26 Tachwedd 2021

 

Dr Cate Williams: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

 

  • Mae’r ddafad gynffon dew yn ddafad wydn ac unigryw gyda chronfeydd sylweddol o fraster wedi’u lleoli ar y crwmp neu yn y gynffon hir.
  • Mae’r braster yng nghynffon y defaid hyn yn nodweddiadol, yn cynnwys asidau brasterog cadwyn ganghennog a allai fod un fuddiol i iechyd dynol, ac sydd hefyd yn boblogaidd mewn coginio Arabaidd traddodiadol.
  • Mae’r cig hefyd yn wahanol i gig defaid brodorol gyda chynffon denau gydag astudiaethau’n dangos y gallai’r cig fod llawer yn fwy coch.
  • Mae’r brîd Damara gyda chynffon dew wedi cael ei gyflwyno’n llwyddiannus i Gymru (Ynys Môn) fel rhan o brosiect EIP yng Nghymru. Mae’r ŵyn yn ymdopi’n dda gyda hinsawdd Cymru, ac mae’r grŵp bellach yn edrych ymlaen at ddatblygu eu brand, Damara Môn.

 

Ynglŷn â’r brîd

Mae’r ddafad gynffon dew yn fath anarferol o ddafad sy’n hanu o Ogledd Affrica a’r Dwyrain Canol, ac yn nodweddiadol, mae ganddynt gronfeydd brasterog sylweddol ar eu chwarter ôl a/neu yn eu cynffonnau. Mae’r defaid hyn yn amlbwrpas, yn cael eu defnyddio yn eu gwlad enedigol ar gyfer cig, llaeth, gwlân, ac yn fwyaf nodweddiadol, ar gyfer y braster, sy’n cael ei ddefnyddio’n helaeth mewn coginio Arabaidd traddodiadol. Mae defaid cynffon dew yn cwmpasu oddeutu 50 brîd sy’n aml yn cynnwys amrywiaeth rhanbarthol, gan arwain at boblogaeth amrywiol iawn. Mae’r ddafad gynffon dew yn wydn, ac yn gallu ymdopi gyda thywydd poeth, sych gyda chyfnodau hir o sychder, a chredir mai dyma bwrpas y cronfeydd braster. Cymerir fod y braster yn gweithredu fel egni wrth gefn ar gyfer yr anifail wrth iddo fudo ac yn y gaeaf, ei fod yn gweithredu bron iawn fel crwb ar gefn camel. Gall y defaid fetaboleiddio’r braster i’w ddefnyddio fel ffynhonnell egni pan fo bwyd/dŵr yn brin. Dan amodau ffafriol gyda digon o fwyd a dŵr, gall defaid cynffon dew dyfu’n fawr, ond o ran edrychiad, maen nhw’n edrych yn debyg iawn i eifr. Yn nodweddiadol, mae gan y math hwn o ddafad naill ai wlân neu flew bras, clustiau llipa, ffrâm fain gyda choesau hir, ac anaml iawn y mae’r pwysau’n mynd dros 100kg. Mae defaid cynffon dew yn adnabyddus am eu galluoedd mamol, ond maent yn cynhyrchu 1.5 oen y flwyddyn ar gyfartaledd gyda’r mwyafrif yn cynhyrchu un oen yn unig bob blwyddyn. Nid oes tystiolaeth hyd yma i ddangos a fyddai modd gwella ar hyn trwy gynyddu maetholion am gyfnod byr ychydig ddyddiau cyn troi’r mamogiaid at yr hwrdd. Gan ddibynnu ar y brîd, gallai’r mamogiaid fod yn fridwyr tymhorol neu annhymhorol (polyoestrws), gall y bwlch magu ymysg mamogiaid Damara fod mor fyr ag 8 mis, ond mae’r brîd Awassi yn gwbl dymhorol, gan gynhyrchu un cnwd o ŵyn y flwyddyn.

 

Mae rhai bridiau cynffon dew wedi cael eu bridio’n ddetholus ar gyfer cynhyrchu llaeth, megis yr Awassi, sy’n cael eu godro ddwywaith y dydd yn draddodiadol ar ôl i’r ŵyn fod yn sugno’r famog am oddeutu deufis. Gan ddibynnu ar y system reoli, gall mamogiaid Awassi “heb eu gwella” gynhyrchu rhwng 40 ac 80kg o laeth fesul cyfnod llaetha 150 diwrnod, yn ogystal â’r llaeth sy’n cael ei fwydo i’r  ŵyn. Ar y llaw arall, gall y brid Awassi wedi’i wella, wedi’i ddatblygu gan ddefnyddio rhaglenni bridio caeth, amrywio o 97 i 360kg o laeth fesul llaethiad.

 

Rhinweddau’r cig

Mae’r cronfeydd brasterog ar y gynffon a’r crwmp wedi cynyddu trwy fridio detholus dros nifer o flynyddoedd ac mae’n chwarae rhan allweddol yn rhinweddau bwyta’r cig.

Mewn bridiau brodorol yn y DU (neu ddefaid cynffon denau), mae braster fel arfer yn cael ei storio o amgylch yr organau mewnol ac o dan y croen, yn wahanol i fridiau cynffon dew. Er bod blas yn nodwedd oddrychol, dywedir bod cig defaid cynffon dew yn fwy brau a suddlon na defaid cynffon denau. Wrth gymharu oen cynffon dew Chall gyda’r brîd cynffon denau Zel, roedd yn cynhyrchu cymhareb asid breasterog omega-6: omega-3 uwch, ond cymhareb braster poly-annirlawn:braster dirlawn (PUFA:SUFA) is (mae’r rhain yn ffatorau pwysig sy’n dylanwadu ar iechyd dynol, yn enwedig clefyd cardiofasgwlaidd). Ar y cyfan, pennwyd bod y ddafad Chall cynffon dew yn cynhyrchu cig mwy coch a phroffil asid brasterog mwy ffafriol na rhywogaethau cynffon denau, ond ar draul ansawdd bwyta. I gefnogi hyn, daeth astudiaeth a fu’n cymharu nodweddion carcas dau frîd o ddefaid cynffon dew gyda’r bridiau wedi’u croesi gyda hyrddod cynffon denau fod y cynnydd pwysau dyddiol a’r gymhareb trosiant bwyd mewn bridiau croes yn uwch, ond bod yr ŵyn cynffon dew yn cynhyrchu cig coch o ansawdd uwch gyda chanran is o fraster rhyng-gyhyrol (IM) (9.5% o fraster rhyng-gyhyrol mewn bridiau croes ar gyfartaledd a 6.8% yn y bridiau cynffon dew). Yn ôl y disgwyl, daeth yr astudiaeth hefyd i’r casgliad bod bridiau croes yn cynhyrchu 3.7% yn fwy o fraster o dan y croen na defaid cynffon dew pur, ac 11.5% yn fwy o fraster mewnol.

 

Cadarnhawyd fod y braster o fridiau cynffon dew’n wahanol i’r hyn a geir mewn bridiau cynffon denau, yn yr ystyr bod braster y corff yn toddi ar dymheredd is, ei fod yn feddal ac yn olewog, ac yn felyn a chlir, tra bod braster y gynffon yn wyn ac yn galed (yn debycach i’r hyn a geir mewn bridiau defaid gyda chynffonau tenau). Wrth brofi, roedd proffiliau asidau brasterog yn debyg iawn rhwng yr ŵyn Damara, Merino a Droper, heblaw am y cynnwys asid brasterog cadwyn ganghennog. Ystyrir bod asidau brasterog cadwyn ganghennog yn ‘gyfansoddion bio-weithredol’ a cheir tystiolaeth eu bod yn gallu gwella iechyd y perfedd, yn enwedig mewn babanod newydd-anedig, a gallant chwarae rhan mewn lleihau’r risg o gancr. Roedd y brasterau cadwyn ganghennog yng nghynffonau’r Damara yn 8.8% o gyfanswm y braster, ond o hwn, roedd 77% yn cynnwys isomerau strwythurol anghyfarwydd (a elwir yn asidau brasterog canghennog mono- a di-methyl). Datgelodd dadansoddiad bod rhai o’r asidau brasterog canghennog anarferol hyn hefyd yn bresennol yng nghyhyrau’r Damara, gan awgrymu bod yr ŵyn Damara yn symud ac yn defnyddio braster o’u cynffonau wrth i borthiant yr anifail gael ei gyfyngu – nodwedd fetabolaidd ddiddorol ac unigryw.

 

Croeso i Gymru

Er bod defaid cynffon dew yn frodorol i hinsoddau poeth a sych megis y Dwyrain Canol, Gogledd Affrica a rhannau o Asia, mae’r brîd Damara wedi cael ei allforio i ardaloedd eraill o’r byd, yn enwedig Awstralia, gan anelu at gynhyrchu cig oen mewn ardaloedd lled-sych o’r wlad. Fodd bynnag, yn fwy diweddar, mae prosiect EIP Cymru dan arweiniad Cyswllt Ffermio wedi cyflwyno’r brîd i Ynys Môn, Cymru. Mae’r prosiect hwn yn anelu at asesu addasrwydd defaid cynffon dew i hinsawdd Cymru ac i elwa o farchnad arbenigol gyda chig a braster unigryw.

Ceir tystiolaeth bod defaid cynffon dew yn ffynnu mewn hinsoddau sych, yn ogystal ag amodau sych gyda thymereddau dan y rhewbwynt, megis yn y gaeaf ym Mongolia. Er nad yw’r tymheredd yn y gaeaf yn y DU byth yn cyrraedd -30°C fel sy’n gyffredin ym Mongolia, mae’n bendant yn wahanol iawn i’r hyn a geir yn y Dwyrain Canol. O ganlyniad, byddai angen croesi bridiau cynffon dew’n ofalus gyda bridiau brodorol rhanbarthol i sicrhau inswleiddio digonol dros fisoedd y gaeaf, gan gadw’r gynffon dew nodweddiadol. Mae hyn wedi cael ei wneud yn llwyddiannus yn Ne Awstralia, lle mae hyrddod cynffon dew Damara wedi cael eu croesi gyda mamogiaid Wiltshire Horn, gan gynhyrchu anifail cadarn, llawn cig, sy’n bwrw’r cnu, ac sydd â chynffon brasterog. Mae’n arbennig o bwysig sicrhau digon o inswleiddiad, cysgod a mynediad at borthiant o ansawdd da i atal y defaid rhag defnyddio’r braster sy’n cael ei storio yn y gynffon a’r crwmp – sef nodwedd bwysicaf y brîd ym marn nifer fawr o bobl.

 

Mae’r prosiect EIP presennol wedi llwyddo i gynhyrchu ŵyn Damara pur trwy drosglwyddo embryonau a bridiau croes gan ddefnyddio semen wedi’i fewnforio a ffrwythloni artiffisial (AI) ar famogiaid Romney, Texel croes a Llŷn croes. Llwyddodd y trosglwyddiad embryo i gynhyrchu 6 oen Damara pur gan amrywio o ran pwysau ar enedigaeth o 3.3 i 6.3kg, ac arweiniodd y broses AI at gynhyrchu 72 o ŵyn ychydig yn drymach yn amrywio o 2.5-8.0kg. Ganwyd yr ŵyn yn 2020 ac maen nhw wedi ymdopi’n dda gyda hinsawdd Cymru hyd yma, ond mae’n rhaid eu cadw dan do dros y gaeaf. Mae’r prosiect wedi llwyddo i gynhyrchu’r hyrddod a’r mamogiaid Damara pur a bridiau croes cyntaf erioed yng Nghymru. Bydd y grŵp nawr yn gweithio tuag at ddatblygu llwybr i’r farchnad yn y DU ar gyfer yr  ŵyn unigryw hyn.

  

Crynodeb

Mae defaid cynffon dew yn fath unigryw, sy’n cwmpasu nifer o wahanol fridiau, gyda phob un ohonynt yn adnabyddus am y gronfa o fraster naill ai ar y crwmp neu yn y gynffon hir. Credir bod y nodwedd unigryw hon wedi datblygu wrth addasu i’r amgylchedd garw, sych yn eu gwledydd brodorol, gan alluogi’r defaid i symud braster o’r gynffon pan fo amodau’n heriol. Mae hyn yn arwain at fetaboledd lipid unigryw a chig coch iawn. Mae’r storfa fraster ar y crwmp/cynffon hefyd yn nodweddiadol, ac yn cynnwys lefelau uchel o asidau brasterog canghennog anarferol a allai fod yn fuddiol i iechyd dynol. Mae’r braster a geir o ddefaid cynffon dew yn bwysig mewn coginio yn y Dwyrain Canol ac mae ein hystod amrywiol o ddiwylliannau yn y DU yn golygu bod mwy o alw am y braster hwn, ac felly bod marchnad ar gyfer y brîd. Mae defaid cynffon dew wedi addasu’n dda i amgylcheddau sych a allai eu gwneud yn anaddas i’w ffermio yn y DU. Un ateb posibl byddai croesi’n ofalus gyda bridiau lleol sydd wedi addasu’n well ar gyfer yr amgylchedd lleol – mae hyn wedi cael ei wneud ar Ynys Môn, Gogledd Cymru, lle mae prosiect sy’n cael ei ariannu gan EIP yng Nghymru wedi cynhyrchu ŵyn Damara pur gan ddefnyddio techneg trosglwyddo embryonau a chroesi gyda mamogiaid Llŷn gan ddefnyddio AI. Mae’r ŵyn wedi ffynnu yn hinsawdd Cymru ac mae’r prosiect wedi cynhyrchu’r ŵyn a’r mamogiaid pur a chroes cyntaf. Bydd y grŵp nawr yn gweithio tuag at anfon yr ŵyn unigryw hyn i’r farchnad a datblygu’r brand Damara Môn.

 

Os hoffech fersiwn PDF o'r erthygl hon, cysylltwch â heledd.george@menterabusnes.co.uk


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr
Working Towards a More Sustainable Future: Breeding Sheep for Resistance and Resilience to Gastrointestinal Nematodes
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth Rhagfyr 2023 Gall
Cyfleoedd ar gyfer y dyfodol ym maes geneteg defaid yng Nghymru: Bridio ar gyfer gwlân o ansawdd uwch
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth