10 Tachwedd 2021

 

Mae Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig yn Glasgow wedi cael y byd i siarad am gynhesu byd eang, newid hinsawdd a’r angen i bob gwlad yn y byd leihau ei hôl troed carbon. 

Bob dydd yr wythnos hon, bydd Cyswllt Ffermio yn rhyddhau cyfres o fideos gwybodaeth byr ar y thema ‘ffermio cynaliadwy’. Mae’r fideos, sy’n cael eu cyflwyno gan aelodau o dîm technegol Cyswllt Ffermio, wedi’u dylunio i ysbrydoli pob busnes yng Nghymru i weithredu arferion ffermio allweddol sydd eisoes yn helpu llawer o fusnesau amaethyddol yng Nghymru i leihau eu hallyriadau carbon. Ewch i sianeli Facebook neu Instagram Cyswllt Ffermio i glywed sut gall y diwydiant barhau i gyfrannu at yr ateb i’r her fyd-eang hon. 

Caiff Cyswllt Ffermio ei ddarparu ar ran Llywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig gan Menter a Busnes, ochr yn ochr â Lantra Cymru. Yn siarad ar drothwy ail wythnos cynhadledd COP26, anogodd Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig gyda Menter a Busnes, i bob busnes fferm a choedwigaeth yng Nghymru fynd i sianeli Facebook neu Instagram Cyswllt Ffermio. Bydd hyn yn rhoi gwybodaeth iddynt o ran sut y gallant hwythau gyfrannu at yr ymgyrch hollbwysig hon, trwy fanteisio ar y gwasanaethau cymorth a’r hyfforddiant sydd ar gael trwy Cyswllt Ffermio. 

“Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed a fydd yn golygu y bydd yn rhaid i Gymru geisio bod yn wlad sero-net erbyn 2050, ac mae gan ein diwydiant ffermio rôl hynod bwysig i’w chwarae wrth helpu I gyflawni hyn.”

“Mae ffermio yng Nghymru eisioes yn gwneud cyfraniad cadarnhaol, ond fel gyda phopeth, mae bob amser lle i wella.”

“Mae ffermio yng Nghymru wedi’i seilio’n bennaf ar arferion nad ydynt yn ddwys, gan ddibynnu ar laswellt torieithog a glawiad.”

“Mae nifer y ffermydd yng Nghymru sy’n cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn cynyddu’n barhaus ar gyfradd sylweddol, ond gellir gwneud llawer mwy o hyd, a dyna pam mae Cyswllt Ffermio yn benderfynol o estyn allan a chefnogi hyd yn oed mwy o fusnesau.”

Dywedodd Mrs Williams bod ffermio mewn modd cynaliadwy yn golygu gwneud defnydd gorau o holl adnoddau naturiol y fferm, gan ychwanegu ei bod hi’n bwysig defnyddio arloesedd a thechnolegau newydd a darganfod ffyrdd effeithlon, effeithiol a phroffidiol o weithio. Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cefnogaeth ac arweiniad ar gyfer holl sectorau’r diwydiant, a dyna pam ei bod yn annog pob teulu a phob busnes i gymryd mantais lawn ar y gwasanaethau, arweiniad a hyfforddiant sydd ar gael -  pob un naill ai wedi’i ariannu’n llawn neu wedi’i ariannu hyd at 80%. 

“Fel man cychwyn, dylai ffermwyr gwneud archwiliad carbon manwl o’u busnes - gwasanaeth sydd ar gael trwy Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio, a fydd yn darparu cymorth ac arweiniad sydd eu hangen arnynt, argymhellion clir a chynllun gweithredu manwl.”

Mae’r Gwasanaeth Cynghori, sydd hefyd yn daparu archwiliadau bioamrywiaeth a chyngor ar isadeiledd, yn gallu cael ei ariannu hyd at 80% ar gyfer busnesau cymwys, ac mae wedi’i ariannu’n llawn ar gyfer grwpiau o ffermwyr sy’n gweithio gyda’i gilydd. 

Ar ddechrau’r pandemig, lansiodd Cyswllt Ffermio gyfres o glinigau un-i-un a chymorthfeydd ar-lein. Gyda llawer o’r rhain bellach ar gael fel gwasanaeth ar y fferm, mae’r ystod o bynciau wedi’u hymestyn i gynnwys nifer a fydd yn helpu ffermwyr i fynd i’r afael â newid hinsawdd. Mae’r rhain yn cynnwys clinig pridd (sy’n cynnwys pum sampl pridd o ddwysedd swmp a deunydd organig am ddim); clinig tail (sy’n cynnwys dau sampl tail am ddim); clinig porthiant (sy’n cynnwys dau sampl porthiant am ddim), a chlinig dŵr (sy’n cynnwys un sampl dŵr am ddim).   

“Pwrpas y clinigau hyn yw darparu’r wybodaeth sydd ei angen ar ffermwyr i’w galluogi i weithredu arferion ffermio mwy effeithlon a gwneud gwell defnydd o adnoddau naturiol”, meddai Mrs Williams. 

Mae’r ffenest ymgeisio ar gyfer rhaglen boblogaidd Cyswllt Ffermio, sef ‘Rhagori ar Bori’ nawr ar agor. Gyda thir pori a reolir yn dda wrth wraidd systemau da byw cynhyrchiol, proffidiol ac sy’n cynnig budd i’r amgylchedd, sy’n cynhyrchu llaeth a chig maethlon o ansawdd uchel, mae disgwyl i nifer y ffermwyr sy’n defnyddio’r gwasanaeth pwysig hwn gynyddu’n syfrdanol fel rhan o ymateb y diwydiant i'r galwad i weithredu a gyhoeddwyd trwy COP26. 

“Mae cannoedd o ffermwyr Cymru bellach yn rhan o’r rhaglen ‘Rhagori ar Bori” ac mae gweld effaith y mae’r rhaglen wedi’i chael ar laswelltir a pherfformiad stoc y ffermwyr yn annog hyd yn oed mwy o fusnesau i ymuno”, meddai Mrs Williams.

Gall eich swyddog datblygu lleol Cyswllt Ffermio ddarparu rhagor o wybodaeth ar gyfres o wasanaethau sydd wedi’u teilwra i’ch gofynion, a fydd yn darparu’r atebion gorau i unrhyw heriau y gallech fod yn eu hwynebu, neu gyngor ar ble i gychwyn. Gallant hefyd eich helpu i gyrchu'r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i leihau ôl troed carbon eich busnes, i wneud eich cyfraniad tuag at newid hinsawdd. Fel arall, ewch i wefan Cyswllt Ffermio.

Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, ac fe’i ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd
Sut mae anwybyddu clefydau heintus yn gallu arwain at broblemau sylweddol mewn diadelloedd yng Nghymru
29 Tachwedd 2024 Mae ffermwyr defaid yng Nghymru yn cael eu