7 Mai 2019

 

 

julie thomas simply the best hyfforddiant 0

Gan fod ffenestr ymgeisio sgiliau Cyswllt Ffermio yn awr ar agor hyd 5pm dydd Gwener, 28 Mehefin, efallai ei bod yn amser da i ystyried datblygu eich sgiliau wrth i bawb sy’n gweithio yn y diwydiannau ffermio a choedwigaeth baratoi am amodau masnachu ansicr yn y dyfodol.

Dywedodd Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Lantra Cymru, sydd ochr yn ochr â Menter a Busnes, yn darparu Rhaglen Sgiliau a Hyfforddiant Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru a Chronfa Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, bod y ffenestr ymgeisio deufis o hyd yn adlewyrchu’r newid yn anghenion busnesau ac unigolion.

“Rydym wedi cyflwyno’r ffenestr ymgeisio estynedig yma o Fai 2019 ymlaen, i gydnabod yr amser prin sydd gan lawer o fusnesau fferm a choedwigaeth sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio wrth iddynt wynebu cymaint o bwysau a sialensiau eraill.

“Rydym yn rhoi mwy o amser iddynt fynd trwy’r prosesau angenrheidiol i sicrhau eu bod yn cael y mwyaf o’r ystod gynhwysfawr iawn o hyfforddiant wedi ei achredu gyda chymhorthdal neu wedi ei ariannu’n llawn sydd ar gael erbyn hyn,” dywedodd Mr Thomas.

Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig mwy na 60 o gyrsiau gwahanol wedi eu hachredu  gan gynnwys hyfforddiant gwella busnes, hyfforddiant technegol yn ogystal ag yn gysylltiedig â pheiriannau ac offer, y cyfan gyda chymhorthdal o hyd at 80% ac yn cael eu cyflawni trwy rwydwaith o ddarparwyr hyfforddiant a gymeradwywyd. Mae ystod amrywiol o bynciau yn amrywio o gofnodion ariannol a TAW i farchnata eich busnes, ac o drimio traed, rheoli slyri a rheoli tyrchod i ymdrin â pheiriannau yn ddiogel neu eu gyrru. Mae nifer o ddewisiadau hyfforddi TG, iechyd a lles anifeiliaid ac e-ddysgu wedi eu hariannu yn llawn ar gael hefyd. 

“Mae pob cwrs hyfforddi yr ydym yn ei ddarparu yn cael ei ddylunio i arbed amser ac arian – ein nod yw eich helpu i weithio yn fwy effeithlon, yn fwy proffidiol a diogel,” dywedodd Mr Thomas, a ychwanegodd y bydd cyrsiau hyfforddi ychwanegol wedi eu hachredu yn cael eu hychwanegu at y rhaglen wrth i’r diwydiant a’i ofynion esblygu.

Bydd angen i fusnesau cofrestredig ac unigolion sy’n dymuno ymgeisio am hyfforddiant wedi ei achredu gyda chymhorthdal yn ystod y ffenestr ymgeisio gwblhau Cynllun Datblygu Personol ar-lein cyn cyflwyno cais am gyllid.

Bydd angen i unrhyw un sy’n dymuno cofrestru am y tro cyntaf i ymgeisio am gyrsiau hyfforddi wedi eu hachredu gyda chymhorthdal gofrestru gyda Cyswllt Ffermio erbyn 5pm Dydd Llun 24 Mehefin.

Am ragor o wybodaeth am y broses ymgeisio, rhestr lawn o’r holl gyrsiau hyfforddi Cyswllt Ffermio a rhestr o’r darparwyr hyfforddiant, cliciwch yma neu ffoniwch Ganolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813. Fel arall, siaradwch â’ch swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.   

Mae Cyswllt Ffermio yn cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra ar ran Llywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint