10 Medi 2021

 

Dr Cate Williams: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

  • Mae cynhyrchu a defnyddio semen â’r rhyw wedi ei bennu yn dod yn fwy a mwy cyffredin, yn arbennig mewn buchesi llaeth, lle gellir ei ddefnyddio i greu stoc cyfnewid sydd yn well yn enynnol, lleihau’r nifer o deirw llaeth ac yn cynnig y dewis i werthu heffrod sydd dros ben.
  • Awgryma tystiolaeth bod semen â’r rhyw wedi ei bennu tua 80% o ffrwythlondeb semen confensiynol, er y gall gwella’r dechneg ddosbarthu wella hyn i 94%.
  • Gall lleihau’r nifer o deirw a gaiff eu geni leihau’r risg o enedigaethau anodd a chyflymu’r gwelliant genynnol.
  • Awgryma astudiaethau economaidd, mewn buchesi â rheolaeth ardderchog, bod defnyddio semen â’r rhyw wedi ei bennu a/neu brofi genomig fod yn fuddiol iawn, gan gynyddu’r elw gan bob buwch yn ystod ei hoes.


 

Sut mae’n cael ei wneud

Mae defnyddio semen â’r rhyw wedi ei bennu yn y diwydiant llaeth, ac weithiau yn y fuches bîff, wedi bod yn chwyldroadol wrth wella effeithlonrwydd ac economeg busnesau fferm. O osgoi cynhyrchu gormod o loeau gwryw i leihau’r risgiau bioddiogelwch wrth brynu stoc cyfnewid i mewn, mae semen y gwyddys ei ryw wedi gwella proffidioldeb mentrau llaeth Ewropeaidd, yn arbennig y rhai sydd â chyfraddau cyfnewid uchel. Mae’r wyddor y tu ôl i gynhyrchu semen â’r rhyw wedi ei bennu yn gymharol syml gan fod sberm yn cario’r cromosom X yn cynnwys 3.8-5% yn fwy o DNA na chromosom Y mewn gwartheg sy’n cynnig maen prawf dibynadwy i wahaniaethu rhwng y ddau. Defnyddir lliw fflwroleuol nad yw’n gwneud unrhyw niwed ond sy’n gallu treiddio trwy gellbilen y celloedd i gyrraedd y DNA, fel bod sberm yn cynnwys mwy o DNA, ac felly gromosom X yn disgleirio yn fwy llachar. Yna mae’r sberm yn cael eu dosbarthu ar dafol fawr gan ddefnyddio cytomedr llif - peiriant sy’n canfod gwahanol fathau o gelloedd ac yn eu dosbarthu’n gyflym yn ôl hynny (hyd at 15 miliwn o gelloedd yr awr), yn yr achos hwn trwy ychwanegu gwefr bositif neu negyddol i’r dafn o ddŵr y maent ynddo. Bydd dafnau sberm gyda gwefr bositif yn teithio at gynhwysydd negyddol ac i’r gwrthwyneb gan alluogi i’r dosbarthu ddigwydd yn rhwydd a chyflym. Er bod dulliau eraill, cytometreg llif yw’r dull mwyaf dibynadwy, gan roi purdeb o tua 90% ac mae wedi ei fasnachu’n llwyddiannus yn Ewrop, UDA a thu hwnt.

 

Manteision ac anfanteision

Yn gyffredinol mae’n hysbys bod defnyddio tarw potel yn cynyddu’r tebygolrwydd o gynhyrchu llo gwryw o ychydig mewn cymhariaeth â pharu naturiol felly’r prif reswm am ddefnyddio semen â’r rhyw wedi ei bennu yw diddymu’r risg hon. Mae angen lloeau benyw i gyfnewid stoc ac ehangu buches a gellid eu gwerthu hefyd pan fydd gormodedd. Ar yr un pryd, wrth leihau’r nifer o loeau gwryw a gynhyrchir, gall semen â’r rhyw wedi ei bennu leihau’r anawsterau wrth loea o tua 20% gan fod lloeau benyw yn llai (o tua 2.5kg) ac yn haws eu geni. Mae hyn yn lleihau’r nifer o loeau sy’n marw, yn gwella ffrwythlondeb y buchod a gall effeithio ar gostau rhedeg y busnes trwy lai o ofynion o ran llafur. Fel y soniwyd o’r blaen, un o brif achosion afiechydon heintus ar ffermydd yw ymgorffori heffrod newydd, cyfnewid yn y fuches. Gall cynhyrchu stoc cyfnewid o fewn buches gaeedig liniaru’r risg o brynu afiechyd i mewn a hefyd mae’n sicrhau ansawdd stoc newydd wrth fagu’n ddethol o anifeiliaid â rhinweddau genetig da. Mewn buches laeth, er enghraifft, mae cyfle i semenu buchod â’r rhinweddau genetig gorau â semen â’r rhyw wedi ei bennu i gynhyrchu stoc cyfnewid gan roi tarw bîff i weddill y fuches. Mae defnyddio semen â’r rhyw wedi ei bennu hefyd yn cynnig y dewis o gynyddu’r gwelliant genetig mewn buches – hynny yw, bridio’r stoc gorau i sicrhau’r perfformiad gorau un. Mae dewis eang o deirw sydd wedi eu profi yn enynnol ar gael a gellir eu dewis i gyd-fynd â’r fam a’r system ffermio. Dangoswyd bod y strategaeth hon yn cynyddu’r gyfradd o welliant genetig o tua 15% mewn buchesi llaeth.

Ond, mae’n hysbys bod ffrwythlondeb semen â'r rhyw wedi ei bennu yn is na semen heb fynd trwyr broses sy’n debygol oherwydd: a) mae llai o sberm ym mhob semeniad a b) y potensial y byddant yn cael eu niweidio yn ystod y broses ddosbarthu. Mae’n bosibl defnyddio lliw ychwanegol i ganfod celloedd sberm wedi eu niweidio a rhai marw wrth ddosbarthu ond gall gynyddu’r costau ac effeithio ar gyflymder y broses. Fel arall, gellir ail-ymweld â’r broses ddosbarthu i leihau’r pwysedd tu mewn i’r offer, i leihau’r difrod, ond eto, bydd cost yn gysylltiedig â hyn. Yn gyffredinol, amcangyfrifir, gyda rheolaeth dda, bod gan semen â’r rhyw wedi ei bennu gyfradd feichiogrwydd o tua 80% o semen confensiynol heb bennu’r rhyw, ond mewn buchesi sy’n cael eu rheoli’n dda iawn gall hyn fod cyn uched â 94%. Canfu un astudiaeth yn yr UDA gan ddefnyddio gwartheg Holstein bod y cymedr cyfradd gyfebu i heffrod yn 56% i semen confensiynol a 39% i semen â’r rhyw wedi ei bennu; mewn gwartheg, roedd hyn yn disgyn i 30 a 25% yn eu tro. Ond, roedd defnyddio semen âr rhyw wedi ei bennu yn lleihau anawsterau wrth loea’n sylweddol: o 1.7% mewn heffrod a 1.6% mewn buchod. Gostyngodd genedigaethau anodd, yn gyffredinol, o 28% i heffrod a 64% i fuchod y defnyddiwyd semen â’r rhyw wedi ei bennu arnynt.

Gwelodd rhai buchesi ganlyniadau gwell eto wrth ddefnyddio semen â’r rhyw wedi ei bennu ochr yn ochr â phrofi genomig ar heffrod/buchod. Gan fod genodeipio eisoes yn gyffredin mewn teirw mae cyfle i gynyddu cywirdeb y dethol a dwyster ar ochr y fenyw. Er nad oedd yn cyfuno’r ddau ddull, gweithredodd un prosiect EIP brofi genomig i heffrod llaeth a gwerthuso’r enillion genynnol a’r elw ariannol. Canfu’r prosiect hwn bod yr enillion genynnol a gafwyd wrth ddefnyddio profi genomig yn £20.64 yn fras i bob anifail ac roedd cyfanswm budd economaidd profi yn £19.39 i bob buwch. Yn ychwanegol, datgelodd profi genomig bod tad tua 5% o’r fuches wedi ei ddynodi yn anghywir ar eu hachau a allai fod wedi arwain at baru anghywir. Yn gyffredinol, mae’r prosiect yn amlygu manteision posibl o ran elw a gwella’r fuches wrth ddefnyddio profi genomig ar heffrod.

 

Yr economeg

Mae sawl astudiaeth wedi gwerthuso cost defnyddio semen â’i ryw wedi ei bennu a defnyddio modelau dynwared i ragweld a fyddai’r buddsoddiad hwn yn ad-dalu ei hun yn y dyfodol. Mae’n bwysig cofio bod nifer anferth o amrywiolion a allai effeithio ar ganlyniad yr arbrofion yma – ffrwythlondeb, strategaethau rheoli, seilwaith, defnyddio technolegau, prisiau llaeth ac ati – ond, mae astudiaethau wedi gallu cynnig rhai argymhellion. Canfu un astudiaeth oedd yn edrych ar ddefnyddio semen â’r rhyw wedi ei bennu ar fuches laeth mai’r amrywiolyn mwyaf dylanwadol yn y sefyllfa hon oedd pris lloeau heffrod llaeth ac mai defnyddio semen â’r rhyw wedi ei bennu yn bennaf ar heffrod ac hefyd rhai o’r gwartheg gorau o ran genynnau oedd y sefyllfa fwyaf proffidiol. Dylai targedu’r stoc na fyddant yn stoc cyfnewid ar bîff neu llaeth gael ei wneud ar sail y prisiau cymharol disgwyliedig i gael y deilliant gorau. Canfu astudiaeth yn Awstralia oedd yn ystyried defnyddio profi genomig ar heffrod a semen â’r rhyw wedi ei bennu bod budd net profi genomig o hyd at AU$1,124 (tua £600) i bob 100 buwch, am bob oes. Pan fyddai semen â’r rhyw wedi ei bennu a phrofi genomig yn cael eu cyfuno a’u defnyddio ar heffrod roedd hyn yn rhoi deilliant buddiol, er bod newid paramedrau amrywiol yn effeithio ar y canlyniad. Eto, gwelwyd mai pris yr heffrod oedd y ffactor mwyaf dylanwadol.

Ymchwiliodd astudiaeth Ewropeaidd ddiweddar arall i effeithiau defnyddio semen â’r rhyw wedi ei bennu wrth fridio gyda tharw bîff. Ffermydd gyda dwyster stocio is sydd angen llai o stoc cyfnewid ac felly â mwy o heffrod dros ben i’w gwerthu oedd yn cael mwyaf o fudd o’r strategaeth hon, ond roedd ffermydd gyda dwyster stocio uwch yn cael budd o werthu lloeau croes bîff. Yn gyffredinol, roedd cyfuno semen â’r rhyw wedi ei bennu a chroesi â bîff yn cynyddu’r elw o €0 i €568 (£485) i bob buwch y flwyddyn, gyda chyfartaledd o €79 (£67.50). Roedd maint y budd yn amrywio rhwng ffermydd unigol, gan awgrymu mai dull hyblyg wedi ei deilwrio i amgylchiadau pob fferm sydd orau wrth weithredu semen â’r rhyw wedi ei bennu a/neu brofion genomig.

 

Ar y llaw arall, mae’r defnydd o darw potel yn llai cyffredin mewn busnesau bîff mewn cymhariaeth â llaeth, fel y mae defnyddio semen â’r rhyw wedi ei bennu. Fodd bynnag, mewn systemau bîff sy’n defnyddio tarw potel, gallai semen â’r rhyw wedi ei bennu gael ei ddefnyddio i fridio epil benywaidd gyda nodweddion mamol cryf ac epil gwryw â nodweddion pesgi cryf, neu gallai fod yn arbennig o ddefnyddiol wrth gynnal bridiau prin, pedigri. Er na fydd systemau cynhyrchu bîff yn cael budd o’r strategaeth hon hyd nes y ceir elw - fydd yn sefyllfa all gael ei gwireddu wrth i gost semen â’r rhyw wedi ei bennu a thechnolegau genynnol eraill barhau i leihau.

 

Crynodeb

Mae’r defnydd o dechnolegau genomig newydd wedi chwyldroi’r diwydiant llaeth ac mae semen â’r rhyw wedi ei bennu wedi cyfrannu at y gwelliannau hynny. Gan gynnig y cyfle ar gyfer cynnydd genynnol cyflym, lleihad mewn teirw llaeth, llai o enedigaethau anodd a’r dewis i fridio heffrod i’w gwerthu neu eu cyfnewid sy’n well yn enynnol. Ond, mae llawer o astudiaethau yn amlygu bod ffrwythlondeb semen â’r rhyw wedi ei bennu yn is - ar gyfartaledd mae’n 80% o semen confensiynol - naill ai oherwydd niwed a wnaed wrth ddosbarthu neu fod pob gwelltyn yn cynnwys llai o gelloedd sberm. Mae rhai yn awgrymu y gallai hyn gael ei godi i 94%, er bod hyn yn parhau’n bryder gan i un astudiaeth ganfod gostyngiadau mewn cyfraddau cyfebu wrth ddefnyddio semen â’r rhyw wedi ei bennu - -17% i heffrod a -5% i fuchod. Fodd bynnag, mae cymhelliant economaidd wedi gweld bod semen â’r rhyw wedi ei bennu mewn systemau llaeth yn fuddiol, yn bennaf trwy werthu heffrod sydd dros ben. Wrth gwrs, mae’r canlyniadau’n amrywio yn ôl y math o fferm ac mae’r astudiaethau’n awgrymu mai dull hyblyg wedi ei deilwrio i bob fferm sydd orau wrth edrych ar weithredu semen â’r rhyw wedi ei bennu a/neu brofion genomig. Ffactor arall pwysig i’w ystyried yw pris heffrod a lloeau croes bîff - gall ffermwyr ddewis cynhyrchu mwy o heffrod dros ben tra bydd y prisiau yn uchel, neu i’r gwrthwyneb, i gael yr elw mwyaf. Mewn buchesi bîff lle mae’r defnydd o darw potel a semen â’r rhyw wedi ei bennu’n isel, efallai y byddwn yn gweld mwy yn ei ddefnyddio wrth i’r dechnoleg ddod yn fwy fforddiadwy. Gallai hyn ganiatáu bridio dethol ar stoc cyfnewid gyda nodweddion mamol cryf a theirw gyda nodweddion pesgi da a allai weithio i wella proffidioldeb.

 

Os hoffech fersiwn PDF o'r erthygl hon, cysylltwch â heledd.george@menterabusnes.co.uk


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffytoleddfu: Rôl Planhigion i Buro Dŵr Gwastraff Amaethyddol
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth, Prifysgol
Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr