17 Ebrill 2025
Mae yna duedd gynyddol o brynwyr yng Nghymru yn dewis ffrwythau, llysiau a blodau sydd
wedi’u cynhyrchu’n lleol. Nid yn unig maen nhw’n cefnogi tyfwyr lleol, ond mae’r prynwyr hyn hefyd yn adlewyrchu’r ymwybyddiaeth gynyddol sydd heddiw o’r effaith ar yr amgylchedd, a’r awydd i leihau milltiredd bwyd, gan leihau’r ôl troed carbon a lliniaru newid hinsawdd.
Mae hyn yn arbennig o wir am gynnyrch wedi’i fewnforio sydd hefyd yn gallu cael ei dyfu’n llwyddiannus yn lleol – newyddion da i ffermwyr sydd â diddordeb mewn sefydlu neu ehangu menter arddwriaeth. Gyda’r rhan fwyaf o archfarchnadoedd, bwytai a marchnadoedd ffermwyr yng Nghymru yn barod i flaenoriaethu cynnyrch a gaiff ei dyfu yng Nghymru, mae nifer cynyddol o brynwyr yn dewis ‘prynu’n lleol’ pryd bynnag y gallan nhw.
Ffermio, coedwigaeth – a garddwriaeth hefyd
Mae Cyswllt Ffermio yn enwog am yr ystod eang o gymorth, arweiniad a hyfforddiant mae’n ei chynnig i gannoedd o fusnesau fferm a choedwigaeth bob blwyddyn. Ond wyddoch chi fod ffermwyr sy’n bwriadu dod yn dyfwyr ‘garddwriaeth’ masnachol, neu sydd eisoes yn un, hefyd yn gymwys i fanteisio ar wasanaethau’r rhaglen? Gyda’r tymor tyfu o’r diwedd yn y golwg, gallai hwn fod yn amser da i fanteisio ar gyfres o gyngor sy’n benodol ar y sector garddwriaeth. Mae’r cyfan naill ai wedi’i ariannu’n llawn neu’n rhannol (hyd at 80%). O gyrsiau hyfforddi, e-ddysgu a mentora ar bynciau sy’n amrywio o gynllunio sut i reoli maeth a lliniaru amodau tywydd, i reoli busnes, marchnata a phecynnu cynaliadwy, gallwch ddewis y gwasanaethau sydd eu hangen arnoch.
Sarah Gould yw’r rheolwr garddwriaeth ar gyfer yr elfen sgiliau a hyfforddiant o raglen arddwriaeth Cyswllt Ffermio. Cyngor Sarah yw y dylech gysylltu â ni, dim ots pa gam o’ch taith ‘tyfu ar gyfer twf’ rydych chi arno ar hyn o bryd. Mae ymuno â rhwydwaith o dyfwyr yn aml yn fan cychwyn da hefyd, meddai.
“Mae bod yn rhan o un o’n rhwydweithiau i dyfwyr yn ffordd wych o gwrdd â garddwriaethwyr o’r un anian ac arbenigwyr y sector. Cewch hefyd weld â’ch llygaid eich hun beth allai weithio’n dda ar eich fferm, a hynny cyn i chi gloddio eich rhych gyntaf!
Gwnewch eich ymchwil a gosodwch ddisgwyliadau realistig
“O opsiynau tymhorol fel ffrwythau haf, llysiau, cnydau salad, perlysiau a blodau, i’r coed Nadolig, pwmpenni a gwreiddlysiau a ddaw’n ddiweddarach – os oes gennych erw sbâr, gall Cyswllt Ffermio eich helpu i wneud y gorau ohoni, boed hynny trwy fentrau ‘dewis eich hun’, siopau fferm a hybiau cymunedol, neu drwy werthu’ch cynnyrch yn uniongyrchol i fanwerthwyr a defnyddwyr,” meddai Sarah.
“Os gwnewch chi eich gwaith ymchwil yn gyntaf ac ymchwilio i’r hyn fydd yn tyfu orau i chi – ystyriwch briddoedd, yr hinsawdd, topograffeg ac adnoddau – yna nawr yw’r amser i edrych ar eich opsiynau. Mae Cyswllt Ffermio yma i gynnig cymorth arbenigol ar bob cam, gan eich helpu i fuddsoddi’n ddoeth a defnyddio’ch adnoddau yn effeithiol.”
Yn ôl Sarah, mae yna hefyd gyfleoedd sy’n deillio o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i annog mwy o sefydliadau’r sector cyhoeddus yng Nghymru, megis ysbytai, ysgolion a chartrefi gofal, i gael gafael ar fwy o gynnyrch Cymreig – gan gynyddu’r galw.
Mae tyfu cnydau garddwriaeth yn cyfrannu at fioamrywiaeth ac iechyd y pridd, ac mae yna gryn fanteision i’r ffermwr ei hun hefyd. O’i gymharu â da byw traddodiadol neu ffermio âr, mae llawer o gnydau, fel ffrwythau, llysiau, perlysiau a blodau, yn cynnig mwy o elw fesul erw. Mae cnydau arbenigol a chynnyrch organig yn arbennig yn cael prisiau premiwm hefyd.
Mae ffermio tŷ gwydr, twnnel polythen a fertigol yn caniatáu ichi gynhyrchu drwy gydol y flwyddyn gyda llai o effaith ar yr amgylchedd. Ac o ystyried bod gan lawer o gnydau garddwriaeth dymhorau tyfu byrrach na da byw, mae gwneud elw yn gyflymach yn fantais arall, wrth gwrs.
Cyfleoedd
Os yw mynediad at dir yn rhwystr i sefydlu eich menter, gall cynllun Dechrau Ffermio Cyswllt Ffermio eich paru â pherchennog tir, gan gynnig cyngor busnes a chyfreithiol i ddatblygu cytundebau cyfreithiol wedi’u teilwra i ffurfio menter ar y cyd ... Mae gennym ddau gyfle ar gael ar hyn o bryd ...
Eisiau gwybod mwy?
Am ragor o wybodaeth, ewch i’r adran arddwriaeth ar wefan Cyswllt Ffermio. Neu cysylltwch ag un o swyddogion datblygu Cyswllt Ffermio.