12 Mai 2021

 

Dr Cate Williams: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

 

  • Mae cyflenwad o ansawdd da o golostrwm a roddir yn y ffrâm amser iawn ac ar y lefelau iawn yn hanfodol i unrhyw anifail newydd-anedig, gan fod ynddo wrthgyrff, braster a phrotein holl bwysig.
  • Gwelir amrywiaeth yn ansawdd colostrwm ymysg anifeiliaid unigol a’r rheswm tebygol am hynny yw oedran, esgoredd neu eneteg ac i raddau llai, diet.
  • Dengys tystiolaeth na all diet yng nghyfnodau olaf beichiogrwydd gael effaith ar ansawdd colostrwm a bod felly angen sefydlu’r peirianweithiau yng nghyfnodau cynnar a chanol y beichiogrwydd drwy fonitro a chynnal y BCS cywir.
  • Mae mesur ansawdd colostrwm yn golygu bod anifeiliaid newydd-anedig yn cael y dechrau gorau mewn bywyd ac mae ychydig o ddewisiadau ar gael megis reffractomedrau a cholostromedrau i gymryd mesuriadau ar y fferm neu sbectrosgopeg is-goch neu RID sy’n cael eu dadansoddi mewn labordy.
  • Y ffordd fwyaf cywir, cyflym a syml o asesu ansawdd yw drwy ddefnyddio reffractomedr digidol; nid oes arnoch ond angen sampl bychan ac mae’n rhoi canlyniad rhifol - mae’r dyfeisiau ar gael yn eang am bris rhesymol.


Mae colostrwm neu “laeth cyntaf” yn hanfodol ar gyfer goroesiad anifeiliaid newydd-anedig gan roi cychwyn da i’r anifail ar gyfer bywyd cynhyrchiol iach. Caiff ŵyn a lloi eu geni heb ddim gwrthgyrff gan na allant groesi’r brych ac o’r herwydd, maent yn dibynnu’n llwyr ar fod gwrthgyrff yn trosglwyddo’n oddefol drwy golostrwm y fam. Fodd bynnag, mae gallu’r anifail newydd-anedig i amsugno’r gwrthgyrff hyn drwy’r wal berfeddol yn dirywio ag amser, felly mae darparu colostrwm yn sensitif i amser. Mae’r anifail newydd-anedig yn colli’r gallu i amsugno gwrthgyrff erbyn pan mae’n 24 awr oed ac yn yr un modd, bydd colostrwm y fam yn gwanhau’n raddol wrth i’w llaeth ddod drwodd. Prif ddangosydd ansawdd colostrwm yw’r crynodiad imiwnoglobwlin G (IgG), sy’n lg allweddol, sy’n gallu rhwymo wrth amrywiaeth eang o antigenau ar bathogenau ac alergenau. Wrth gwrs, un yn unig o’r holl wahanol lgs sydd i’w cael mewn colostrwm yw hwn; mae hefyd yn cynnwys lefel uchel o fraster (oddeutu 77g/kg), i helpu’r anifail newydd-anedig i gynnal tymheredd ei gorff, a lefelau uchel o brotein i roi hwb i’w faeth. Fodd bynnag, ni chaiff pob colostrwm ei greu’r un fath, a chaiff amrywiol ffactorau ddylanwad ar yr ansawdd, gan gynnwys esgoredd, statws maethol y fam, geneteg ac iechyd. Gan fod colostrwm yn hanfodol yn natblygiad system imiwnedd yr anifail newydd-anedig a goroesiad ŵyn/lloi, mae’n werth asesu ansawdd y colostrwm a monitro’n agos faint o’r colostrwm mae anifeiliaid newydd-anedig yn ei sugno. Felly, sut allwn ni sicrhau bod anifeiliaid yn cynhyrchu’r colostrwm o’r ansawdd gorau posibl? Pa ddewisiadau sydd ar gael ar gyfer cymryd mesuriadau manwl? Beth yw’r effeithiau ar yr anifail yn ddiweddarach yn ei oes?

 

Ffactorau sy’n effeithio ar ansawdd colostrwm

Gall amrywiol ffactorau ddylanwadu ar ansawdd colostrwm ac er bod llawer o’r rhain yn gyffredin mewn anifeiliaid cnoi cil (gwartheg a defaid yn bennaf) mae’n well ymchwilio i rai newidynnau yn ôl rhywogaethau. Un o’r dylanwadau ar golostrwm yr ymchwiliwyd orau iddo yw maeth a chyflwr corff y fam, fodd bynnag, fe allai canlyniadau’r astudiaethau eich synnu. Canfu llawer nad yw maeth y fam yn cael effaith fawr ar ansawdd y colostrwm o ran cynnwys protein ac egni ac fe allai hynny awgrymu bod perthynas fwy cymhleth i’w chael rhwng y ddau. Mewn mamogiaid, canfu astudiaethau nad oedd sgôr cyflwr corff (BCS) o 2.5-3.5 yn effeithio ar lefelau IgG mewn colostrwm, pwysau ŵyn ar eu genedigaeth, marwolaethau na phwysau adeg diddyfnu. Nid oedd diffyg maeth mewn mamogiaid yn yr 20 diwrnod olaf o’u beichiogrwydd a/neu’r cyfnod llaetha yn effeithio ar bwysau geni na lefelau IgG mewn colostrwm ond ei fod er hynny yn cael effaith sylweddol ar gyfraddau twf ŵyn oherwydd bod gan y famog lai o laeth. Credir mai’r rheswm am y diffyg effaith yma yw gallu’r famog i roi blaenoriaeth i’w hŵyn – mae gwneud iawn a rhannu maeth yn sicrhau bod ŵyn yn cael yr hyn mae arnynt ei angen, ond ar ôl y geni, mae’n rhaid i system imiwnedd yr oen weithio’n galed hefyd i wneud iawn am ddiffygion maeth. Gwelir effaith debyg mewn buchod, gydag ond ychydig o amrywiaeth i’w weld yn ansawdd colostrwm o ganlyniad i’w lefelau bwyta. Felly, er nad yw statws maeth yn ystod cyfnodau olaf y beichiogrwydd yn cael effaith fawr ar ansawdd y colostrwm a gynhyrchir ni all darparu maeth wedi’i dargedu a chadw’r anifeiliaid ar sgôr BCS targed gydol eu beichiogrwydd ond fod o fantais. Pan fo astudiaethau wedi asesu effaith diet sy'n dechrau yn nyddiau cynnar beichiogrwydd, yn yr achos hwn ar ddiwrnod 50, gwelwyd bod gan rai y rhoddwyd iddynt 100% o’u gofynion maeth grynoadau IgG llawer uwch yn eu colostrwm na rhai ar 140% a 60% o’u gofynion. Mae hyn yn awgrymu nad oes dim lles i’w gael o or-fwydo mamogiaid ac y gall tan-fwydo gael effaith niweidiol ar ansawdd y colostrwm. Mae cynnal BCS priodol hefyd yn holl bwysig ar gyfer genedigaeth hawdd a didrafferth yn ogystal ag ar gyfer faint o laeth a gaiff ei gynhyrchu yn hwyrach ymlaen, ac mae hynny’n rhywbeth sy’n cael effaith fawr ar gyfraddau twf ŵyn. O’r herwydd, mae’n werth targedu maeth ar gyfer anifeiliaid trawsnewid a chynnal y BCS cywir.

Gwelwyd rhywfaint o amrywiaeth yn ansawdd colostrwm yn ôl y tymor, ond nid yw’n glir ai diet/ansawdd porfa sydd i gyfrif am hyn ynteu amrywiadau tymhorol. Sefydlwyd ers tro bod cynnwys maeth porfa ffres yn llawer iawn gwell na silwair glaswellt ond mae astudiaethau yn parhau i gyflwyno canlyniadau anghyson ynglŷn â’i effaith ar golostrwm. Fe wnaeth un astudiaeth yn Norwy ganfod bod buchod sy’n lloia yn y gaeaf (Rhagfyr, Ionawr, Chwefror) yn cynhyrchu colostrwm a oedd yn cynnwys lefelau isel iawn o IgG, tra bod prosiect arall yn Iran wedi canfod i'r gwrthwyneb. Mae’n bosibl mai’r amrywiaeth amlwg yn yr hinsawdd dros wahanol dymhorau’r gwledydd sy’n arwain at y gwahaniaethau mewn achosion o glefydau, rhaglenni porthi a chyfnodau pori, ac fe allai’r rhain oll gael dylanwad ar gynhyrchiant IgG.

 

Gyda defaid, mae mamogiaid iau yn eu beichiogrwydd cyntaf neu ail yn cynhyrchu colostrwm sy’n cynnwys lefel uwch o lgG na rhai yn eu trydydd, pedwerydd neu’u pumed cylch. Canfu astudiaethau fod mamogiaid blwydd, yn eu beichiogrwydd cyntaf, yn cynhyrchu colostrwm a oedd yn cynnwys 100 mg/mL IgG, a bod y lefel hon yn gostwng wrth iddynt fynd yn hŷn i lawr i 53 mg/mL mewn mamogiaid 7 oed. Mae astudiaeth arall yn cytuno, ac wedi canfod mai mamogiaid yn eu beichiogrwydd cyntaf sy'n cynhyrchu'r colostrwm o'r ansawdd gorau o’u cymharu â mamogiaid yn eu hail, eu trydydd a’u pedwaredd cylch. Fodd bynnag, mae’r tuedd yn cael ei wyrdroi mewn buchod – gyda buchod lloi cyntaf ac ail loi yn cynhyrchu colostrwm o ansawdd is na rhai yn eu trydydd, eu hail neu'u pumed llaethiad. Canfu un astudiaeth fod heffrod yn eu llaethiad cyntaf yn cynhyrchu colostrwm a oedd yn cynnwys 49 mg/mL tra bod rhai yn eu pumed llaethiad neu hwyrach yn cynhyrchu colostrwm sy’n cynnwys 66 mg/mL ar gyfartaledd. Fe wnaeth cynnwys protein hefyd gynyddu ag oedran, ond fod braster a lactos yn dirywio ychydig wrth iddynt fynd yn hŷn. Credir mai’r rheswm am hyn yw oherwydd bod anifeiliaid hŷn wedi dod i gysylltiad ag amrywiaeth mwy o bathogenau a bod ganddynt felly fwy o wrthgyrff i’w cynnwys yn y colostrwm a’u trosglwyddo i’w rhai bach. Mae hefyd yn bosibl bod gan ddatblygiad y chwaren laeth ran i’w chwarae hefyd, a bod gan anifeiliaid hŷn, mwy datblygedig o bosibl well synthesis IgM yn y gadair/pwrs na buchod llo cyntaf. O’r herwydd, mae’n bosibl y byddai o fudd monitro buchod lloi cyntaf yn agos i sicrhau bod y lloi yn cael digon o golostrwm o ansawdd da.

Canfu astudiaethau hefyd fod gan eneteg ran bwysig i'w chwarae , gyda gwahanol fridiau o ddefaid yn cynhyrchu colostrwm sy’n cynnwys gwahanol lefelau o IgG. Mae astudiaethau ar wartheg wedi llwyddo i sgorio bridiau yn ôl cyfanswm y cynnwys imiwnoglobin yn eu colostrwm: Jersey (9%)> Ayrshire (8.1%)> Brown Swiss (6.6%)>Guernsey (6.3%)> Holstein (5.6%). Mae brid hefyd yn effeithio ar y math o imiwnoglobwlin sy’n bresennol mewn colostrwm, gyda’r crynodiadau uchaf o IgG (6.6%), A (1.9%) ac M (0.5%) i’w cael mewn gwartheg Jersey, y lefelau isaf o IgG (4.1%) i’w cael mewn gwartheg Holstein a lefelau isel o IgA (0.9%) ac M (0.4%) i’w cael mewn gwartheg Guernsey.  Mae amcangyfrifon genetig yn awgrymu bod gan fraster y colostrwm a chyfanswm solidau mewn buchod Holstein gyfradd etifeddadwy cymedrol (0.22 a 0.27, yn y drefn honno). Er bod gan briodweddau eraill megis cynnwys egni, protein a lactos sgoriau etifeddadwy is, maent yn dal i gael eu rheoli gan eneteg, sy’n awgrymu y gallai rhaglenni bridio detholus helpu i wella ansawdd colostrwm mewn buchod llaeth.

 

Effaith ar ddatblygiad

Mae colostrwm yn holl bwysig ar gyfer imiwnedd yn yr anifail newydd-anedig oherwydd ei fod yn cael ei eni’n naïf (heb ddim imiwnedd i bob pwrpas) ac mae’n dibynnu'n gyfan gwbl ar golostrwm y fam i greu sylfeini ei system imiwnedd. Bydd methu â darparu colostrwm digonol yn y 24 awr cyntaf yn ffrwyno system imiwnedd yr anifail gan gynyddu’r risg o haint a’r angen am wrthfiotigau gan leihau gallu’r anifail newydd-anedig i amsugno maeth yn y perfedd.

Mae’n well ymchwilio i effaith colostrwm ar y llo yn ddiweddarach yn ei oes yn syml oherwydd bod ffermydd llaeth yn darparu’r senario delfrydol i gasglu samplau tra bod ymchwil mewn defaid yn llawer prinnach. Yn ogystal â’r system imiwnedd, mae gan golostrwm hefyd ran bwysig i’w chwarae yn natblygiad perfedd y llo. Mae’r crynodiadau uchel o hormonau a ffactorau twf mewn colostrwm yn holl bwysig ar gyfer datblygiad celloedd yn y perfeddyn bach, gan hybu twf a chynhyrchiant protein. Mae faint o golostrwm sy’n cael ei yfed yn cael effaith uniongyrchol ar faint filysau yn y perfedd –sef celloedd arbenigol, siâp bysedd sy’n cynyddu’r arwyneb er mwyn amsugno maeth, felly mae filysau mwy yn arwain at amsugno maeth yn well. Canfu astudiaethau fod lloi y rhoddwyd colostrwm iddynt yn amsugno mwy o glwcos o’i gymharu â lloi y bwydwyd fformiwla neu laeth powdr iddynt. Mae colostrwm hefyd yn helpu i ysgogi metaboledd lloi newydd-anedig ac yn tanio datblygiad cyhyrau ysgerbydol, fodd bynnag, nid yw’r effeithiau ar berfformiad gydol oes yn glir a byddai’n elwa o ymchwil pellach.

 

Mesur colostrwm

Mae’n bwysig mesur ansawdd colostrwm i sicrhau bod da byw newydd-anedig yn cael y dechrau gorau mewn bywyd ac i’ch helpu i benderfynu a yw’n werth ei rewi a’i storio at eto. Er bod rhai yn asesu colostrwm “â’r llygad” nid yw'n ddull manwl gywir, gan mai lefelau braster, nid crynodiadau imiwnoglobwlin sy’n effeithio ar ludedd a lliw y colostrwm. I fod yn llwyddiannus, rhaid i unrhyw ddyfais i fesur colostrwm ar y fferm fod yn ddibynadwy, yn gywir ac yn hawdd ei defnyddio. Yn draddodiadol, argymhellwyd colostromedr – caiff dwysedd y colostrwm ei fesur a gellir cysylltu hynny wedyn â chrynodiad IgG, felly po drwchaf yw’r sampl, y mwyaf o IgG sydd ynddo. Gwneir hyn drwy hongian y ddyfais mewn silindr o golostrwm ac asesu ei hynofedd – po fwyaf hynawf yw’r ddyfais, y trwchaf a’r gorau yw ansawdd y colostrwm. Fodd bynnag, mae sawl anfantais i’r dull hwn: mae’r ddyfais fel arfer wedi’i gwneud o wydr a gall fod yn fregus; rhaid i’r colostromedr a’r holl gyfarpar arall gael eu glanhau’n drylwyr cyn eu defnyddio, a rhaid i'r colostrwm fod ar 22 ̊C i roi darlleniad cywir.

Fel un cam i fyny o’r colostromedr, mae reffractomedrau Brix wedi dod yn boblogaidd iawn. Dyfeisiau llaw, bychan yw’r rhain sy’n defnyddio plygiant golau i fesur trwch colostrwm. Po drwchaf yw’r sampl, po fwyaf y bydd y golau’n plygu gan roi sgôr uwch ar y raddfa fewnol neu’r darlleniad digidol, yn ddelfrydol dylid anelu am 23% er bod sgôr o rhwng 22 a 30% yn cael ei gyfrif yn ansawdd da. Mae sgôr o 23% yn cyfateb i 50 mg/mL o lgG, sef y crynodiad gofynnol o wrthgyrff mewn colostrwm. Mae reffractomedr yn gofyn am sampl llawer llai na’r colostromedr, hefyd mae’n gyflymach, yn haws ac yn fwy cywir gan nad yw tymheredd yn effeithio ar y mesuriadau. Mewn byd perffaith, byddai pob colostrwm yn cael ei brofi gan ddefnyddio imiwnodrylediad rheiddiol (RID), sy’n asesiad manwl gywir a wneir mewn labordy sy’n cael ei ystyried fel y “safon aur”.  Fodd bynnag, mae’r dull hwn yn ddrud ac yn cymryd llawer o amser – rhaid aros 18-24 awr cyn bo'r canlyniadau'n barod.

Yn ddiweddar, mae sbectrosgopeg is-goch (IRS) ynghyd â dadansoddi ystadegol wedi dod yn dechneg amgen ar gyfer asesu ansawdd colostrwm. Mae IRS yn brawf cyflym nad oes angen llawer o waith paratoi ar y sampl ymlaen llaw, a gall fesur amrywiol elfennau mewn colostrwm a llaeth gan ddefnyddio’r un egwyddorion, sef golau fel reffractomedrau ond ar y raddfa is-goch. Mae sbectrosgop is-goch bychan, symudol wedi cael ei gynhyrchu ac mae’n addas iawn i’w ddefnyddio ar y fferm (e.e.  microPHAZIR™ RX analyser), fodd bynnag, mae’r ddyfais hon yn ddrud ac fe’i defnyddir yn bennaf mewn sefyllfaoedd labordai. Mae angen i’r dull hwn hefyd gael ei ddefnyddio law yn llaw â phroses dadansoddi ystadegol ddiweddarach er mwyn trawsnewid y rhifau yn ddata y gellir ei ddefnyddio, mae’n gysyniad y mae’n rhaid ei ddatblygu yn system gyflym a hawdd ei defnyddio. Mae astudiaethau gwyddonol yn cytuno ar hierarchaeth gywirdeb mewn dulliau a dyfeisiau mesur colostrwm, gan roi ystyriaeth i wahanol sbectra o olau (agos a chanolig) a darlleniad optegol neu ddigidol ar gyfer y reffractomedr:

 

1. Imiwnodrylediad rheiddiol

2. Sbectrosgopeg is-goch canolig

3.  Sbectrosgopeg is-goch agos

4. Reffractomedr digidol

5. Reffractomedr optigol

6. Colostromedr

Er bod y colostromedr yn sgorio’n isel i lawr yn y rhestr hon, mae’n sicr yn ddewis gwell na pheidio â phrofi colostrwm o gwbl. Gyda datblygiad reffractomedrau llaw bach ond manwl gywir, mae reffractomedrau llaw gyda darlleniadau digidol, sy’n mesur ansawdd colostrwm yn broses syml a chyflym, gyda digon o opsiynau ar gael ar y farchnad am bris rhesymol.  

 

Crynodeb

Mae colostrwm yn ffurfio sylfeini system imiwnedd da byw newydd-anedig ac yn darparu’r hwb maeth sydd ei angen i ddechrau bywyd ar ffurf proteinau a brasterau hanfodol. Caiff yr anifail ei eni heb imiwnedd o unrhyw fath, felly mae’n dibynnu ar iddo drosglwyddo’n oddefol o’r fam drwy’r colostrwm er mwyn dechrau datblygu system imiwnedd. Mae’r anifail newydd-anedig yn amsugno’r gwrthgyrff imiwnoglobwlinau hyn drwy wal y perfedd, ond dim ond am amser byr oherwydd pan fydd yn 24 awr oed mae’r sianelau wedi cau – felly mae’n holl bwysig darparu lefelau ac ansawdd da o golostrwm yn gyflym. Gwelir amrywiaeth mawr yn ansawdd colostrwm o fewn buchesi neu ddiadelli a rhwng ffermydd gydag amrywiaeth o ffactorau yn achosi hyn. Mae’n ymddangos mai’r prif ddylanwadau yw esgoredd ac oedran – mae mamogiaid sy’n wyna am y tro cyntaf a’r ail dro yn cynhyrchu colostrwm sydd â’r lefel uchaf o wrthgyrff, tra bod buchod yn eu trydydd, eu pedwerydd a’u pumed llaethiad yn cynhyrchu’r ansawdd gorau. O’r herwydd, fe allai fod o fudd monitro colostrwm heffrod yn ofalus a sicrhau bod gennych golostrwm o ansawdd da wrth gefn. Yn y cyfamser, byddai mamogiaid hŷn yn debygol o elwa o asesu eu colostrwm i sicrhau bod yr ŵyn yn cael digon o wrthgyrff. Ceir cysylltiad geneteg canolig ag ansawdd colostrwm, felly fe allai rhaglenni bridio detholus arwain at welliannau yn y maes hwn. Mae’n bwysig cynnal BCS targed a darparu’r maeth cywir gydol eu beichiogrwydd er mwyn cynhyrchiant colostrwm. Mae targedu maeth yn ôl BCS a faint o ŵyn maent yn eu cario, yn sicrhau nad yw’r fam yn dioddef wrth rannu’r maeth a’i bod yn cynhyrchu’r colostrwm o’r ansawdd gorau posibl. Dengys tystiolaeth na all addasu’r diet yng nghyfnodau olaf beichiogrwydd gael effaith ar ansawdd colostrwm a bod felly angen sefydlu’r peirianweithiau yng nghyfnodau cynnar a chanol y beichiogrwydd drwy fonitro a chynnal BCS cywir. Mae llawer o ddewis ar gael ar gyfer profi colostrwm, mae dyfeisiau ar y fferm yn cynnwys colostromedrau a reffractomedrau tra gellir defnyddio sbectrosgopeg ac RID mewn labordai. Ar gyfer mesur ar y fferm, reffractomedr digidol llaw yw’r dull mwyaf cywir, cyflym a hawdd o asesu ac mae’r dyfeisiau ar gael yn hawdd.

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr
Working Towards a More Sustainable Future: Breeding Sheep for Resistance and Resilience to Gastrointestinal Nematodes
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth Rhagfyr 2023 Gall
Cyfleoedd ar gyfer y dyfodol ym maes geneteg defaid yng Nghymru: Bridio ar gyfer gwlân o ansawdd uwch
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth