21 Hydref 2021

 

Dr David Cutress: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

 

  • Ar hyn o bryd, mae llaeth dafad yn opsiwn cynhyrchu sy’n cael ei danddefnyddio yn y DU
  • Mae’n bosib bod gan laeth dafad a chynhyrchion wedi’u prosesu lawer o effeithiau buddiol i iechyd a allai apelio at ddefnyddwyr modern
  • Er mwyn cyflawni a chynnal cynhyrchiant uchel mewn cadwyn fwyd llaeth dafad ar draws y DU, dylid ymchwilio ymhellach i fastitis, sy’n un o’r prif feysydd lle collir cynhyrchiant, am fod llawer o’r ymchwil blaenorol wedi tueddu i ganolbwyntio ar wartheg

 

Pam defaid ar gyfer llaeth

Yn fyd-eang, mae cynhyrchu llaeth yn cael ei ddominyddu gan y sector gwartheg llaeth, a oedd yn ôl yr FAO, yn cyfrif am 81% o’r cynnyrch byd-eang, o flaen 15% ar gyfer byfflo a 4% gyda’i gilydd ar gyfer geifr (1.9%), defaid (1.3%) a chamelod. Ar draws gweddill Ewrop mae cynhyrchu llaeth dafad yn fwy cyffredin nag yn y DU (<0.1% o’r cyfanswm byd-eang) gyda’r cyfraddau cynhyrchu uchaf, tua 8.7% o’r cyfanswm byd-eang penodol i ddefaid, yn dod o Wlad Groeg. Er gwaethaf y cyfraddau cynhyrchu isel ar gyfer anifeiliaid cnoi cil bach fel defaid a geifr, mae hyn wedi mwy na dyblu yn y 50 mlynedd diwethaf, sy’n awgrymu bod tuedd tuag at gynnydd yn y defnydd. Ar draws y DU, awgrymir mai dim ond 30 – 45 o ffermydd llaeth dafad sy’n gweithredu ar hyn o bryd. Mae hyn yn gyfran fechan iawn o’r 219,000 o ddaliadau amaethyddol sy’n bresennol yn y DU yn seiliedig ar ffigurau DEFRA. Mae llaeth a chynhyrchion llaeth yn cyfrannu’n sylweddol at y calorïau sydd ar gael yn y gadwyn fwyd fyd-eang, ac mae gwledydd cyfoethog fel yr Unol Daleithiau, y DU, Awstralia a llawer o Ewrop ar gyfartaledd yn bwyta/yfed >250kg y pen bob blwyddyn. Yn ogystal â’r calorïau a gyflenwir, mae llaeth hefyd yn cyflenwi llawer o fitamin B12 yn y diet (a ddefnyddir i gynnal celloedd coch y gwaed a’r system nerfol) a symiau sylweddol o fitamin A (a ddefnyddir i gynnal y system imiwnedd) ynghyd â symiau is o fitaminau eraill. Yn hanfodol, mae’r cynhyrchion hyn hefyd yn cyfrannu’r mwyafrif o’r calsiwm sydd ar gael (a ddefnyddir ar gyfer cryfder, twf ac atgyweirio esgyrn ac sy’n hanfodol ar gyfer gweithrediad y celloedd drwy’r corff) yn y gadwyn gyflenwi bwyd.

 

O’r llaeth sy’n cael ei gynhyrchu yn y DU, mae’r rhan fwyaf yn cael ei brosesu’n gaws, ac mae caws llaeth dafad o Ewrop yn faes sy’n tyfu yn y farchnad gaws ryngwladol. Mae Ffrainc, Gwlad Groeg, yr Eidal a Sbaen yn dominyddu llawer o allbwn y diwydiant hwn ac mae bron i hanner yr holl ymchwil sy’n gysylltiedig â llaeth yn dod o’r rhanbarthau hyn.

 

Ffrainc

Gwlad Groeg

Yr Eidal

Sbaen

Y DU

Cyfanswm y mamogiaid (miliwn pen)

5.4

6.2

6.3

12.4

~15.4

Mamogiaid llaeth (miliwn pen)

1.6

5.7

4.7

2.7

~0.02

Arbenigo mewn llaeth (%)

29.6

93.0

74.5

21.3

0.12%

Ffermydd llaeth (nifer)

4805.0

41004.0

29182.0

18266.0

~45

Cynnyrch llaeth (L/mamog)

164.9

101.0

84.6

215.8

*141.75

UWF/fferm (nifer)

1.5

1.5

1.2

1.3

dd/b

Mamogiaid/UWF (nifer)

222.0

93.4

134.2

111.4

dd/b

Pris llaeth (€/L)

0.962

0.957

0.950

0.931

~1.17

Y prif ddata o ffermydd defaid llaeth mewn 4 gwlad yn yr Undeb Ewropeaidd, o Pulina et al., (2018)
*UWF = Uned waith flynyddol lle mae 1 = 1 awr o waith cyfwerth ag amser llawn

Cynhyrchwyd y ffigurau penodol i’r DU gan ddefnyddio cyfanswm y litrau a gynhyrchir sy’n hysbys a chyfartaledd allbwn blynyddol mamogiaid (L/mamog) uchod ynghyd â niferoedd stoc fridio fenywaidd gan y ‘Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth’ (AHDB) a’r ffigurau a gyhoeddwyd gan y ‘Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol’ (NSA)

 

Mae llaeth dafad yn arbennig o fuddiol ar gyfer cynhyrchu caws oherwydd awgrymir bod cynnwys uwch o fraster a phrotein (yn benodol casein) ganddo ynghyd â chyfanswm y solidau o gymharu â llaeth buwch, gan fod y rhain yn chwarae rhannau allweddol yn rhwyddineb ceulo llaeth er mwyn sicrhau mwy o gynnyrch wrth gynhyrchu caws. Yn ogystal, mae angen llai o ychwanegion fel calsiwm clorid, cywair a chymosin wrth gynhyrchu ceuled llaeth dafad o gymharu â chaws llaeth buwch a gafr.

Ochr yn ochr â’r agweddau ffisegol buddiol hyn ar laeth dafad dros laeth arall sy’n benodol i gynhyrchu caws, mae buddion eraill o ran iechyd a maeth sydd wedi dod i’r amlwg ym myd marchnata a gwerthiant wrth i ddefnyddwyr symud tuag at arferion bwyta ac yfed mwy iach.

  • Mae llaeth dafad a llaeth gafr, yn sgil gwahaniaethau yn eu proteinau o gymharu â llaeth buwch, yn ysgogi llai o ymatebion alergedd
  • Bioargaeledd uwch o fwynau megis calsiwm, ffosfforws, magnesiwm, sinc, copr a manganîs nag mewn llaeth buwch
  • Crynodiadau uwch o fitamin A na llaeth buwch
  • Bron i ddwywaith cymaint o brotein â llaeth gafr a buwch (yn arwyddocaol, prolin, sy’n chwarae rhan allweddol mewn cynhyrchu colagen a chelloedd coch y gwaed)
  • Mae proffiliau braster y gellir eu treulio’n well yn galluogi eu defnyddio’n fwy rhwydd fel ynni yn hytrach na’u storio fel blonneg, a gall arwain at lai o golesterol yn cylchredeg at ei gilydd
  • Un o’r mathau o laeth anifail cnoi cil â’r cynnwys uchaf o asid cyfieuol linoleig (CLA) sy’n chwarae rôl gwrth-ganser a cholli pwysau
  • Ffynhonnell sylweddol o fitamin C gan fod 1 - 2 cwpanaid o laeth neu iogwrt dafad, neu 90g o gaws dafad yn bodloni’r gofynion dyddiol
  • Presenoldeb uwch o beptidau atalyddion ensym trosi angiotensin (ACE) mewn cynhyrchion llaeth dafad na llaeth buwch, sy’n chwarae rôl mewn atal pwysedd gwaed uchel
  • Presenoldeb uwch o beptidau gyda gweithgarwch gwrthocsidol
  • Awgrymwyd bod cynhyrchion llaeth dafad yn chwarae rôl fuddiol o’u cyfuno â chyn-fiotigau a phrofiotigau

Yn gyffredinol, mae’r agweddau maethol buddiol hyn ar laeth dafad yn achosi i arbenigwyr yn y farchnad awgrymu bod awydd cynyddol am gynnyrch llaeth dafad, sy’n awgrymu dyfodol proffidiol, er y bydd hyn yn dibynnu ar ddatblygiadau sy’n gysylltiedig â rhai mathau o laeth o blanhigion, yn enwedig eu cost. Felly, wrth ystyried tyfu’r diwydiant defaid llaeth yn y DU, byddai unrhyw beth a allai effeithio ar gyfaint y llaeth ac ansawdd y llaeth yn niweidiol iawn.

 

Dealltwriaeth facteriolegol

Un o’r prif bryderon ar draws y diwydiannau llaeth dafad a buwch yw’r effaith sy’n gysylltiedig â mastitis is-glinigol a chlinigol ar gyfraddau cynhyrchu is a lles anifeiliaid. Yn achos mastitis pathogenig bacteriol (a gaiff yr effaith fwyaf am fod potensial i ledaenu drwy’r ddiadell) mewn defaid, y prif gyfryngau yw Staphylococcus aureus ac yna Mannheimia haemolytica. Mae’r effeithiau ar les anifeiliaid yn gysylltiedig â phoen, newidiadau mewn bwydo, colli cyflwr yn ogystal â marwolaethau mamogiaid ac o bosibl eu hŵyn yn sgil cyfraddau cynhyrchu llaeth gwael. Mae effeithiau economaidd mastitis yn niferus ac yn cynnwys;

  • Colli niferoedd da byw
  • Cynnydd mewn difa anifeiliaid
  • Costau amnewid
  • Treuliau milfeddygol
  • Llai o laeth mewn systemau llaeth
  • Llaeth o ansawdd is, neu daflu llaeth oherwydd lefelau bacteria
  • Effeithiau ar ansawdd a chyfaint cig anifail a gwlân mewn systemau nad ydynt yn llaeth

Gellir trosglwyddo Staphylococcus spp i ddefaid trwy gyfrwng arbenigwyr trin anifeiliaid, anifeiliaid sy’n ymweld, a’r anifail ei hun, sydd hefyd yn gallu trosglwyddo bacteria o ffynhonnell i ffynhonnell trwy gyswllt, deunydd gorwedd ac offer. Mae ‘Cyfrif o Gyfanswm yr Unedau Byw (TVC), ‘Cyfrif o Gyfanswm y Colifformau (TCC) a ‘Chyfrif o Gelloedd Somatig’ (SCC) i gyd yn cael eu defnyddio fel dangosyddion o broffiliau microbiolegol llaeth, sydd â chysylltiad agos ag arferion rheoli ar ffermydd fel hylendid, iechyd da byw, rheoli bwydo a’r tymor a bioddiogelwch cyffredinol. Er gwaethaf yr effeithiau hyn, mae llawer mwy o ymchwil wedi bod i reoli mastitis a thueddiad mastitis mewn gwartheg nag mewn defaid. Mae astudiaeth gan ‘Bartneriaeth Arloesi Ewrop Cymru’ (EIP Cymru) sy’n cael ei chynnal ar grŵp o ffermydd yng Nghymru yn un prosiect sy’n ceisio gwella’n dealltwriaeth o fastitis a phroffiliau bacteriolegol llaeth dafad. Mae’r astudiaeth, sy’n mynd rhagddi, yn ymchwilio i ffactorau megis brîd y ddafad, cyfnod llaetha ac ychwanegiadau seleniwm. Mae’r canlyniadau rhagarweiniol wedi ategu ymchwil blaenorol a awgrymodd fod mamogiaid ag SCC uchel yn cynhyrchu llaeth o ansawdd is, yn enwedig ar gyfer prosesu caws, sy’n awgrymu y bydd trin neu dynnu mamogiaid cronig o ddiadell yn cael effaith fuddiol. Yn eu cymhariaeth o fridiau Friesland a Llŷn, cawsant gadarnhad ar gyfer defnyddio brîd Llŷn o Gymru ar gyfer cynhyrchu caws yn y dyfodol. Un maes a wrthododd yr astudiaeth yn gyflym oedd rôl mwcws yn y trwyn fel man ble mae S. aureus yn cronniEr bod nifer yr anifeiliaid a brofwyd ar gyfer yr astudiaeth hon, ynghyd â manwl gywirdeb yr astudiaeth, yn is nag yn achos ymchwil blaenorol, byddai’r diffyg cydberthynas rhwng bacteria trwynol a mastitis, os ceir bod hynny’n wir, yn gwneud rheoli’r systemau hyn yn haws. Canfuwyd bod lefelau seleniwm yn effeithio ar broffiliau protein llaeth.

Mae S. aureus yn destun pryder arbennig gan y gall effeithio ar iechyd anifeiliaid a chynhyrchiant a gall hefyd effeithio ar bobl drwy achosi heintiau, gwenwyn bwyd a niwmonia. Yn sgil defnydd dwys o wrthfiotigau mewn pobl a da byw, mae llawer o straeniau o S. aureus yn bodoli sydd ag ymwrthedd i nifer o gyffuriau, sy’n ei wneud anoddach byth ei reoli. Ar ben hynny, y rhywogaeth hon yw’r achos pryder ynghylch yr arch-fyg mewn ysbytai, S. aureus sy’n gwrthsefyll Methisilin (MRSA) ac felly dylai gael sylw arbennig o ran ymchwil a rheoli.

 

Ymchwil a rheoli

Gall y broses o reoli mastitis a’r bacteria cysylltiedig mewn defaid ddilyn gweithdrefnau tebyg i’r rhai a amlygwyd ar gyfer gwartheg, gan gynnwys;

  • Gwell hylendid — ar draws y fferm (sy’n cael ei effeithio gan ddwysedd stocio)
  • Ystyriaethau bioddiogelwch — dulliau cwarantîn cywir a rheoli ymwelwyr
  • Glendid offer godro
  • Difa mamogiaid cronig
  • Diagnosis a phrofion rheolaidd i ganfod heintiau yn gynnar

Gall canfod heintiau gynnwys cyfuniad o archwiliadau ffisegol a gweledol gan staff y fferm yn ogystal ag offer diagnostig fel cyfrifon o facteria mewn llaeth, a drafodwyd yn flaenorol, yn ogystal â diagnosteg marcwyr protein posibl a hyd yn oed ddulliau procsi syml fel cymarebau braster i brotein sy’n amrywio gyda newidiadau mewn SCC. Os yw offer manwl gywir ar gyfer monitro llaeth yn parhau i gael eu gwella ar gyfer ffermio llaeth dafad, fel y maent yn gynyddol ar gyfer gwartheg, yna gallai hyn fod yn ddull gwell o ddadansoddi cyfrifon unigol o SCC mewn llaeth a chynnyrch llaeth a chanfod heintiau ar raddfa fawr gan ddefnyddio llai o lafur. Yn yr un modd, fel mewn gwartheg, canfuwyd bod gan thermograffeg isgoch (IRT) y potensial i ganfod pyrsiau heintiedig mewn defaid fel offeryn diagnostig yn y dyfodol.

Mae’n hysbys bod maeth hefyd yn cael effaith ar ddatblygiad clefydau a thueddiad gan y bydd mamogiaid sy’n cael maeth da yn gallu  brwydro heintiau yn well. Caiff hyn ei ategu gan gysylltiadau rhwng sgoriau isel ar gyfer cyflwr y corff a chynnydd mewn achosion o fastitis. Mae diffygion penodol mewn seleniwm a fitamin A wedi bod yn gysylltiedig â lefelau uwch o fastitis is-glinigol a chlinigol yn ogystal â lleihad yng ngweithgarwch ensym treulio yn y rwmen a all effeithio ar effeithlonrwydd trosi porthiant. Fel y cyfryw, dylai opsiynau ar gyfer porthiant pori ystyried darparu cydbwysedd o fitaminau a mwynau yn ogystal â digon o galorïau, a hefyd ystyried cyfundrefnau penodol o ychwanegion sy’n benodol ar gyfer mamogiaid llaeth dros anifeiliaid cig.

Mae difa mamogiaid sy’n dioddef SCC uchel cronig yn un ffordd o reoli mastitis a gwella cynhyrchiant llaeth. Yn y dyfodol, mae’n bosib y bydd dethol genetig tuag at famogiaid ag ymwrthedd i fastitis, gyda phroffiliau SCC cyffredinol is yn gwella systemau ymhellach. Dylai ystyriaethau eraill ynghylch dethol genetig a bridio ymwneud â chydffurfiad y pwrs mewn diadelloedd godro yn y dyfodol. Mae’n hysbys y gall cydffurfiad gwahanol y deth effeithio ar hwylustod godro a lleihau difrod i’r deth sy’n gysylltiedig â heintiau, ac awgrymir hefyd ei fod yn chwarae rôl yn dylanwadu ar y tebygolrwydd y bydd mastitis yn datblygu. Yn olaf, mae cynnal yr amodau cywir ar gyfer storio/cludiant oer drwy gydol y gadwyn fwyd ar ôl godro wedi cael ei nodi fel strategaeth reoli allweddol i osgoi effeithiau S. aureus ar bobl i lawr y gadwyn o’r systemau llaeth defaid.

 

Crynodeb

Mae diwydiant llaeth dafad y DU yn sylweddol lai na’r rhan fwyaf o wledydd eraill yr UE er bod tuedd o ddefnydd cynyddol ar draws y byd. Am fod llawer o fuddion i iechyd pobl ym mhroffiliau llaeth dafad, mae’n gweld diddordeb cynyddol gan ddefnyddwyr a gall fod yn opsiwn amgen/atodol i ffermwyr da byw. Mae ymchwil hyd yn oed yn awgrymu y gallai fod mwy o fanteision i brosesu cawsiau llaeth dafad gyda llaeth amrwd heb ei basteureiddio felly gallai hyn fod yn llwybr gwerth ei archwilio i frandio’r buddion i iechyd mewn ffordd unigryw (gweithgarwch atalyddion ACE, cyfaddasu imiwnedd, treuliadwyedd i ddefnyddwyr, peptidau bioactif buddiol a bwydydd “swyddogaethol” a ddymunir gan ddefnyddwyr) sy’n gysylltiedig â chynhyrchion caws dafad. Er y bydd angen cydbwyso ystyriaethau dilynol o risgiau uwch o heintiau er diogelwch y cyhoedd. Un o’r prif rwystrau o ran cynyddu cynhyrchiad llaeth dafad yn y DU yw rheoli mastitis, gan y bydd hyn yn debygol o achosi problemau tebyg i wartheg lle mai dyma’r prif achos o golli cynhyrchiant llaeth a cholledion economaidd yn sgil clefydau. I reoli hyn yn well, mae angen mwy o werthuso ac ymchwilio i ystyriaethau heintio penodol i ddefaid, gan fod y rhan fwyaf o’r ymchwil presennol yn canolbwyntio ar wartheg. Fodd bynnag, dylid nodi hefyd bod ffigurau o astudiaethau cychwynnol yn awgrymu y caiff llaeth buwch, ar lefel cyfaint yn unig, lai o effaith o ran nwyon tŷ gwydr (1kg o laeth = 2.4kg CO2 cyfatebol) na llaeth dafad (1kg o laeth = 3.78kg CO2 cyfatebol) (wedi’i gywiro ar gyfer lefelau braster a phrotein). O ganlyniad, gan gadw cynaliadwyedd amaethyddol mewn golwg i’r dyfodol, efallai y bydd angen ystyried gwerth ansawdd dros gyfaint ac ystyriaethau rheoli er mwyn lleihau effeithiau amgylcheddol yn ofalus hefyd.  

 

Os hoffech fersiwn PDF o'r erthygl hon, cysylltwch â heledd.george@menterabusnes.co.uk


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffytoleddfu: Rôl Planhigion i Buro Dŵr Gwastraff Amaethyddol
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth, Prifysgol
Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr