25 Ionawr 2018

 

Negeseuon i’w cofio:

  • Mae cywasgu pridd yn broblem fawr i amaethyddiaeth fodern.
  • Gall hyn ddylanwadu ar nodweddion ffisegol a chemegol y pridd a gall effeithio ar brosesau yn y pridd.
  • Mae pridd wedi ei gywasgu yn niweidiol yn economaidd i effeithlonrwydd busnes fferm, gan ei fod yn arwain at lai o gynnyrch mewn cnwd a gofynion uwch o ran gwrtaith ac ynni.

Dengys amcangyfrifon o ddirywiad pridd trwy’r byd bod rhywle o gwmpas -1  6 biliwn hectar o dir wedi dirywio (rhwng 10 - 60% o dir amaethyddol a fforestydd). Gall dirywio olygu pethau gwahanol gan ddibynnu ar leoliad a thirwedd ac mae’n cael ei dderbyn i raddau amrywiol ei fod yn dynodi tir sy’n dioddef o effeithiau niweidiol diffeithdiro, haleneiddio, erydu, cywasgu, neu fod rhywogaethau ymledol yn ymledu iddo. O’r problemau yma, ystyrir gan rai mai cywasgu pridd yw’r bygythiad mwyaf i gynhyrchiant amaethyddol yn y dyfodol.

 Mae cywasgu pridd yn broblem fyd-eang bwysig sy’n gysylltiedig ag amaethyddiaeth fodern, fecanyddol.

ta 1 0
Gall defnyddio peiriannau trwm a dulliau amaethyddol modern eraill gael effaith sylweddol ar bridd a phrosesau yn y pridd. Diffinnir cywasgu pridd fel y broses lle mae gronynnau pridd yn cael eu hail drefnu i leihau’r lle gwag, a thrwy hynny gynyddu dwyster y pridd. Gall cywasgu effeithio  ar yr haen uchaf o bridd (pridd uchaf) a’r pridd i ddyfnder (isbridd). Mae cywasgu isbridd yn broblem heriol gan y bydd adfer o hyn yn gostus ac anodd ei gyflawni. Dangoswyd ei fod yn achosi gostyngiadau sylweddol yng nghynnyrch y cnwd, ac fel y cyfryw, mae wedi cael ei gydnabod yn ffurf ddifrifol ar ddirywio pridd gan yr Undeb Ewropeaidd.

Gall cywasgu pridd leihau effeithlonrwydd cynhyrchiant fferm trwy gynyddu costau cynhyrchu gan leihau’r cnwd a gynhyrchir yr un pryd. Mae cywasgu pridd yn lleihau’r potensial i’r cnwd dyfu a’r cynnyrch trwy gyfyngu ar dyfiant y gwreiddiau, cyfyngu ar awyru a storio dŵr, a lleihau argaeledd maetholion yn y pridd. Gall hyn arwain at fwy o ofyn am wrtaith i wrthweithio’r effaith a mwy o ddefnydd o danwydd oherwydd yr ynni ychwanegol sy’n ofynnol ar gyfer gweithgareddau fel aredig. O ganlyniad, gall cywasgu pridd fod yn niweidiol yn economaidd a gall gael canlyniadau sylweddol i effeithlonrwydd busnesau fferm.

Achosion cywasgu pridd

Bydd pridd yn cael ei gywasgu pan fydd traffig peiriannau trwm yn mynd drosto, neu pan fydd anifeiliaid yn sathru yn ormodol arno. Gall effeithiau da byw ar gywasgu pridd fod yn fwy eang mewn system gaeau na’r cywasgu a achosir gan beiriannau trwm, sydd yn nodweddiadol mewn ardal gyfyngedig. Mae effeithiau cywasgu oherwydd da byw yn dibynnu ar ddwyster y sathru, ond pan fydd hyn yn drwm gall effeithio ar ddwyster y pridd, dargludedd hydrolig, maint y macroporau, a gwrthedd i dreiddiad.

Mae tair elfen yn rheoli’r graddau yr effeithir ar bridd: gwead y pridd a’i strwythur, cynnwys organig pridd, a chynnwys dŵr y pridd. Bydd graddau’r deunydd organig mewn pridd yn cael dylanwad ar y graddau y bydd y pridd yn dioddef trwy gynyddu gwrthedd y pridd i’w anffurfio a/neu gynyddu ei botensial elastigaidd. Bydd effeithiau cywasgu gan beiriannau trwm a sathru gan dda byw yn cael eu gwaethygu mewn tywydd gwlyb. Yn nodweddiadol mae priddoedd â mwy o wlybaniaeth ynddynt yn fwy agored i effaith cywasgu gan fod cryfder pridd yn dibynnu i raddau helaeth ar y dŵr sydd ynddo. Felly mae amseru defnyddio peiriannau neu bori yn strategaeth allweddol i leihau’r effaith posibl.

Effeithiau cywasgu ar nodweddion biolegol a chemegol pridd

Trwy addasu rhai prosesau pridd, fel maint y mandyllau, yr awyru a symudiad dŵr, gall cywasgu gael dylanwad ar gyflwr cemegol a biolegol y pridd. Gwelwyd hyn fel gostyngiadau ym mwyneiddiad carbon, y gyfradd nitreiddiad, a chynnydd mewn dadnitreiddiad (sy’n arwain at allyriadau N2O uwch i’r atmosffer). Gall hyn olygu gostyngiad yn argaeledd nitrogen i gnydau ac effeithlonrwydd defnydd cnydau o nitrogen, gan arwain at angen mwy o wrtaith.

ta 2 0
Gall cywasgu pridd hefyd arwain at gyfraddau uwch o allyriadau methan o’r pridd trwy addasu cymunedau o facteria. Achosir hyn trwy newid tuag at gyflwr mwy anaerobig yn y pridd sy’n newid amlygrwydd cymharol bacteria methanogenig (y rhai sy’n cynhyrchu methan) mewn cymhariaeth â bacteria methanotroffig (y rhai sy’n metaboleiddio methan).

O ganlyniad, gall cywasgu pridd gyfrannu at effaith amgylcheddol cynyddol. Gall hyn ddigwydd yn lleol ac yn y cyd-destun amgylcheddol ehangach. Yn lleol, gall pridd wedi ei gywasgu achosi’r potensial i ddŵr redeg ar yr wyneb, a all waethygu effeithiau llygredd tryledol mewn caeau lle defnyddiwyd gwrtaith. Gall priddoedd sy’n gynyddol anaerobig oherwydd cywasgu hefyd gyfyngu ar y potensial i dorri plaleiddiaid i lawr, gan arwain at fwy yn cael ei ollwng i ddyfrffyrdd a mwy o lygru. Yn yr amgylchedd ehangach, gall cywasgu pridd arwain at fwy o allyriadau nwy tŷ gwydr, trwy’r peirianwaith a ddisgrifir uchod a hefyd trwy gynyddu’r gofyn am beiriannau wrth aredig pridd wedi ei gywasgu, sy’n gofyn am ddefnyddio mwy o danwydd gan arwain at allyriadau CO2 uwch.

Dulliau osgoi neu liniaru

Os caiff ei adael bydd pridd yn ymadfer o gywasgu trwy brosesau naturiol, fel gweithgaredd organebau yn y pridd (e.e. mwydod yn tyllu) neu gylchoedd gwlyb-sych neu rewi-dadmer tymhorol. Gall y rhain dorri pridd ar wahân, ond mae’r dull hwn o adfer yn araf a gall gymryd hyd at 18 mlynedd, gan ddibynnu ar ddifrifoldeb y cywasgu a’r math o bridd. Mae osgoi felly yn well strategaeth nag adfer. Dyfeisiwyd sawl strategaeth i deilwrio’r defnydd o beiriannau i leihau effaith cywasgu pridd, gan amrywio o newid siâp neu bwysedd teiars, i gyfyngu ar faint o dir yr effeithir arno.

Yn gyffredinol mae cerbydau ar olwynion yn amharu ar bridd ac yn creu rhychau dyfnach na cherbydau ar draciau oherwydd bod eu cyswllt yn llai. Gall cerbydau ar draciau leihau dyfnder y rhych o hyd at 40% mewn cymhariaeth â theiars llydan iawn neu feddal, er eu bod yn cynyddu mas y cerbyd neu drelar o 10–12%. Gall effaith cerbydau ar olwynion gael ei leihau trwy ddefnyddio teiars pwysedd isel, lle mae maint y teiar yn cael ei gynyddu a’r pwysedd yn cael ei leihau i’r ystod 30 – 120 kPa.

Gall addasu peiriannau leihau peth o’r effaith, ond yn gyffredinol, y prif ffactor sy’n rheoli cyfradd y cywasgu yw dwyster y traffig (y nifer o weithiau yr aiff dros y pridd). Dyfeisiwyd strategaethau i gyfyngu faint o dir sy’n cael ei effeithio gan ddefnyddio peiriannau mewn system y cyfeirir ati fel Ffermio Traffig a Reolir. Mae’r system hon yn defnyddio lonydd traffig parhaol, sydd wedi eu dylunio i fod yr unig rannau o’r cae y bydd teiars peiriannau yn mynd drostynt. Mae hyn yn lleihau effeithiau cywasgu yn ddramatig yng ngweddill y cae. Cyflawnir Ffermio Traffig a Reolir trwy gynllunio effeithiol ar systemau caeau a gall defnyddio offer mordwyo manwl a thechnoleg llywio awtomatig fod o gymorth.

Yn olaf, gall cynyddu’r deunydd organig sydd yn y pridd a lleihau dwyster y trin a’i amlder hefyd helpu i leihau cywasgu. Gall y cynnwys deunydd organig gynorthwyo draeniad, gan leihau effaith waethygol pridd gwlyb ar gywasgu. Bydd lleihau’r trin yn lleihau amlder a dwyster y traffig mecanyddol a gall leihau faint o ddeunydd organig a gollir o’r pridd. Yn ychwanegol, mae priddoedd dan reolaeth dim trin neu drin cyn lleied â phosibl yn hanfodol fwy gwydn i wrthsefyll cywasgu, yn arbennig yn y pridd uchaf.

Crynodeb

Mae cywasgu pridd yn her fyd-eang i amaethyddiaeth fodern, gan y gall yr effaith hwn leihau cynnyrch y cnwd a chynyddu’r angen am fewnbwn drud fel gwrtaith ac ynni. Trwy leihau’r dylanwad niweidiol hwn, gall ffermydd y Deyrnas Unedig wella eu potensial cynhyrchu a lleihau eu heffaith amgylcheddol.

Mae gadael i bridd gael ei gywasgu yn niweidiol yn economaidd i fusnesau fferm, oherwydd y gostyngiad yng nghynnyrch y cnwd a’r gofyn am fwy o wrtaith. Yn ychwanegol, pan fydd cywasgu pridd yn broblem o bwys, efallai na ellir osgoi ymyrraeth neu adfer. Pan fydd angen y camau hyn, byddai disgwyl i unrhyw ymyrraeth ofyn hefyd am fuddsoddiad ychwanegol i leihau dylanwad y dirywiad y mae’n ei achosi.

 

Cliciwch yma i lawrlwytho fersiwn PDF o'r erthygl yma


Related Newyddion a Digwyddiadau

Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr
Cnydau Porthiant ar gyfer Pesgi Ŵyn: Cnydau Bresych
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth