Wrth i gynllun gwerth £10 miliwn gael ei weithredu i waredu dolur rhydd feirysol buchol (BVD) o fuches wartheg genedlaethol Cymru, mae ffermwyr yn cael eu hannog i fanteisio ar brofion am ddim a chymorth milfeddygon neu wynebu’r posibilrwydd o orfod talu am brofion gorfodol yn 2020.

Mae BVD yn glefyd feirysol sy’n achosi gwrthimiwnedd a phroblemau atgenhedlu mewn gwartheg ac mae’r diffyg cynhyrchiant yn costio £5 miliwn y flwyddyn i’r diwydiant amaeth yng Nghymru.

Diolch i gyllid a sicrhawyd gan Raglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020 mae hawl gan bob ffermwr da byw neu laeth i gael profion am ddim i weld a yw’r clefyd yn bresennol yn eu buches.

Dechreuwyd cynnal profion gwaed, ar y cyd â phrawf TB arferol, ar 1 Medi.

blood sample being taken from tail 0

Wrth lansio’r cynllun ar fferm Llysun, dywedodd Peredur Hughes, cadeirydd Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru, fod y cynllun tair blynedd yn gyfle unigryw.

“Mae hon yn rhaglen am ddim a byddwn yn annog pob ffermwr i fanteisio arni gan ein bod yn rhagweld ymhen tair blynedd bydd y Llywodraeth yn gwneud BVD yn glefyd hysbysadwy ac yn cyflwyno deddfwriaeth i wneud profion yn orfodol. Yn y sefyllfa yma, ni fyddai ffermwyr yn gallu gwerthu eu hanifeiliaid heb gynnal profion yn gynta ac ni fyddai’r prawf am ddim,’’ meddai.

Pwysleisiodd Mr Hughes nad rheoli BVD oedd nod y cynllun profion am ddim ond yn hytrach ei waredu fel y mae nifer o wledydd yn Ewrop wedi llwyddo i’w wneud.

Rheolir y rhaglen - Gwaredu BVD – gan Ganolfan Adnoddau Amaeth Coleg Sir Gâr mewn partneriaeth â’r Coleg Milfeddygol Brenhinol.

Mae dau bartner darparu – Menter a Busnes yn y gogledd ac Iechyd Da yn y de; y rhain sydd yn gyfrifol am reoli’r milfeddygon a fydd yn gwneud y gwaith.

Wrth sgrinio cymerir dau sampl gwaed o bum anifail rhwng 9 a 18 mis ym mhob grŵp rheoli stoc ifanc.

Yn ôl Dr Neil Paton, Arweinydd Technegol Milfeddygol y rhaglen, cymerir samplau ar ddiwrnod cyntaf y prawf TB (TT1) a chaiff ffermwyr wybod beth yw’r canlyniadau ar ddiwrnod y darlleniad TB.

Bydd ffermwyr yn cael eu hannog i weithredu ar y canlyniadau. “I ffermwyr gyda buchesi sy’n rhydd o’r clefyd, bydd cyfle i drafod diogelu’r fuches yn erbyn y clefyd yn y dyfodol ac i’r rhai lle mae’r clefyd yn bresennol, mae cymorth ar gael i waredu BVD o’u buches, ’’ meddai Dr Paton.

Mae’r cymorth hwn yn cynnwys taleb o £500 i bob fferm i restru anifeiliaid sy’n cael eu heintio’n barhaus (PI).

John Griffiths oedd cadeirydd is-grŵp o’r Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru a gafodd y gwaith o roi’r rhaglen ar waith.

Ceisiodd annog pob ffermwr yng Nghymru i brofi eu hanifeiliaid. “Rydym yn teimlo’n gyffrous iawn ynglŷn â’r hyn y gellir ei gyflawni drwy’r cynllun yma,” meddai.

Trefnwyd y lansiad ar y cyd gan Gwaredu BVD a Cyswllt Ffermio. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.

 

ASTUDIAETH ACHOS

richard tudor 1
Mae Richard Tudor, ffermwr bîff a defaid o Bowys wedi bod yn brechu ei wartheg rhag BVD ers 2000, ar ôl i brofion gadarnhau fod y clefyd yn bresennol yn ei fuches sugno.

Mae Mr Tudor, sydd â buches o 140 o fuchod sugno a 1200 o ddefaid bridio yn Fferm Llysun, Llanerfyl, hefyd yn cymryd samplau o feinwe’r glust o’i stoc ifanc i fonitro anifeiliaid PI.

Mae perfformiad a ffrwythlondeb y fuches wedi elwa ar y dull rhagweithiol hwn, meddai.

“Yn 2000 roeddem yn colli anifeiliaid ifanc heb unrhyw reswm amlwg. Mae fy chwaer yn filfeddyg a pherswadiodd fi i gynnal profion ar y fuches. Dyna pryd y sylweddolwyd bod gennym broblem gyda BVD,’’ meddai.

“Aethom ati mewn ffordd ragweithiol; roedd yn llawer gwell mynd i’r afael â’r broblem na chladdu ein pen yn y tywod.’’

Yn ôl Mr Tudor, sy’n gwerthu gwartheg fel gwartheg stôr ac ond yn prynu teirw pedigri sy’n rhydd o BVD, fod ei brynwyr wedi elwa hefyd. “Mae'n bwysig bod gwartheg yn goroesi ac yn perfformio’n dda ar ôl cael eu gwerthu. Tagio a phrofion yw ein polisi yswiriant, mae'n rhoi tawelwch meddwl i ni.’’


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint