cnydau Porthiant

Mae cnydau bresych yn cynnwys rhywogaethau neu fathau megis rêp porthiant (Brassica napus spp. biennis), cêl (Brassica oleracea spp. acephala), swêj (Brassica napus spp. napobrassica) a maip (Brassica rapa spp. rapa). Mae Ffigwr 2 yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â dyddiadau hau a bwydo nodweddiadol sy’n gysylltiedig â chnydau bresych yn y DU.

Ffigwr 2: Dyddiadau hau a bwydo nodweddiadol ar gyfer cnydau bresych yn y DU, llun gan AHDB

Cyfansoddiad Maeth Cnydau Bresych

Mae cnydau rêp porthiant a chêl yn tyfu’n sydyn ac yn cynhyrchu cnydau deiliog cynhyrchiol. Mae maip a swêj yn cynnig mantais gan eu bod yn cynnwys dail a gwreiddiau y gall ŵyn eu bwyta. Fodd bynnag, mae’n bwysig ystyried maint y gwreiddiau, gan fod ŵyn sy’n colli dannedd yn gallu cael trafferth i fwyta gwreiddiau mwy megis swêj.

Mae cyfansoddiad maethol cnydau bresych yn cynnwys llawer o egni metaboladwy, cymhareb uchel o garbohydradau eplesadwy (carbohydradau sy’n toddi mewn dŵr, pectin) i ffibr strwythurol (ffibr glanedol niwtral, ffibr glanedol asidig, lignin) a chynnwys protein cymharol dda (Tabl 1). O ganlyniad, gall ŵyn sy’n pori ar gnydau bresych ddangos cyfraddau twf da. Roedd un adolygiad yn arsylwi mai ŵyn a oedd yn pori rêp porthiant a swêj oedd â’r cyfraddau twf uchaf, sef 225g/dydd a 173 g/dydd yn y drefn honno, a bod cyfraddau twf ŵyn a oedd yn bwyta cêl a swêj yn 120g/dydd a 95g/dydd yn y drefn honno. Fodd bynnag, gan fod cnydau bresych yn cynnwys cymhareb isel o ffibr strwythuredig i garbohydradau eplesadwy, mae hyn yn gallu arwain at anifeiliaid cnoi cil yn dioddef clwy’r boten os nad yw’n cael ei reoli’n iawn. Felly, argymhellir y dylid cyflwyno cnydau bresych yn araf i’r diet fel gydag unrhyw borthiant arall er mwyn caniatáu i’r rwmen ymgyfarwyddo ac addasu. Yn ogystal, argymhellir y dylid darparu ffibr ochr yn ochr â chnydau porthiant ar ffurf porthiant wedi’i gywain (gwair neu silwair) neu drwy ddarparu ardal o borfa wrth gefn.    

Tabl 1: Cyfansoddiad maeth cnydau bresych; swêj, maip, cêl a rêp o’i gymharu â rhygwellt parhaol, fel y dangosir mewn papur ymchwil gan Barry, 2013.

 

Swêj

Maip

Cêl

Rêp

Rhygwellt Parhaol

Deunydd sych (g/ kg FW)

94

101

141

126

176

Cyfansoddiad (g/ kg DM)

Carbohydradau toddadwy mewn dŵr

301

238

173

196

106

Pectin

69

94

80

89

10

Protein crai

162

130

167

193

150

Ffibr glanedol niwtral

176

240

201

234

536

Ffibr glanedol asidig

121

180

129

163

277

Lignin (sa)

51

63

57

63

30

Cyfanswm S

5.6

6.9

8.5

6.1

3.3

Llwch

92

149

139

140

154

 

Mae’n rhaid cofio bod ansawdd maeth cnydau porthiant yn gallu amrywio gydag oedran, felly mae amseriad bwydo yn ystyriaeth bwysig. Er enghraifft, gwelodd un astudiaeth fod cymeriant ŵyn sy’n pori cnwd rêp deiliog 25% yn uwch a bod y cynnydd pwysau byw oddeutu 52g/dydd yn uwch o’i gymharu ag ŵyn yn pori cnwd gyda llawer o goesynnau. Yn ogystal, gwelwyd fod cynnwys deunydd sych a nitrogen rêp porthiant ar ei uchaf rhwng dechrau tyfu’r coesynnau a/neu ganghennu ac ar ddiwedd y cyfnod blodeuo. Fodd bynnag, mae’n bwysig nad yw cnydau bresych yn cael eu pori pan fyddant yn rhy anaeddfed, gan fod cyfansoddion planhigion penodol oddi mewn iddynt yn gallu achosi i’r croen i fod yn sensitif i olau'r haul (goleusensitifedd), sy’n gallu effeithio’n negyddol ar iechyd a pherfformiad. Yn yr un modd, mae’n rhaid rhoi ystyriaeth i’r hinsawdd lle gall rhew caled ddifrodi cnydau, yn enwedig gwreiddiau maip.

 

Cnydau Bresych ac Allyriadau Methan

Mae methan yn cael ei gynhyrchu yn y rwmen fel sgil-gynnyrch o broses eplesu carbohydradau strwythurol planhigion (ffibr), fel y nodir mewn erthygl dechnegol flaenorol. Yn gryno, mae’r broses o eplesu deunydd planhigion yn ficrobaidd yn y rwmen yn arwain at gynhyrchu asidau brasterog anweddol, a’r prif rai o’r rhain yw asetad, butyrad a propionad (Ffigwr. 3). Gall yr anifeiliaid cnoi cil ddefnyddio’r asidau brasterog anweddol hyn ar gyfer egni a metabolaeth. Yn ystod y broses o eplesu carbohydradau strwythurol planhigion (ffibr) drwy’r llwybr asid asetig, caiff hydrogen a charbon deuocsid eu cynhyrchu fel sgil-gynhyrchion. Mae archaea methanogenig o fewn y rwmen yn trosi’r nwyon hyn yn fethan sy’n cael ei ryddhau o’r rwmen drwy dorri gwynt.

Ffigwr 3: Proffil eplesu microbaidd carbohydradau strwythurol planhigion a charbohydradau eplesadwy yn y rwmen, lluniau gan McDonald, et al. (2022).

Ceir tystiolaeth sy’n awgrymu bod defaid sy’n pori cnydau bresych penodol yn gallu allyrru llai o fethan enterig o’i gymharu â defaid sy’n pori glaswellt. Daeth astudiaeth yn Seland Newydd i’r casgliad bod ŵyn Romney blwydd oed a oedd yn pori rêp porthiant a swêj yn allyrru hyd at 25% yn llai o fethan (g/kg DMI) o’i gymharu â defaid a oedd yn pori rhygwellt parhaol. Gwelwyd canlyniadau tebyg mewn astudiaeth arall a gynhaliwyd yn Seland Newydd lle’r oedd ŵyn a oedd yn pori lleiniau a oedd yn cynnwys rêp porthiant 100%  a rêp porthiant 75%  yn allyrru hyd at 34 % ac 11% yn llai o fethan enterig (g/kg DMI) yn y drefn honno o’i gymharu ag ŵyn a oedd yn pori 100% rhygwellt parhaol.  Yn ogystal, gwelwyd fod y proffil eplesu o fewn y rwmen yn wahanol rhwng y dietau 100% rhygwellt parhaol a 100% rêp porthiant. Er enghraifft, roedd pH y rwmen yn is, crynodiad molar asid propionig yn uwch a chrynodiad molar asid asetig yn is ar gyfer y diet rêp porthiant. Gellir gweld arsylwadau tebyg pan fo anifeiliaid cnoi cil yn cael dwysfwyd. O ganlyniad, credir mai’r ffaith bod cnydau bresych yn cynnwys lefel isel o ffibr a lefel uchel o garbohydradau eplesadwy yw’r rheswm pennaf dros yr arsylwad hwn.

Cnydau Bresych, Perfformiad ac Iechyd

Er bod cnydau bresych yn ymddangos yn opsiwn deniadol ar gyfer pesgi ŵyn o ganlyniad i’r lefel uchel o faeth a’u gallu i ymestyn y tymor pori, ceir anghysondebau yn aml o fewn y llenyddiaeth ynglŷn â’u budd o ran perfformiad da byw, ac yn achos ŵyn sy’n tyfu, o ran cynnydd pwysau byw dyddiol cyfartalog. Dangoswyd bod hyn yn gysylltiedig â chrynodiad metabolion eilaidd sy’n bresennol o fewn y cnydau bresych.

Mae’r ddau brif fetabolyn eilaidd sy’n bresennol mewn cnydau bresych yn cynnwys glwcosinoladau a’r asid amino rhydd S-methylcysteine sulphoxide (SMCO). Yn dilyn difrod ffisegol i’r planhigion o ganlyniad i gnoi neu gynaeafu, mae glwcosinoladau sy’n bresennol yn y planhigion yn cael eu hydroleiddio gan ensymau myrosinase bacterol neu yn y planhigion i greu isothiosyanadau a nitrilau sy’n gallu bod yn wenwynig i anifeiliaid cnoi cil. Gall anifeiliaid iau fod yn fwy agored i effeithiau negyddol metabolion eilaidd planhigion, a gallant ddangos cyfraddau twf isel a chlefydau megis diffyg ïodin, goitr a hypertroffedd yn yr arennau, yr iau a/neu thyroid pan fyddant yn bwyta gormod. Yn yr un modd, ceir tystiolaeth bod crynodiadau uchel o S-methylcystein sulphoxide mewn planhigion yn cael eu heplesu gan ficrobiota yn y rwmen i greu dimethyl sylffad, ac ar ôl amsugno’r cyfansoddyn hwn, gall anifeiliaid ddatblygu clefydau megis anemia haemolytig, lysis celloedd gwaed coch, gan brofi lefelau haemoglobin a chyfaint celloedd gwaed coch is o ganlyniad. Yn ogystal, gall cydrannau sy’n cynnwys sylffwr lynu at gopr a lleihau ei argaeledd i’r anifail cnoi cil, a gall hynny arwain at ddiffyg copr, sydd, yn ei dro, yn gallu arwain at gyfraddau twf isel o ganlyniad i ddiffyg datblygiad cyhyrau a hypertroffedd mewn organau megis y galon.

Fodd bynnag, gellir goresgyn effeithiau negyddol metabolion eilaidd y planhigion drwy reolaeth effeithiol. Er enghraifft, gellir darparu porthiant yn ogystal â’r cnwd bresych, er enghraifft stribed o laswellt neu borthiant wedi’i gywain er mwyn i anifeiliaid allu hunan-ategu at eu diet. Yn yr un modd, mae’n bosibl monitro a rheoli am faint o amser mae’r anifeiliaid yn cael mynediad i’r cnwd. Yn ogystal, gellir dethol cyltifarau gyda lefel isel o fetabolion eilaidd.

 

Crynodeb

Mae argaeledd ac ansawdd maethol porfeydd yn amrywio drwy gydol y flwyddyn. O ganlyniad, ceir adegau o’r flwyddyn pan nad yw’r borfa’n darparu digon o fwyd i ymateb i alw da byw, ac mae hyn  i’w weld yn digwydd gan amlaf yn ystod misoedd y gaeaf yn y DU. Gall y cyfnod hwn fod yn heriol o ran maeth i stoc sy’n tyfu, ac mae’n gallu arwain at gyfnodau pesgi hwy os nad ydynt yn cael eu rheoli’n effeithiol. Er mwyn gwneud iawn am hynny, mae bwyd ategol yn cael ei fwydo, yn aml ar ffurf porthiant wedi’i gywain a/neu ddwysfwyd. Fodd bynnag, mae’r rhain yn ddrud ac mae llawer o ofynion llafur yn gysylltiedig â nhw. Opsiwn arall yw cynhyrchu cnwd porthiant wedi’i dyfu gartref i anifeiliaid ei bori dros fisoedd yr hydref/gaeaf. Mae cnydau bresych megis rêp porthiant, cêl, maip neu swêj yn enghreifftiau o gnydau o’r fath.

Mae cnydau bresych yn cynnwys llawer o egni metaboladwy, lefel uchel o garbohydradau eplesadwy a lefelau cymharol dda o brotein. Felly, mae pori cnydau bresych yn gallu arwain at gyfraddau twf da mewn anifeiliaid cnoi cil. Yn ogystal, gwelwyd fod anifeiliaid cnoi cil sy’n pori cnydau bresych penodol yn allyrru llai o fethan enterig o’i gymharu ag anifeiliaid sy’n pori rhygwellt parhaol. Fodd bynnag, gwyddwn fod cnydau bresych yn cynnwys y metabolion planhigion eilaidd glwcosinoladau a S-methylcysteine sulphoxide (SMCO) sy’n gallu arwain at effeithiau andwyol ar iechyd a chyfraddau twf gwael pan fydd gormod yn cael eu bwyta. Fodd bynnag, gellir goresgyn hyn drwy ddethol cyltifarau yn ofalus a thrwy reoli maeth yn briodol.    

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Opsiynau amgen ar gyfer deunydd gorwedd i wartheg llaeth: Tail sych wedi’i ailgylchu
Dr Natalie Meades: IBERS, Aberystwyth University. Mawrth 2024 Mae
Cyfleoedd ar gyfer sefydlu gwerth tail a slyri a’u defnydd mewn economi gylchol
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Ebrill 2024
Ffytoleddfu: Rôl Planhigion i Buro Dŵr Gwastraff Amaethyddol
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth, Prifysgol