11 Tachwedd 2019

 

Louise Radley: IBERS, Prifsygol Aberystwyth.

  • Mae plannu llecynnau o goedlannau yn ddull gwych o ddal rhagor o garbon, a chefnogir hynny gan nifer o grantiau a chynlluniau cymhellion yng Nghymru (trowch at ran III)
  • Mae planhigfeydd sy’n cynnwys cymysgedd o rywogaethau coed yn sicrhau gwell ymwrthedd i glefydau a phlâu, mwy o fioamrywiaeth fflora a ffawna, ac enillion economaidd mwy cydnerth na phlanhigfeydd ungnwd.
  • Mae dewis helaeth o rywogaethau coed llydanddail a choed conwydd ar gael i’w hystyried, ac mae gan bob un amrywiaeth o farchnadoedd terfynol a manylebau, i gynhyrchu pren ar gyfer biomas, mwydion pren i gynhyrchu papur, dodrefn a deunyddiau adeiladu.

 

Mae erthyglau blaenorol yn ‘Farming Connect’ wedi ystyried buddiannau plannu coed a gwrychoedd gan ystyried bioamrywiaeth, llifogydd, da byw a’r effaith ar yr amgylchedd. Yma, rydym ni’n ystyried y potensial ychwanegol sydd gan goed a gwrychoedd o ran cynhyrchu bioynni. Mae’r erthygl hon yn trafod dewis o blith yr amrywiaeth eang o rywogaethau coed sy’n aml yn cael eu tyfu ym maes amaeth-goedwigaeth i gynhyrchu biomas.

 

Pwysigrwydd planhigfeydd coed i gynhyrchu biomas

Mae cynhyrchu bioynni a bionwyddau o gnydau biomas sy’n cael eu tyfu ar raddfa fasnachol yn un elfen unig o ateb hollbwysig i leihau’r pwysau ar danwyddau ffosil a lleihau allyriadau carbon. Mae cynhyrchu coedwigaeth ar raddfa fawr ac ar raddfa fechan yn un o’r dulliau cryfaf i fynd i’r afael ag allyriadau carbon. Mae creu coetiroedd yn cyfrannu at leihau’r ôl troed carbon trwy sawl dull:

  • Mae rheoli cynaliadwy, yn cynnwys amaethu pren, yn cyflymu’r broses o ddal carbon yn y pridd;
  • Caiff carbon mewn nwyddau pren, megis deunyddiau adeiladu a dodrefn, ei storio’n hirach;
  • Gellir defnyddio pren lle deunyddiau eraill carbon-ddwys;
  • Mae’r defnydd o bren cartref yn lleihau’r pwysau ar goedwigoedd byd-eang;
  • Gellir ailgylchu cynhyrchion pren ar ddiwedd eu hoes (biomas, biocemegol a bwrdd sglodion).

Mae sectorau coedwigaeth ledled y DU o dan bwysau i ehangu oherwydd y marchnadoedd cynyddol ar gyfer pren cartref, ymhlith gofynion i wella ecosystemau a chynefinoedd coedwigoedd. Dim ond un wlad sy’n mewnforio mwy o nwyddau coedwigoedd na’r DU, ac mae 80% o bren a ddefnyddir yng Nghymru yn cael ei fewnforio o wledydd tramor. Mae 309,000 hectar o goetiroedd yng Nghymru, a dim ond 14% o gyfanswm arwynebedd tir Cymru sydd o dan orchudd coedwig, a cheir targedau i gyflawni 19% erbyn 2030, o’i gymharu â 39% o orchudd coed ledled Ewrop ar hyn o bryd. Caiff 10% o arwynebedd tir Cymru ei reoli at ddibenion cynhyrchu pren ar hyn o bryd, a disgwylir i gynnydd o ddim ond 18,000 hectar gynnal 8 melin goed newydd a 2,600 o swyddi newydd.

Cyfraddau creu coedlannau hanesyddol a thargedau creu coedlannau, 1971-2030. Graff gan confor.org.uk

 

O ble ddaw ein deunydd pren yn y dyfodol?

Er bod y rhan fwyaf o adnoddau pren yng Nghymru yn cael eu mewnforio ar hyn o bryd, ceir diddordeb cynyddol mewn pren wedi’i gynhyrchu yng Nghymru sy’n gynaliadwy o safbwynt amgylcheddol ac mae galw cynyddol am bren o’r fath i greu cynhyrchion ar gyfer cwsmeriaid ac ar gyfer biomas. Nid yw’r ganran o goetiroedd yng Nghymru wedi newid llawer yn ystod y 30 blynedd diwethaf. Er y bydd oddeutu 100 hectar o goetiroedd cynhenid newydd yn cael eu plannu bob blwyddyn, bydd hyn yn aml yn cael ei wrthbwyso gan lecynnau o goetiroedd sy’n cael eu clirio’n barhaol i adfer cynefinoedd sy’n fwy priodol i fathau penodol o dir ac ar gyfer datblygiadau cymeradwy. I allu ymdopi â’r cynnydd yn y galw, mae angen rhagor o goetiroedd ac mae Llywodraeth Cymru yn dymuno cefnogi datblygiad 2,000 hectar ychwanegol bob blwyddyn dros y ddegawd nesaf. Fodd bynnag, gellir gweld tuedd well o ran creu rhagor o goetiroedd; cafodd oddeutu 520 hectar o ddatblygiadau coetiroedd newydd eu sefydlu yng Nghymru rhwng Mawrth 2018 a Mawrth 2019.

Gellir tyfu nifer o rywogaethau coed i gynhyrchu pren a bioynni, ac i greu cynefinoedd. Mae cyfiawnhad dros ddefnyddio rhywogaethau coed cynhenid, yn hytrach na rhai tramor, oherwydd byddant yn aml yn gweddu’n well i amgylchedd a hinsawdd yr ardal, a bydd gwneud hynny’n lleihau pryderon am rywogaethau ymledol a chystadleuaeth â’r ecosystem leol. Mae nifer o rywogaethau coed y gellid eu hystyried wedi’u rhestru isod:

 

Helyg

Mae helyg yn rhywogaeth boblogaidd ar gyfer planhigfeydd coed, ac maent yn gallu goddef tir gwlyb neu ymylol yn dda iawn. Ceir oddeutu 400 o fathau gwahanol o rywogaethau helyg, ac o’u plith, y rhai mwyaf cyffredin a ddefnyddir ar gyfer rhywogaethau coetiroedd yw helyg gwiail (Salix viminalis), a’u croesrywiau â S. burjatica a S. schwerinii, sef helyg gwynion (S. alba) a helyg ceimion (S. fragilis). Yn ddelfrydol, dylid plannu cymysgedd o rywogaethau helyg i atal clefydau neu blâu rhag lledaenu. Gall plannu coedlannau ungnwd arwain at gnydau gwell, ond fe wnaiff cynnwys cymysgedd o rywogaethau coed wella ymwrthedd rhag plâu a chlefydau a gwella bioamrywiaeth leol.

Roedd gan helyg rolau mewn perthynas â thrin dŵr gwastraff hefyd; yn Estonia, 1995, tyfwyd planhigfa S. viminalis gan ddefnyddio dŵr gwastraff o lain preswyl ar gyfer 25 o bobl. Dangosodd y canlyniadau welliant sylweddol o ran y galw am ocsigen ac allyriadau nitrogen wrth drin y dŵr, ac yn ystod y flwyddyn gyntaf, cynhyrchwyd 1.6 tunnel fetrig yr hectar.

Ar gyfer systemau cynaeafu penodol, megis coedlannau cylchdro byr, mae gan helyg ddwyster plannu uchel, sef 15,000 o goed yr hectar, sy’n sicrhau cnwd sylweddol ar y cyfan wrth gynhyrchu sglodion pren i’r diwydiant biomas. Dylid plannu helyg yn gynnar wedi’r barrug olaf i alluogi tymor tyfu hirach heb y perygl o amlygiad i dymereddau o dan y rhewbwynt. Dylid plannu rhodenni â bwlch o 0.75m rhyngddynt ac 1.5m rhwng y rhesi. Dylid rholio’r safle yn syth ar ôl plannu, ac o fewn 1-5 diwrnod wedi plannu, dylid chwistrellu plaladdwr i atal hadau chwyn rhag egino. Argymhellir defnyddio tir â phriddoedd mwynol, â pH sy’n amrywio o 5.5 i 7.5, ar gyfer planhigfeydd helyg. Gall anifeiliaid yn pori beri risg yn ystod cyfnod sefydlu planhigfeydd helyg, ond gall ffensys addas atal hynny.

Yn gyffredinol, caiff blagur eu tocio yn ystod y gaeaf cyntaf i annog mwy o ddwyster blagur yn ystod y tymor dilynol. Bydd y cynhaeaf cyntaf yn digwydd yn gyffredinol rhwng y bedwerydd a’r bumed flwyddyn wedi plannu, a bydd cynaeafau dilynol yn digwydd bob tair blynedd. Bydd y cnwd yn pwyso oddeutu 10-12 tunnel fetrig yr hectar.

Mae prisiau pren helyg yn weddol uchel, ond byddant yn amrywio yn ôl ansawdd a’r defnydd terfynol. Gellir gwella planhigfeydd coed o safbwynt economaidd trwy ddefnyddio rhywogaethau sy’n fwy addas i’ch math o dir, ac efallai y gall cynnwys amrywiaeth o rywogaethau coed, yn hytrach nag un rhywogaeth, gynyddu’r marchnadoedd posibl ar gyfer gwerthu’r cnwd (Gweler Cnydau Cylchdro Byr). Fodd bynnag, mae gan helyg aeddfed gynnwys lleithder uchel a llawer o risgl, a gallai hynny olygu bod prosesu ymhellach i lawr y gadwyn gyflenwi yn anodd. Fe wnaiff sychu ar y safle gynyddu prisiau terfynol pren a biomas, a gellir cyflawni hynny trwy adael i’r plociau wedi’u torri orffwys am 1-2 flynedd y tu allan, neu am 6-16 wythnos mewn odyn solar.

 

Gwern

Mae gwern cyffredin yn rhywogaeth cynhyrchu pren sy’n gyffredin ledled Ewrop, a gallant addasu i amrywiaeth o hinsoddau o’r Ffindir a Siberia i Ogledd Affrica. Gallant hefyd ffynnu ar diroedd ymylol, yn cynnwys glannau llynnoedd, priddoedd gwlyb a thywodlyd a graean caregog, ond mae’n well ganddynt fannau llaith llawn maetholion, a gallant wrthsefyll barrug a niwl halen yn dda iawn. Mae gwern yn neilltuol o gydnerth mewn priddoedd ble mae maetholion yn brin o’u cymharu â rhywogaethau eraill, oherwydd eu gallu i sefydlogi nitrogen.  Mae hyn yn golygu bod gwern yn gnwd pwysig i’w ystyried wrth sefydlu coedlannau ar safleoedd adfer tir sydd â phriddoedd heb lawer o nitrogen a deunydd organig. Mewn sawl man, maent yn tyfu’n naturiol o fewn cymysgeddau gydag ynn, cyll, bedw a deri, ac argymhellir eu cynnwys mewn cymysgeddau yn benodol oherwydd eu defnydd fel ‘coed meithrin’ oherwydd eu gallu i sefydlogi nitrogen mewn priddoedd.

Gellir plannu gwern yn ddwys iawn (10,000-100,000 o goesynnau fesul hectar ar gyfer cylchdro byr neu 2,500 fesul hectar os bwriedir sefydlu coedlannau), ond fe wnânt gystadlu â’i gilydd os ceir dwyster uwch, gan arwain at hunan-deneuo a thwf araf. Fe wnaiff 750-1,500 o goesynnau fesul hectar gynyddu cyfraddau twf diamedr yn sylweddol yn ystod y 10-15 mlynedd gyntaf. Argymhellir dwyster plannu o tua 4,000 yr hectar neu fwy (2m rhwng rhesi, 1.25m o fewn rhesi) i lwfio ar gyfer teneuo coesynnau o ansawdd is yn ystod y cyfnod datblygu. Oherwydd twf cynnar cryf, ni ddylai rheoli llystyfiant fod yn ofynnol yn ystod cyfnod sefydlu coed gwern, a byddant fel arfer yn cael eu plannu pan fyddant yn 2 oed, ag uchder o 50-80cm fwy neu lai. Bydd gwern yn datblygu’n gyflym, a byddant yn aml yn tyfu hyd at 1 metr bob blwyddyn yn ystod y 15-20 mlynedd gyntaf ac yn tueddu i gyrraedd eu llawn dwf o fewn 30-40 mlynedd. Fodd bynnag, nid ydynt yn tueddu i dyfu mwy nag 20m o uchder, â diamedr o 40cm. Bydd teneuo rheolaidd yn ffafrio coed o ansawdd well ac yn cynnal cyfraddau twf hyd at 20% yn uwch nag yn achos safleoedd heb eu rheoli.

Ar y cyfan, nid yw gwern yn profi problemau plâu a chlefydau, ac eithrio clefyd Phytophthora alni- clefyd sy’n benodol i wern sy’n achosi dyddodion tarllyd, dail gwael a marwolaeth. Yn gyffredinol, bydd y clefyd hwn yn lledaenu o feithrinfeydd coed. Caiff y pathogen ei gludo’n gyffredin mewn dŵr hefyd, ac mae’n effeithio ar goed mewn coridorau glannau afonydd a nentydd.

Mae gwern yn cynhyrchu pren sydd â graen coeth, a chaiff ei ddefnyddio’n helaeth i gynhyrchu pren haenog, fel argaen yn benodol, a gellir sglodio’r pren i gynhyrchu biomas. Caiff ei ddefnyddio hefyd i gynhyrchu clocsiau ac mae’n cynhyrchu golosg rhagorol.

Mae helyg a gwern yn addas iawn ar gyfer priddoedd dirlawn, ac yn aml iawn, gellir eu canfod ar dir sydd â draeniad gwael, gan greu ‘coetir gwlyb’. Ni chaniateir creu coedlannau newydd ar fawndir, a chaiff cynlluniau plannu eu gwrthod gan Cyfoeth Naturiol Cymru, oherwydd mae mawndir yn gallu dal a storio carbon yn well os caiff ei adael yn ei gyflwr naturiol.

 

Poplys

Mae poplys yn rhywogaeth hynod o boblogaidd mewn ffermydd coed yn yr Unol Daleithiau ac Ewrop, oherwydd mae’n un o’r mathau o goed sy’n tyfu’n gyflymaf y gellir eu defnyddio o fewn yr hinsawdd. Mae twf cyflym yn galluogi cnwd sylweddol o fewn ychydig flynyddoedd, a gall coed gyrraedd uchder o 5m erbyn iddynt droi’n dair oed.

Mae crydaethnenni, coed cotwm, poplys balmaidd a phoplys Lombardi yn rhywogaethau poplys poblogaidd, a gellir eu bridio i gynhyrchu croesrywiau sy’n tyfu’n gyflym. Mae croesrywiau yn cynnig y fantais o ymwthedd gwell i glefydau, cnydau sylweddol ac ansawdd pren gwell, a gellir eu bridio i atal rhai o gyfyngiadau eu rhieni. Er enghraifft, mae ansawdd pren poplys Lombardi yn wael, ar waethaf cyfraddau twf eithaf cyflym, ond mae rhai o’u croesrywiau wedi cadw’r gallu i gynhyrchu cnydau uwch ac maent yn cynnig pren o ansawdd uchel.

Mae croesrywiau poplys yn gallu tyfu oddeutu 6 gwaith yn gyflymach na rhywogaethau tebyg, gan sicrhau enillion economaidd o fewn 10-12 blynedd. Nid oes arnynt angen llawer o waith cynnal a chadw o’u cymharu â chnydau biomas tebyg. Yn ddelfrydol, yn achos poplys, plannir 10,000 -20,000 coed yr hectar ag oddeutu 2m rhwng rhesi, ac 1m rhwng planhigion o fewn rhesi â bylchau cynaeafu o 3m). Yn achos dwyseddau uwch, argymhellir defnyddio toriadau llai sy’n mesur 20-25cm o hyd, â diamedr o 10mm o leiaf, yn cynnwys blaguryn blaen. Gellir tyfu poplys mewn priddoedd ymylol, a chaiff ei dyfu’n aml gyda helyg a gwern mewn planhigfeydd cymysg. Bydd angen rheoli chwyn yn ystod yr ychydig dymhorau cyntaf, nes bydd y canopi wedi aeddfedu. Caiff y blanhigfa ei chynaeafu bob 5-7 mlynedd, a bydd y coed yn cael eu torri i lawr i’r bonion i alluogi datblygiad coedlannau heb lawer o gostau plannu ychwanegol.

Caiff poplys eu defnyddio’n aml ar gyfer y diwydiannau mwydion coed a phapur, fel pren amlbwrpas (i greu paledi, cewyll a fframiau dodrefn wedi’u clustogi) ac fel tanwydd biomas. Roedd yn bren oedd yn cael ei ffafrio i gynhyrchu coes matsis a byddai perchnogion coedlannau yn plannu llecynnau bychan i gyflenwi cwmnïau cynhyrchu matsis megis Bryant & May. Fodd bynnag, yn dilyn cychwyn cynhyrchu coesau matsis ‘ysgafnach’, fe wnaeth lefel y cynhyrchu ddirywio’n sylweddol, a chollodd y planhigfeydd poplys eu gwerth a chawsant eu gadael i dyfu i’w llawn dwf, a gellir gweld llawer ohonynt hyd heddiw mewn rhannau o ogledd ddwyrain Cymru.

 

Coed Conwydd

Mae dros hanner arwynebedd coetiroedd y DU yn goetiroedd coed conwydd (1.63 miliwn hectar), ac mae 106,000 hectar o hynny yng Nghymru. Mae coed conwydd yn tyfu’n gyflym ac maent yn cynhyrchu pren o ansawdd da, sy’n cynnig amrywiaeth o ddefnyddiau posibl, yn cynnwys deunyddiau adeiladu, mwydion pren i gynhyrchu papur a bioynni. Yn gyffredinol, mae coed conwydd yn gallu gwrthsefyll tymereddau oer a gwyntoedd. Gelwir hwy yn aml iawn yn goed ‘bythwyrdd’ oherwydd eu gallu i wrthsefyll gaeafau’r Deyrnas Unedig.

Mae pinwydd yr Alban, ynn a meryw yn rhywogaethau coed conwydd cynhenid, ond mae’r mwyafrif o’r planhigfeydd coed conwydd yng Nghymru yn defnyddio rhywogaethau estron, yn cynnwys ffynidwydd Douglas, pyrwydd Sitca, pinwydd Corsica a llarwydd.

Yn gyffredinol, argymhellir y dylid plannu 2,000 – 3,000 o goed conwydd fesul hectar (oddeutu  2m x 2m neu 1.5m x 2m ar wahân), yn dibynnu ar y rhywogaethau, ond fel yn achos unrhyw blanhigfa, mae cymysgedd o rywogaethau yn well.

Mae pinwydd yr Alban yn goed hirhoedlog; mae rhychwant naturiol eu hoes rhwng 100-150 o flynyddoedd a byddant yn tyfu hyd at uchder o tua 36m. Dyma unig goed conwydd cynhyrchu pren cynhenid yr Alban. Caiff pinwydd yr Alban eu plannu oddeutu 1.4m ar wahân, â dwyster o 2,500-3,000 yr hectar. Maent yn ffynnu mewn pridd gwael ac yn cynnal amrywiaeth o fywyd gwyllt, yn cynnwys pryfed, adar a nifer o rywogaethau o famaliaid, sy’n gallu bwyta’r rhisgl, y dail a’r hadau. Mae’r pren yn gryf, ond nid yw’n para’n naturiol, ond mae’n cymryd cadwolion yn dda a chaiff ei ddefnyddio’n gyffredin i gynhyrchu pren adeiladu, bwrdd sglodion, polion telegraff a mwydion pren i gynhyrchu papur. Yn y gorffennol byddai’n cael ei blannu bob hyn a hyn ac mewn mannau penodol ger ymyl y ffordd, er enghraifft, ar aeliau bryniau i’w nodi a dangos y ffordd i borthmyn ar hyd llwybrau porthmyn. Gellir gweld rhai o’r coed unigol hyn yn y dirwedd hyd heddiw.

Gall ffynidwydd Douglas (o ogledd America yn wreiddiol) gyrraedd uchder o 100m, a gall dyfu hyd at 60m mewn coedwigoedd ym Mhrydain. Mae wedi addasu i allu tyfu mewn amrywiaeth o briddoedd, ond mae’n tyfu orau mewn lomau clai a silt dwfn a llaith wedi’u draenio’n dda, a gall dyfu’n wael mewn priddoedd sydd wedi’u draenio’n wael. O dan amgylchiadau addas, gall planhigfa ffynidwydd Douglas gynhyrchu 10-12 tunnell fetrig yr hectar bob blwyddyn, a gan amlaf, caiff y pren ei ddefnyddio i gynhyrchu pren melinau coed, mwydion pren i gynhyrchu papur, pren haenog, argaenau, dodrefn a phaneli.

Gall pyrwydd Sitca gyrraedd uchder o 50-60m, a gallant ffynnu mewn priddoedd uwchdirol, gwlyb neu asidig. Dyma’r coed masnachol mwyaf niferus yng nghoedwigoedd y DU; mae oddeutu 50% o’r holl blanhigfeydd masnachol yn blanhigfeydd ffynidwydd Douglas. Dylai planhigfa o byrwydd Sitca 25-40 oed ddarparu 350-500 tunnel fetrig yr hectar, am bris o hyd at £50 fesul tunnell fetrig. Yn gyffredinol, defnyddir eu pren dwysedd uchel i gynhyrchu papur (coed llai), cychod, paledi a blychau pacio. Maent yn agored i ymosodiadau gan blâu megis pryf glas pyrwydd a chwilod rhisgl pyrwydd, a phroblemau eraill megis pydredd gwraidd. Mae Maelor Nurseries a Tilhill Forestry wedi cynhyrchu rhywogaeth ‘pyrwydd Sitca wedi'u gwella’, â 20-30% yn fwy o gyfaint ar adeg y cylchdro a dosbarth cnwd uwch hyd at YC30.

Mae pinwydd Corsica yn fwy cynhyrchiol na phinwydd yr Alban. Maent yn tyfu'n gyflymach ac mae eu boncyffion yn sythach, ond maent yn agored i ymosodiadau gan dothistroma, ac nid ydynt yn adnodd mor werthfawr i fywyd gwyllt. Maent yn tyfu orau ar lomau tywodlyd asidig sy’n draenio’n dda, yn cynnwys twyni tywod, ac mewn hinsoddau cynhesach. Maent yn goddef gwres a sychder yn dda, ond maent yn agored i niwed gan farrug y gaeaf, felly maent yn addas yn benodol i ardaloedd iseldir sychach ym Mhrydain.  Mae pinwydd Corsica hefyd yn rhywogaeth sy’n tyfu’n gyflym y mae arnynt angen digonedd o olau’r haul, felly efallai na fyddant yn addas ar gyfer systemau rheoli ble ceir gorchudd coedwig di-dor ac mae arnynt angen amgylchiadau mwy agored, yn enwedig yn ystod eu datblygiad cynnar.

Mae cymysgedd o goed conwydd, yn gymysg â rhywogaethau llydanddail efallai, yn ddelfrydol i wella ymwrthedd rhag plâu a chlefydau, yn cynnwys clefydau sy’n effeithio ar rywogaethau penodol, ac o ran darparu cynefin naturiol i sicrhau ecosystem fwy cyfoethog a mwy amrywiol.

 

Coed Ewcalyptws

Gallai’r defnydd o goed ewcalyptws gael ei ystyried yn ddadleuol, oherwydd nid ydynt yn un o rywogaethau cynhenid y DU, ac efallai y bydd perygl y gwnânt ymledu. Fodd bynnag, fel rhywogaeth sy’n tyfu’n gyflym ac yn cynhyrchu pren caled o ansawdd uchel, gan gynnig cnydau blynyddol sylweddol , ymwrthedd da i blâu a’r gallu i addasu i fwy neu lai unrhyw amgylchiadau hinsoddol, mae coed ewcalyptws yn rhywogaeth sydd o ddiddordeb i lawer o bobl ym maes tyfu coed.

O blith dros 700 o rywogaethau ewcalyptws, mae nifer wedi cael eu nodi fel rhai sy’n addas ar gyfer hinsoddau’r DU, ac maent yn deillio’n gyffredinol o’r rhannau o Awstralia ble ceir hinsoddau mwy tymherus, yn cynnwys gaeafau oerach, megis mynyddoedd Tasmania a rhannau o Ucheldir y Dwyrain yn Ne Cymru Newydd a Fictoria. Mae E. denticulata, E. nitens, E. glaucescens, E. gunii ac E. globulus yn rhywogaethau poblogaidd i’w tyfu yn y DU ac mae E. glaucescens wedi’u sefydlu’n llwyddiannus ym mhob rhan o Gymru, Canolbarth Lloegr a’r Alban, oherwydd eu gllu i addasu i amgylchiadau safleoedd a goddef tywydd oer, a’r ffaith eu bod yn anflasus i geirw sy’n pori.

Gall planhigfeydd ewcalyptws yn cynnwys rhywogaethau sy’n neilltuol o addas i hinsawdd Prydain, megis E. gunnii, gynhyrchu 16-22 tunnell fetrig o ddeunydd sych fesul hectar bob blwyddyn, sy’n golygu mai coed ewcalyptws yw un o’r rhywgaethau coed sy’n cynhyrchu’r cnydau mwyaf a ddefnyddir gan ddiwydiant coedwigaeth y DU ar hyn o bryd.

Gellir defnyddio coed ewcalyptws i wneud nifer o wahanol bethau, ac nid ydynt wedi’u cyfyngu i’r pren o’r coed yn unig (y gellir ei ddefnyddio ar gyfer cynnyrch pren a bioynni), ond mae’r dail hefyd yn ffynhonnell o olew gwrthseptig yn ogystal â’r dulliau traddodiadol niferus o’u defnyddio gan boblogaethau cynhenid.

 

Perllannau Ffrwythau

Fe wnaiff perllannau cynhyrchu ffrwythau hefyd gynyddu’r budd cyffredinol i bob rhan o’r fferm, yn enwedig os cânt eu plannu mewn safleoedd ble ceir cymysgedd o blannu coed a phori da byw, o fewn caeau ar gyfer da byw. Mae coed ffrwythau hefyd yn cynnig buddion yn ymwneud ag allyriadau carbon a gwella bioamrywiaeth mewn cynefinoedd cyfagos, ond nid ydynt yn addas i’w plannu mewn safleoedd coedwigaeth sy’n cynhyrchu cnydau sylweddol, megis coedwigoedd coed conwydd neu goed llydanddail. Gall ffrwythau na chânt eu casglu gynnig porthiant i amrywiaeth o rywogaethau, gan gynnal amrywiaeth o ffawna lleol, yn cynnwys porthiant ategol i dda byw, a gall y ffrwythau a gesglir ddarparu ffynhonnell flynyddol o incwm.

Gallai planhigfa coed ffrwythau helaeth ddarparu cnwd masnachol arall ar raddfa fawr, ond fe wnaiff hyd yn oed perllan fechan helpu i wella hunangynhaliaeth ar y fferm a lleihau ôl troed carbon y tyfwr cartref. Gall plannu perllan o fewn system amaeth-goedwigaeth fod yn rhan o system amlgnwd, a gall y coed ategu’r cnydau ychwanegol a gynhyrchir o’r pridd.

 

Rhywogaeth Coed

Llydanddail / Conwydd

Dwysedd plannu fesul hectar

Cnwd fesul hectar (y flwyddyn) yn fras

Gwybodaeth ychwanegol

Helyg

Llydanddail

15,000

10-12

Coedlan Cylchdro Byr (CCC)

Gwern

Llydanddail

10-20,000

16

Sefydlogi nitrogen, CCC

Polys

Llydanddail

9,000

4-20

Cnydau anghyson, CCC

Pyrwydd Sitca

Conwydd

2,500

10-20

 

Ffynidwydd Douglas

Conwydd

2,000

10-12

 

Pinwydd yr Alban

Conwydd

2.5 - 3,000

8-12*

*Ar sail 0.98m3 fesul tunnell fetrig

Pinwydd Corsica

Conwydd

2.5 - 3,000

7-9

*Ar sail 0.98m3 fesul tunnell fetrig

Coed Ewcalyptws

Llydanddail

1 - 2,000

16-22

 

Coedwigoedd Coed Conwydd a Choed Llydanddail

Wrth ddewis rhywogaethau i’w tyfu, dylai’r awgrymiadau a dderbynir gyd-fynd ag amgylchiadau penodol y safle a'r hinsawdd penodol, oherwydd fe wnaiff gwahanol rywogaethau elwa fwyaf o amgylcheddau a phriddoedd penodol. Dylid ystyried hefyd beth yw diben y cynllun a deilliant arfaethedig y cynnyrch yn y pen draw. I gynhyrchu pren, dylai mwyafrif y coed yn y blanhigfa fod yn goed conwydd a phren caled, ac ar gyfer bioynni, dylid ystyried y rhywogaethau sy’n tyfu’n gyflym ac yn cynhyrchu’r cnydau mwyaf yn unig. Os tyfir coed er mwyn dal carbon neu greu cynefin newydd, byddai amrywiaeth o rywogaethau yn ddelfrydol, a dylid ystyried darparu coedlan gynhenid gan ddefnyddio rhywogaethau cynhenid y DU yn unig. Gwybodaeth leol a Dosbarthiad Safleoedd Ecolegol yw’r dulliau gorau o asesu pa rywogaethau sy’nfwyaf addas ar gyfer safleoedd penodol.

Yn ddelfrydol, byddai cymysgedd o rywogaethau coed conwydd a choed llydanddail yn cael eu plannu ar safle, i sicrhau’r bioamrywiaeth gorau, amrywiaeth o ddefnydd a’r gallu i wrthsefyll plâu, clefydau a chyfrwystra’r marchnadoedd. Mae ‘rhywogaethau meithrin’, megis gwern, sy’n sefydlogi nitrogen, yn blanhigion ategol delfrydol mewn planhigfeydd coed, a gallant gynorthwyo rhywogaethau coed eraill sydd o’u cwmpas a chynnig buddion iddynt.

 

Cliciwch yma i weld fersiwn PDF o'r erthygl hon.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cynllun gwrthsefyll newid hinsawdd ar gyfer Busnesau Garddwriaeth yng Nghymru
Opsiynau amgen ar gyfer deunydd gorwedd i wartheg llaeth: Tail sych wedi’i ailgylchu
Dr Natalie Meades: IBERS, Aberystwyth University. Mawrth 2024 Mae
Cyfleoedd ar gyfer sefydlu gwerth tail a slyri a’u defnydd mewn economi gylchol
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Ebrill 2024