Mae hwn yn gwrs hyfforddi ac asesu integredig.
Byddwch yn cael tystysgrif hyfforddiant ar ôl cwblhau’r cwrs.
Mae hwn yn gwrs sydd wedi’i anelu ar gyfer unigolion sy’n cael eu cyflogi yn y diwydiant coedyddiaeth, coedwigaeth, garddwriaeth, tirlunio a chynnal a chadw tir, sydd â phrofiad o ddefnyddio peiriannau torri coed yn fân. Mae’r cwrs yn gymysgedd gytbwys o sesiynau theori ac ymarferol i’ch arwain drwy’r broses. Byddwch yn dysgu am yr holl faterion iechyd a diogelwch allweddol. Hyfforddiant cynnal a chadw rheolaidd. Bydd y gwaith ymarferol yn cynnwys defnyddio peiriannau torri coed yn fân, a chael gwared ar rwystrau. Efallai y bydd angen mwy o amser ar weithredwyr dibrofiad i feistroli holl elfennau ein cwrs yn llawn.
O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Iechyd a Diogelwch – Rheoli Risg mewn Coedwigaeth a Ffermio
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn: