Cwrs hyfforddiant undydd yw hwn a bydd tystysgrif yn cael ei rhoi ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.
Gan fod damweiniau yn risg sylweddol o fewn y sector, mae’n hanfodol bod y gweithdrefnau a’r hyfforddiant priodol mewn lle. Bydd y cwrs hwn yn darparu’r sgiliau i’ch galluogi i gadw chi a’ch cydweithwyr yn ddiogel wrth weithio ar uchder. Byddwch yn dysgu am ofynion Iechyd a Diogelwch penodol wrth weithio’n uchel, ac yn edrych ar amrywiaeth o sefyllfaoedd y gallwch ddod ar eu traws o yn eich gweithle. Mae’r cwrs yn hybu arferion da o ran iechyd a diogelwch yn gyson. Byddwch yn edrych ar y goblygiadau cyfreithiol ond yn gallu gweld sut maen nhw’n berthnasol i’ch gwaith.
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Iechyd a Diogelwch – Rheoli Risg mewn Coedwigaeth a Ffermio
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn:
Nodwch gall Groundwork North Wales a Jimmy Hughes Training Services Ltd gyflwyno'r cwrs hwn yn ddigidol. Gweler manylion cyswllt yr holl ddarparwyr hyfforddiant isod.