4 Mehefin 2021
Dr William Stiles: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.
Negeseuon i fynd adref:
- Bydd angen i’r dulliau rheoli tir presennol newid er mwyn bodloni’r heriau sy’n gysylltiedig ag allyriadau sero net.
- Bydd hyn yn cynnwys cynyddu arferion rheoli tir sy’n canolbwyntio ar ddal a storio carbon.
- Mae amaethyddiaeth mewn sefyllfa unigryw i sicrhau bod y Deyrnas Unedig yn cyflawni’r amcanion sero net cyfreithiol-rwymol.
Mae angen gwneud newidiadau mawr yn yr arferion rheoli presennol er mwyn cyflawni’r her o leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr i ‘sero net’. I’r rhai nad ydynt yn gyfarwydd â’r cysyniad, sero net yw’r targed ar gyfer cael cydbwysedd rhwng yr allyriadau nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir a faint gaiff ei dynnu o’r atmosffer. Targed net ydyw yn hytrach na tharged gros oherwydd fe fyddai dileu’r holl allyriadau yn afrealistig, ond gellir cael cydbwysedd rhwng gostyngiadau mewn allbynnau nwyon tŷ gwydr a mwy o wrthbwysiad, yn bennaf drwy ddefnyddio dalfeydd megis priddoedd a llystyfiant ar gyfer dal a storio.
Mae cyrraedd sero net yn gam hanfodol fel rhan o ymrwymiadau cyfreithiol-rwymol y Deyrnas Unedig a wnaed yng Nghytundeb Paris, a fabwysiadwyd yn 2015 ac a wnaed yn gyfraith yn 2016, sydd â’r nod o gyfyngu cynhesu byd-eang i o dan 2oC, a gorau oll os yw o dan 1.5oC. Dan y cytundeb hwn, ac i gyrraedd y nod, rhaid lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr i sero erbyn 2050. Bydd cyrraedd sero net yn y Deyrnas Unedig yn gofyn am weithredu newidiadau helaeth ar draws yr economi. Bydd hyn yn cynnwys symud i ffwrdd oddi wrth ddefnyddio tanwydd ffosil at drydaneiddio helaeth a datblygu’r economi hydrogen. Bydd gofyn defnyddio llawer llai o ynni ac adnoddau, a gwneud newidiadau ar lefel yr unigolyn o ran y galw am rai gweithgareddau drud ar garbon.
Fel rhan o hyn, bydd disgwyl i systemau rheoli tir yn y Deyrnas Unedig addasu er mwyn cynyddu’r potensial i ddal a storio carbon. Mae hyn yn debygol o fod ar ffurf tyfu mwy o fiomas, a wneir drwy gynnwys mwy o organebau megis coed ar dirweddau amaethyddol, a drwy ddulliau rheoli pridd gwell i sicrhau'r potensial gorau ar gyfer dal a storio (neu o leiaf, gadw’r carbon sydd yn y pridd yn barod). Mae deall dylanwad y dulliau rheoli tir presennol ar y storfeydd carbon presennol ac i’r dyfodol yn allweddol ac mae’n un o’r ffactorau y mae ffermwyr yn awyddus i ymchwilio iddynt fel y gwelir ym mhrosiect EIP yng Nghymru.
Tynnu CO2 o’r atmosffer
Ceir dau brif ddull o dynnu carbon deuocsid (CO2) o’r atmosffer: defnyddio technoleg i ddal a storio’r nwy hwn, neu ddefnyddio organebau megis planhigion i ddal a storio’r carbon yn eu biomas, ac mae hynny’n digwydd ar ôl iddynt ddefnyddio CO2 yn ystod ffotosynthesis. Mae technolegau dal carbon i’w cael, ac i’r dyfodol mae’r bur bosibl y byddant yn chwarae rôl bwysicach mewn rheoli a lleihau allyriadau CO2 a chrynoadau CO2 yn yr atmosffer. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, ni ddylai’r dechnoleg hon gael ei hystyried fel ateb i bob problem. Yn hytrach, mae addasu dulliau rheoli tir er mwyn dal a storio mwy o garbon mewn cronfeydd naturiol yn ddull y gellir ei weithredu ar unwaith a chaiff ei ystyried yn un o’r strategaethau allweddol ar gyfer y dyfodol er mwyn cyrraedd sero net.
Er nad CO2 yw’r unig nwy tŷ gwydr i gyfrannu at newid hinsawdd, hwn yw’r unig nwy tŷ gwydr y byddai’n ymarferol ei dynnu o’r atmosffer. Mae nwyon tŷ gwydr eraill, megis methan, yn dipyn mwy heriol i’w dal, ond hefyd yn achos methan, nid yw’n aros am gyfnod mor hir yn yr atmosffer (oddeutu deuddeg mlynedd ar gyfer methan, o’i gymharu â hyd at ddau gan mlynedd ar gyfer CO2).
Mae hyn yn golygu bod amaethyddiaeth mewn sefyllfa unigryw i gyflwyno nifer o fanteision o ran cyrraedd sero net. Mae amaethyddiaeth, fel pob system gynhyrchu, yn cyfrannu at newid hinsawdd drwy allyriadau nwyon tŷ gwydr o ganlyniad i gynhyrchu. Fodd bynnag, y prif nwy tŷ gwydr a gaiff ei allyrru drwy gynhyrchiant amaethyddol yw methan. Mae hyn yn golygu y gallai addasiadau priodol i ddulliau cynhyrchu leihau allbynnau methan a dal a storio mwy o CO2 ar yr un pryd, a gallai hynny fod yn fanteisiol iawn.
Ymyraethau seiliedig ar natur
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer faint y bydd angen i dirwedd y Deyrnas Unedig newid er mwyn delio ag amcanion newid hinsawdd yn nodi y bydd angen i oddeutu 22% o’r tir a ddefnyddir ar hyn o bryd ar gyfer amaethyddiaeth gael ei ryddhau ar gyfer defnyddiau eraill, megis dal a storio carbon, adfer cynefinoedd, a chynhyrchu bio-ynni.
Amcangyfrifir y bydd angen plannu tri-deg mil hectar yn fwy o goed bob blwyddyn rhwng nawr a 2050 (mae hyn yn cyfateb i blannu 90 – 120 miliwn o goed bob blwyddyn). Bydd gofyn hefyd gwneud y dulliau presennol o reoli coedwigoedd yn fwy effeithlon er mwyn cynyddu cynhyrchiant, drwy gyfrwng arferion coedamaeth gwell. Fel rhan o hyn, bydd hefyd angen plannu coed ar laswelltir a thir cnydau, a bydd angen cynyddu’r arwynebedd gwrychoedd i 181,000 hectar erbyn 2050. Mae gan hyn y potensial i gyflawni oddeutu 6 MtCO2e (mega dunnell o nwyon cyfatebol i CO2 ). Fodd bynnag, yn ogystal â’r nod hwn, noda egwyddorion dulliau rheoli cyfalaf naturiol fod angen i ddulliau plannu coed ystyried mwy na dim ond dal a storio, gan fod ffactorau megis gweithrediad a gwytnwch ecosystemau yn debygol o fod yr un mor bwysig ar gyfer cynaliadwyedd cyffredinol a chyflawni gwasanaethau ecosystemau.
Mae gwell dulliau rheoli mawndiroedd hefyd yn gydran allweddol o ddulliau rheoli tir cyfeillgar i’r hinsawdd i’r dyfodol. Mae mawn yn storfa garbon hynod o bwysig. Bydd adfer systemau mawndiroedd, sydd wedi diraddio drwy eu haddasu i gynnal cynhyrchiant bwyd a ffibr, yn hanfodol er mwyn dychwelyd y systemau hyn yn ddalfeydd carbon yn hytrach nag yn ffynonellau carbon. Bydd hyn yn golygu blocio draeniau ac ail-wlychu corsydd, er y gallai hynny gynyddu allyriadau methan yn y tymor byr. Er hynny, mae hwn yn gam hanfodol er mwyn dychwelyd y cynefin hwn i statws gweithredol. Gall symud cynhyrchiant ymaith oddi wrth gynefinoedd sensitif o’r fath, gan ganiatáu iddynt weithredu fel dalfeydd carbon, ar ôl iddynt ddychwelyd i’w statws gweithredol, ganiatáu i gynhyrchiant ddigwydd mewn mannau eraill, gan gyfrannu at niwtraleiddio effaith cynhyrchu bwyd angenrheidiol yn gyffredinol.
Dulliau rheoli tir eraill i gyrraedd sero net
Gallai rhai dulliau rheoli tir penodol hefyd gynnig cyfleoedd i gynnwys cynhyrchiant o fewn nodau dal a storio nwyon tŷ gwydr. Gallai tyfu cnydau biomas, at ddibenion cynhyrchu bio-ynni, roi cyfle i integreiddio camau hinsawdd-glyfar yn y senarios cynhyrchu presennol. Gallai cynhyrchu tanwydd fel hyn helpu i leihau’r ddibyniaeth ar danwydd ffosil, a chynyddu ar yr un pryd y potensial i ddal a storio carbon mewn planhigion. At hynny, gellid ystyried hon fel ffordd o dynnu CO2 o’r atmosffer, ac wedyn ei ddal gan ddefnyddio technolegau dal carbon a wnaed gan ddyn yn ystod y broses hylosgi. I’r perwyl hwn, mae’r dull hwn yn wahanol i ddulliau eraill seiliedig ar natur, oherwydd yn y system hon, fe ellid tynnu carbon yn effeithiol o’r C-gylch, rhywbeth nad yw o anghenraid yn wir yn yr hirdymor yn achos ymyraethau eraill.
Amcangyfrifir y bydd rhaid i gyfraddau plannu cnydau bio-ynni, gan gynnwys miscanthus, coedlannau cylchdro byr a choedwigoedd cylchdro byr gynyddu i 23,000 hectar y flwyddyn o ganol y 2020au ymlaen er mwyn cyrraedd y targedau gostwng. Rhagwelir y bydd hyn yn sicrhau arbedion o oddeutu 2 MtCO2e o allyriadau carbon yn y sector rheoli tir, gydag arbediad pellach o 11 MtCO2e o gynhyrchion wedi’u cynaeafu (ar ôl dal a storio gan ddefnyddio technolegau dal carbon).
Heb ystyried yr ymyraethau uchod, er mwyn cael y gostyngiadau mewn allbwn methan o amaethyddiaeth mae’n debygol y bydd angen lleihau’r cyfraddau cynhyrchu anifeiliaid cnoi cil presennol (defaid, gwartheg biff a llaeth). Amlygir hyn yn benodol yn y canfyddiadau allweddol yn yr adroddiad gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, ac maent yn amcangyfrif y bydd angen gostyngiadau o oddeutu 20% mewn cyfraddau defnydd y pen, yn ogystal â gostyngiadau ar gyfraddau tebyg mewn gwastraff bwyd cysylltiedig. Ar gyfraddau twf cyfredol y boblogaeth, bydd hyn yn benodol yn golygu lleihau niferoedd y da byw presennol (o’u cymharu â lefelau 2017) 10% erbyn 2050. Mae hwn yn nifer fawr, ond mae’n bosibl ei fod yn cyd-fynd â’r tueddiadau presennol at ostyngiadau yn y galw am gig coch a chynhyrchion cysylltiedig ymysg defnyddwyr.
I’r dyfodol, wrth i dueddiadau defnyddwyr newid ac wrth i ffocws cymorthdaliadau symud oddi wrth ganlyniadau cynhyrchiant at ddarparu nwyddau cyhoeddus, cyfalaf naturiol, a gwasanaethau ecosystemau, mae’n bosibl mai athroniaeth ‘llai ond gwell’ fydd orau ar gyfer systemau cynhyrchu anifeiliaid cnoi cil. Mewn amgylchiadau o’r fath, mae’n wir bosibl y bydd systemau sy’n croesawu arferion ffermio lle mae lliniaru newid hinsawdd a chynyddu bioamrywiaeth yn arferion rheoli craidd, yn cael eu gwobrwyo’n ariannol drwy gymorthdaliadau i’r dyfodol, a hefyd gyda chynhyrchion a fydd â mwy o werth iddynt, yn enwedig lle gellir sefydlu brandiau i dynnu sylw at y manteision a ddarperir gan y systemau rheoli tir hyn.
Summary
Rapid and extensive changes are required economy-wide in order to meet the challenges of reducing GHG emissions to net zero by 2050. The land management sector is both a potential source and sink of carbon, and is uniquely placed to help the UK meet the challenge of achieving the necessary emissions reductions.
In general, greenhouse gas emissions have been falling in the UK in recent decades, and were 44% below 1990 levels in 2018. However, the UK is still not on track to meet reduction targets by 2050. The Climate Change Committee, a non-departmental public body that advises the UK and devolved governments, has highlighted that the current trajectory of policy and actions will fall well short of what is required to achieve net zero.
Climate change presents a major challenge and threat to the land management sector. The size and scale of change needed is daunting, but is achievable. And, if actioned appropriately, these actions may have the potential to provide solutions for multiple challenges currently threatening this industry. Regardless, inaction will result in a scenario where food production may become increasingly challenging. Thus, the above sectorial changes must be embraced in order to ensure a sustainable and productive future for agriculture across Wales and the UK.