21 Mai 2021

 

Dr William Stiles: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

 

Prif negeseuon:

  • Cyfalaf naturiol yw’r rhan o natur sy’n cyflenwi nwyddau a gwasanaethau sydd o werth i gymdeithasau dynol.
  • Fwyfwy, mae gwerth cyfalaf naturiol yn cael ei gynnwys mewn asesiadau o werth systemau cynhyrchiant rheoli tir er mwyn mesur yn ddigonol y manteision a geir.
  • Gall y dull hwn ganiatáu i nodweddion megis y potensial i storio carbon gael eu cydnabod a’u prisio.

 

Nodweddion natur y mae’r boblogaeth ddynol yn cael budd neu werth ohonynt yw cyfalaf naturiol. Gall y rhain gynnwys ecosystemau, rhywogaethau, priddoedd, mwynau, dŵr ffres a’r aer. Yn deillio o asedau cyfalaf naturiol penodol darperir nwyddau a gwasanaethau drwy brosesau naturiol ac o ganlyniad i weithrediad ecosystemau. Cyfeirir at y rhain fel gwasanaethau ecosystemau.

Mae gwasanaethau ecosystemau yn bwysig dros ben i gymdeithasau dynol, oherwydd fe all y manteision a geir o rai prosesau naturiol fod yn sylweddol – ac am ddim. Eto, gall hyn yn aml arwain at fod y cyfryw nwyddau a gwasanaethau yn cael eu cymryd yn ganiataol, neu’n syml ddim yn cael eu cydnabod fel pethau gwerthfawr, a gall hyn arwain at golli gwasanaeth os caiff tir ei reoli’n annigonol neu’n amhriodol.

Fwyfwy, mae’r gwerth a geir o asedau cyfalaf naturiol, a’r gwasanaethau ecosystemau a ddarparant, yn cael eu hystyried mewn asesiadau o werth. Gall hyn gynnwys y potensial i storio carbon, peillio, puro dŵr ac eraill. Mae cydnabod yr angen i warchod y gwasanaethau hyn wedi arwain at sefydlu’r cysyniad o gyfrifo cyfalaf naturiol, er mwyn prisio’n llawn gyfraniad prosesau naturiol i iechyd a lles pobl. Gall y dull hwn gynnig darlun mwy cyflawn o werth llawn yr adnoddau sydd ar gael o dirweddau ac ecosystemau, gan gydnabod y nodweddion hyn fel ‘asedau’ a’u prisio’n briodol.

 

Os caiff newid o’r fath mewn athroniaeth ei weithredu, gall esgor ar agendau rheoli tirweddau y mae eu ffocws yn mynd y tu hwnt i gynhyrchu bwyd a ffeibr, gan gyfiawnhau dulliau rheoli sy’n cynnal ac yn gwella’r manteision a gawn o gyfalaf naturiol.  Mae hwn yn newid holl bwysig i’r sector rheoli tir i’r dyfodol, oherwydd fe allai’r angen i ddarparu atebion seiliedig ar natur i heriau megis newid hinsawdd a newid amgylcheddol wrthdaro â dulliau cynhyrchu traddodiadol. Yn y cyd-destun hwn, fe allai cyfrifo cyfalaf naturiol ganiatáu i’r manteision a gaiff cymdeithas drwy weithgareddau rheoli tir gael eu cydnabod yn briodol.

Mae prisio’n ddigonol y cydrannau o ecosystemau lle cawn y manteision yn golygu y gellir teilwra dulliau rheoli i wella’r gwasanaethau hynny, neu fan leiaf un, eu teilwra i osgoi eu difrodi neu effeithio arnynt. O’r herwydd, mae hyn yn cynnig system lle gellir talu iawndal priodol am ddulliau rheoli tir sy’n gwella neu’n cynnal asedau cyfalaf naturiol. Drwy fod gwerth asedau cyfalaf naturiol yn cael ei gydnabod gellir felly fuddsoddi er mwyn gwneud gwaith gwarchod neu adfer, ac fe allai hynny o bosibl fod yn gyfrwng ar gyfer cael buddsoddiadau gan y sector preifat.

 

Pam asesu cyfalaf naturiol?

Mae’n hanfodol i bob busnes a sefydliad rheoli tir ddeall cyfalaf naturiol, o ran y cysyniad a’r camau gweithredu posibl. Gall deall egwyddorion cyfalaf naturiol ganiatáu i reolwyr tir wneud penderfyniadau gwybodus drwy fod ganddynt well dealltwriaeth o werth y system gyflawn, a’r canlyniadau, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, i stoc cyfalaf naturiol rhai dulliau rheoli penodol.

Yn y cyd-destun hwn, gall egwyddorion cyfalaf naturiol helpu i ddarlunio sut i fodloni heriau’r oes fodern, megis rheoli newid hinsawdd a newid amgylcheddol. Mae defnyddio prosesau a systemau naturiol i gyrraedd nodau lliniaru newid hinsawdd, megis lleihau carbon, yn llawer mwy cost-effeithiol na defnyddio atebion wedi’u dyfeisio. Pan gaiff dull rheoli ei weithredu’n briodol, mae hefyd yn bosibl gwella stoc asedau cyfalaf naturiol a darpariaeth gwasanaeth ecosystemau, gan gynyddu’r gwerth cynhenid. Fe allai cynnydd o’r fath mewn gwerth fod yn gymhelliant neu’n ysgogiad sydd ei angen ar gyfer defnyddio dulliau rheoli tir sy’n ystyrlon i’r hinsawdd. Er enghraifft, o ran coedwigaeth, dylid ystyried bod y stociau bio-garbon presennol yn bwysicach na chreu stociau newydd. Felly, drwy gydnabod a mesur gwerth y stoc goed bresennol y tu hwnt i’w gwerth fel pren, drwy ddatgan gwerth cadw’r coed byw yn eu lle, gellid helpu i siapio agendau a pholisïau sy’n ymwneud â choedwigaeth i’r dyfodol.

 

Y dull cyfalaf naturiol

Ar hyn o bryd, nid oes un system i’w chael ar gyfer mesur neu asesu cyfalaf naturiol, ond mae dulliau safonedig yn dechrau datblygu. Mae offer megis cyfrifon cyfalaf naturiol y Deyrnas Unedig yn cynnig golwg ar werth y Deyrnas Unedig ar gyfer gwasanaethau ecosystemau ar sail dulliau cyfrifo, ond cydnabyddir o hyd mai system sy’n esblygu yw hon.

Wrth wraidd unrhyw ddull y mae dealltwriaeth o wyddor gwasanaethau ecosystemau, o’r ffactorau biolegol a ffisegol sy’n llywodraethu’r broses o ddarparu a chyflenwi gwasanaethau ecosystemau, ac sy’n gallu cyfyngu ar eu potensial. Drwy ddeall achos ac effaith fel hyn, gellir cydnabod gwerth mewn termau ariannol. Er enghraifft, os oes i’r weithred o ddal a storio carbon werth ariannol, yna gellir cydnabod gwerth rôl creu coetiroedd yn y broses hon. Gallai hyn ganiatáu i fantais y weithred hon gael ei chloriannu yn erbyn manteision cynhyrchion eraill sy’n deillio o reoli tir, megis cynhyrchu bwyd a ffeibr.

Bydd gwerth economaidd y cyfryw wasanaethau yn amrywio rhwng gwasanaethau. Bydd gwerth  potensial hamdden, dyweder, yn wahanol i werth storio carbon, neu gynhyrchu bwyd a ffeibr. Er hynny, mae pob gwasanaeth yn darparu mantais. Felly, caiff y gwahaniaeth mewn gwerth ei ragdybio yn amodol ar faint mae pobl yn barod i’w dalu i wella nodwedd, neu i osgoi ei cholli. Yn yr ystyr hwn, gall gwerthoedd fod naill ai’n gadarnhaol (mantais darparu gwasanaeth ecosystemau) neu’n negyddol (cost difrod neu lygredd amgylcheddol) yn ddibynnol ar y cyd-destun.

 

Heriau a chyfyngiadau defnyddio’r dull cyfalaf naturiol

Mae defnyddio tystiolaeth brisio nad yw’n gysylltiedig â marchnad yn creu llawer o ansicrwydd gan fod y dystiolaeth hon yn nodweddiadol yn deillio o egwyddor a modelu yn hytrach na data hanesyddol. Pan geir ansicrwydd neu gyfyngiadau methodolegol, dylid cyflwyno’r rhain yn glir er mwyn gallu eu hystyried a chraffu arnynt. Gallai’r weithred o brisio gynnig cymariaethau annheg o ran gwerth gwasanaeth ecosystemau o’i gymharu â gwerth ymyrraeth (megis datblygu seilwaith). Yn ei ystyr symlaf, mae’n bosibl y gellir cyfiawnhau colli’r cyfalaf naturiol yn economaidd, ond fe allai’r effeithiau ehangach ar systemau naturiol cysylltiedig, ac i’r gymdeithas yn ehangach o bosibl, olygu colledion amgylcheddol mwy na’r pris a roddwyd arno.

I’r un perwyl, mae angen cryn ofal wrth ddehongli’r ddealltwriaeth a geir drwy brisio cyfalaf naturiol. Mae’n gwbl bosibl y gallai canolbwyntio ar elfennau un mater yn fframwaith ehangach cyfalaf naturiol esgor ar senarios lle bo’r dull rheoli yn canolbwyntio ar un ffactor ar draul eraill yn y system. Un wers bwysig i’w dysgu o’r egwyddor hon yw’r budd a geir o ddull rheoli sy’n hyrwyddo gweithrediad a gwytnwch ecosystemau. Bydd asedau cyfalaf naturiol yn tyfu lle mae’r dull rheoli yn caniatáu ar gyfer gweithrediad yr ecosystem. Mae unrhyw system reoli sy’n gosod cyfyngiad ar brosesau ecosystemau i gynyddu un elfen, yn gallu lleihau gwerth ac ansawdd yr ecosystem ehangach yn gyffredinol, a gall hynny arwain at ddiraddio a cholli’r ddarpariaeth gwasanaethau gyffredinol.

Un enghraifft o hyn fyddai ehangu gorchudd coed yn y Deyrnas Unedig er mwyn dal a storio carbon. Fel gwlad, mae arnom angen cynyddu’r gorchudd coed i liniaru effeithiau newid hinsawdd. Fodd bynnag, pan gaiff y cysyniad hwn ei hidlo i lawr i’w egwyddor fwyaf sylfaenol, gellid dadlau dros sefydlu planhigfeydd ungnwd o’r rhywogaethau coed sy’n tyfu gyflymaf. Yn gyffredinol, gallai hyn hybu strategaeth anfanteisiol, oherwydd fe fyddai dull o’r fath yn diystyru creu ecosystemau cadarn gyda’r holl fanteision ehangach y mae’n eu darparu. Mewn geiriau eraill: byddai, fe fyddai’n dal a storio carbon, ond na, ni fyddai’n hybu gweithrediad yr ecosystem, iechyd y pridd, na bioamrywiaeth yn gyffredinol. Ceir dadl hefyd y byddai dull o’r fath yn fyrdymor yn ei hanfod gan fod oes bosibl clwstwr ungnwd o goed coniffer, o’i gymharu â choetir cymysg gweithredol, yn llawer byrrach. Felly, byddai’n cyfyngu ar y potensial i storio carbon dros yr hirdymor.

Ceir senarios hefyd lle gallai plannu coed wneud mwy o niwed na lles, megis lle bo’r priddoedd yn organig yn bennaf. Mewn achosion o’r fath, byddai’r carbon y gellid ei golli o’r pridd yn fwy na’r manteision y gellid eu cael o’i ddal a’i storio. Yn yr un modd, os yw’r hwb i ymestyn y gorchudd coed yn peri anfantais i gynefinoedd blaenoriaethol eraill, megis glaswelltir sy’n gyfoeth o rywogaethau, rhostir, neu amgylcheddau mawndiroedd, yna fe allai hyn gael effaith niweidiol ar y gwasanaethau manteisiol sy’n deillio o’r ecosystemau hyn.

 

Crynodeb

Nid asesiad amgylcheddol yw cyfalaf naturiol, nid system a fyddai’n cael ei defnyddio i ddangos effeithiau niweidiol gweithredoedd fel datblygu mohoni. Yn hytrach, mae’r dull hwn yn caniatáu i werth llawn asedau naturiol gael eu cydnabod er mwyn gwarchod a gwella’r stociau hynny, er budd y dirwedd a’r system rheoli tir lle mae’r asedau hyn yn bodoli.

Gall defnyddio egwyddorion cyfalaf naturiol gynnig system i brisio holl gydrannau’r dirwedd, er mwyn sicrhau bod y manteision a geir o brosesau naturiol yn cael eu prisio’n ddigonol, neu o leiaf, ddim yn cael eu diystyru’n gyfan gwbl. Gallai hyn hefyd gynnig system i dalu i reolwyr tir yn briodol am yr holl fanteision a geir o’u gweithgareddau, y tu hwnt i’r nwyddau a gynhyrchir ac a gefnogir gan y farchnad. Gallai hyn helpu i sicrhau eu bod yn cael eu cymell yn briodol i wella’r ddarpariaeth gwasanaethau ecosystemau i’r dyfodol.

Gellid ystyried bod gwerthoedd economaidd yn oddrychol ac yn gwbl adlewyrchol o ddewisiadau pobl, sy’n gallu cael eu hysgogi gan amrywiol ffactorau gan gynnwys diwylliant, traddodiad, incwm, ac eraill. Ac eto, hyd yn oed pan fo’r gwerthoedd hyn yn oddrychol, nid felly’r dull o’u mesur. Felly, mae’r dull hwn yn dal i gynrychioli dull o fesur newid amgylcheddol ac o gydnabod effaith a dylanwad gweithredoedd rheoli tir ar gydrannau’r systemau naturiol y mae cymdeithasau dynol yn cael budd ohonynt.

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr
Cnydau Porthiant ar gyfer Pesgi Ŵyn: Cnydau Bresych
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth