Enw: Sara Pedersen MRCVS
Symudol: 07545 431800
E-bost: sara.pedersen@agrisgop.cymru
Lleoliad: Bro Morgannwg/Yn gweithredu ledled De Cymru
Arbenigedd(au): Iechyd a lles gwartheg gyda ffocws ar gysur buchod a symudedd gwartheg
- Prif ffocws Sara Pedersen, llawfeddyg milfeddygol ac Arbenigwr Cydnabyddedig RCVS mewn Iechyd a Chynhyrchiant Gwartheg, yw darparu atebion cynaliadwy, cost-effeithiol i wella iechyd a lles anifeiliaid, yn seiliedig ar ymchwil sy'n seiliedig ar dystiolaeth a dadansoddiad cost a budd. Mae sylfaen cleientiaid amrywiol Sara yn cynnwys busnesau fferm unigol, cwmnïau maeth a fferyllol a chyrff cenedlaethol gan gynnwys AHDB a Cyswllt Ffermio.
- Yn filfeddyg, hyfforddwr ac ymchwilydd hynod brofiadol, mae Sara wedi ymgymryd â nifer o brosiectau ar gyfer Cyswllt Ffermio ac AHDB (Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth) gan gynnwys datblygu a chyflwyno cyrsiau Meistr ar Gloffni a chydlynu prosiectau cloffni ar nifer o safleoedd arddangos.
- Mae Sara wedi cael gyrfa hirsefydlog ym maes iechyd anifeiliaid a phynciau cysylltiedig, gan weithio'n uniongyrchol gyda ffermwyr, sefydliadau iechyd anifeiliaid a'r byd academaidd. Mae’n gweithio yn ei busnes ym Mro Morgannwg – Farm Dynamics – sy’n darparu gwasanaeth ymgynghori cenedlaethol a rhyngwladol i fusnesau amaeth ac yn darparu rhaglenni addysgol i ffermwyr a milfeddygon.
- Yn gyfathrebwr hyderus a hamddenol, mae ei phrofiad, gwybodaeth a sgiliau sylweddol wedi dod â hi i gysylltiad uniongyrchol â nifer enfawr o unigolion a sefydliadau, gan roi mynediad iddi at rwydwaith eang o arbenigwyr. Arweiniodd un o’i rolau mwy diweddar gyda Cyswllt Ffermio at reoli prosiect a arweiniwyd gan y ffermwr ac a ariannwyd gan EIP ar symudedd a chloffni mewn gwartheg – pwnc y mae’n edrych ymlaen at fynd i’r afael ag ef yn ei rôl newydd fel arweinydd Agrisgôp.
- Mae Sara wedi cyflwyno nifer o gyrsiau, gweithdai a chyflwyniadau cynadledda ar gyfer Cyswllt Ffermio, y British Cattle Veterinary Association, y Cattle Hoof Care Standards Board ac AHDB. Mae hi hefyd yn ymwneud â hyfforddiant ar gyfer achredu hyfforddwyr milfeddygol a thrimio traed ar gyfer y rhaglen o gyrsiau trimio traed a gymeradwyir gan Lantra ac a ddarperir gan BCVA/CHCSB, yn ogystal â bod yn rhan o nifer o dreialon clinigol.
Profiad/sgiliau/cymwysterau perthnasol
- Arbenigwr Cydnabyddedig RCVS mewn Iechyd a Chynhyrchiant Gwartheg (Mawrth 2015 - presennol)
- PhD rhan-amser gyda Phrifysgol Nottingham (2017 - presennol) ar gyfer prosiect ymchwil a ariennir gan AHDB sy’n asesu techneg trimio traed mewn gwartheg godro
- Diploma RCVS mewn Atgynhyrchu Buchol (2010-2012) Prifysgol Lerpwl
- Tystysgrif RCVS mewn Iechyd a Chynhyrchiant Gwartheg (2009)
- Baglor mewn Meddygaeth Filfeddygol o’r Coleg Milfeddygol Brenhinol, Prifysgol Llundain (1999-2005)
- Baglor mewn Gwyddoniaeth (Anrhydedd) mewn Sŵoleg 2002 (2:1), Prifysgol Bryste (2001-2002)
Rolau ychwanegol
- Aelod o Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru Llywodraeth Cymru ers mis Mehefin 2021
- Aelod o’r Grŵp Llywio Symudedd Gwartheg Llaeth ers 2018
- Cyd-Ysgrifennydd Anrhydeddus y British Cattle Veterinary Association (BCVA) ers 2016 (arweinydd addysg)
Swyddi academaidd presennol
- Darlithydd Gwadd, Prifysgol Aberystwyth (ers 2022).
- Arholwr Tystysgrif mewn Arfer Milfeddygol Uwch (Fferm).
- Rolau hyfforddi ychwanegol
- Hyfforddwr ar gyfer Cyrsiau Trimio Traed a Gymeradwyir gan Lantra ac a ddarperir gan BCVA/CHCSB (ers 2022)
- Hyfforddwr Mentor Symudedd Rhaglen Traed Iach AHDB (ers Gorffennaf 2020)
- Hyfforddwr Cymeradwy Cofrestr Sgorwyr Symudedd (ers Ebrill 2020)
- Hyfforddwr Gwobrau Lantra trwy fynychu cwrs 'Hyfforddi'r Hyfforddwr' (Rhagfyr 2014)