Newyddion Diweddaraf Longlands
Ar fferm Longlands mae’r Dr James Breen wedi gweithredu Cynllun Rheoli Mastitis Cenedlaethol AHDB Dairy yn ogystal ag offeryn dadansoddi patrwm mastitis buches yr AHDB. Mae’r offeryn hwn yn cynnig dull hollol awtomataidd o asesu’r patrymau heintiad mastitis sy’n bresennol ar y fferm, trwy ddefnyddio cyfrif celloedd somatig a chofnodion mastitis clinigol.
Mae’r asesiad cychwynnol a’r dilyniant i’r cynllun wedi digwydd, gan danlinellu’r meysydd sy’n creu’r risg fwyaf o fastitis yn y fuches. Yn ystod yr ymweliad cyntaf dadansoddodd James rannau gwahanol o’r fferm i gael darlun cyfan a chreu dull mwy personol. Mae’r ddau gynllun yn gadael i ffermwyr a milfeddygon asesu a blaenoriaethu meysydd rheoli allweddol ac, o bosibl, canfod problemau sy’n dod i’r golwg yn y cyfnod sych a/neu gyfnod llaetha.
Patrymau Cyfrif Celloedd Somatig a mastitis clinigol
Achosion Misol mewn Buchod: Dangosir y nifer o achosion o fastitis mewn buchod mewn lliwiau sy’n adlewyrchu ffynhonnell dybiedig yr heintiad. Achosion cyntaf cyfnod sych yw’r achosion glas (h.y. achos cyntaf o fewn 30 diwrnod i loea). Achosion sy’n digwydd drachefn mewn buchod sych yw’r achosion coch (h.y. mastitis sy’n digwydd mewn buwch a gofnododd yr achos cyntaf o fewn 30 diwrnod i loea). Achosion cyntaf mewn cyfnod llaetha yw’r achosion melyn (h.y. achos cyntaf >30 diwrnod yn llaetha heb unrhyw achosion mastitis yn y llaethiad hwnnw). Mae’r lliw gwyrdd yn dynodi achosion sy’n digwydd drachefn yn ystod cyfnod llaetha (h.y. achos mastitis dilynol mewn llaethiad yn digwydd mewn buwch a gofnododd yr achos cyntaf mewn llaethiad 31 diwrnod neu fwy ar ôl lloea). Digwyddiadau mastitis mewn buchod fwy na 305 diwrnod ar ôl lloea yw’r achosion pinc.
Gwelwyd bod yr hyn sy’n digwydd i fuchod sych a’r rhai sy’n llaetha yn ystod misoedd yr haf yn cael dylanwad mawr ar y gyfradd mastitis clinigol. O’r data mae’n amlwg bod buchod yn dueddol o ddatblygu mastitis clinigol yn ystod 30 diwrnod cyntaf y llaethiad yn ystod yr haf. Mewn blynyddoedd blaenorol roedd yr achosion newydd mewn buchod ar ôl 30 diwrnod yn amlygu ffactorau amgylcheddol yn y sied wartheg, ond mae hyn wedi gwella yn sylweddol ers gosod system awyru pwysedd positif. Mae’r wybodaeth hon yn rhoi’r pwyslais ar wella’r rheolaeth ar fuchod sych a throsglwyddo i arafu’r cyfraddau mastitis clinigol.
Mae’r cyfnod buchod sych yn ystod yr haf wedi cael dylanwad mawr ar gyfrif celloedd. Ond, mae buchod cyfrif celloedd isel sydd yn cael eu sychu wedi tueddu i loea yn ôl i’r fuches gyda chyfrif celloedd uchel ar gyfradd uchel ers y Pasg, gan awgrymu bod yr heintiadau wedi cael eu codi yn ystod y cyfnod sych. Mae bacterioleg o fuchod gyda chyfrif cronig o gelloedd somatig yn tanlinellu pwysigrwydd Streptococcus uberis, pathogen amgylcheddol sy’n cael ei godi fel arfer mewn systemau iardiau rhydd sydd hefyd yn gallu arwain at heintiad mwy parhaol yn ystod llaethiad. Mae’r ‘patrwm’ mastitis felly yn un o heintiadau amgylcheddol o’r cyfnod sych yn bennaf ar hyn o bryd
Cynllun mastitis
Mae’r cynllun rheoli mastitis yn canolbwyntio ar bathogenau Amgylcheddol gyda’r rhan fwyaf o’r heintiadau o’r cyfnod sych. Mae’r cynllun hwn yn canolbwyntio ar reoli’r cyfnod sych, buchod sy’n lloea, trin mastitis a monitro a chasglu data. Nod y cynllun hwn yw:
- Rheoli a lleihau’r gyfradd o fuchod cyfrif celloedd uchel NEWYDD wrth eu godro gyntaf o’r cyfartaledd arferol o 21.0% i <10%.
- Rheoli a lleihau’r gyfradd o achosion mastitis clinigol NEWYDD mewn buchod lai na 30 diwrnod ers lloea yn y 12 mis nesaf o gyfartaledd o > 3 ym mhob 12 i < 1 ym mhob 12 o’r buchod sydd wedi lloea.
Y meysydd allweddol y mae John wedi cytuno i’w taclo gyntaf yw:
- Rhoi o leiaf 2 metr sgwâr o ofod loetran i fuchod sych sydd yn agos at loea
- Llwybrau, ardaloedd loetran a phorthi i gael eu clirio â chrafwr o leiaf ddwywaith y dydd.
- Gwellt glân dan fuchod sych agos at loea bob dydd a rhoi tywod dan fuchod pell o loea bob yn ail ddiwrnod.
- Gweithredu therapi buchod sych yn lanwaith gan ddefnyddio gwirod feddygol ar bob teth cyn ei thrin.
- Symud tuag at therapi buchod sych dethol dros amser, gan ddefnyddio seliwr teth yn unig ar fuchod cyfrif celloedd isel.
- Yr holl staff i wirio hidlydd yn y llinell ar ôl i bob buwch gael ei godro, rhaid trin yr holl achosion clinigol.
Casgliad
Bydd y pwyslais dros yr ychydig fisoedd nesaf ar reoli buchod sych a’r amgylchedd i fuchod sych a buchod yn lloea gan eu hail-asesu yn y flwyddyn newydd. Y cynllun ar gyfer gweddill y prosiect fydd lleihau effaith mastitis a chyfrif celloedd somatig yn Longlands.
- Lleihau cyfraddau mastitis o gyfartaledd o 30 achos i bob 100 o fuchod i <25 achos i bob 100 o fuchod
- Lleihau cyfradd heintiad cyfnod sych cyfrif celloedd somatig o 21.0% i < 10%
- Gwella cyfradd gwella cyfrif celloedd somatig buchod sych o 69.1% i >85%
- Hefyd gostwng y defnydd cyffredinol o wrthfiotig i’r targedau a argymhellir o <20 mg/ Uned Cywiro Poblogaeth (PCU).