David Best

Treathro, North Pembrokeshire

 

Mae Treathro yn fferm rostir arfordirol 170 erw, sy’n magu buches o wartheg Red Ruby Devon ynghyd â diadell fechan o ddefaid Llŷn. Mae'n system sy'n seiliedig ar borthiant lle mae'r holl wartheg wedi'u hardystio o dan y Pasture Fed Livestock Association. Mae'r egwyddorion ffermio yn dilyn dull adfywiol, gan gyfuno dull o drin y tir cyn lleied â phosibl, mewnbynnau cemegol cyfyngedig, a da byw ar bori cylchdro. 

Mae David a Debbie yn awyddus i archwilio pa feysydd ac arferion rheoli sy'n annog gwell iechyd y pridd a gweithgarwch microbaidd er mwyn cynllunio ymlaen llaw ar gyfer y dyfodol. Felly, bydd y prosiect yn archwilio iechyd a bioamrywiaeth y pridd ar gyfer amrywiaeth o wahanol ddulliau o reoli a chyfansoddiadau glaswellt, gan gynnwys porfa barhaol, ardaloedd heb bori, caeau silwair a gwndwn a gaiff eu trin cyn lleied â phosibl.

Nod y prosiect fydd cymharu bioleg pridd gwahanol arferion rheoli. Bydd effaith yr arferion rheoli hyn ar y canlynol yn cael ei hymchwilio:

  • Cywasgu pridd ac asesiad gweledol (VESS)
  • Microbioleg pridd
  • Digonedd mwydod
  • Presenoldeb pryfed a rhywogaethau peillwyr (yn enwedig chwilod y dom)
  • Cyfansoddiad rhywogaethau porthiant 

Bydd y prosiect yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:

  • Gwneud y mwyaf o storio carbon
  • Lliniaru perygl llifogydd a sychder
  • Ecosystemau gwydn
  • Effeithlon o ran adnoddau
     

 


Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Nantyrhebog
Michael James Nantyrhebog, Carmarthen Ymchwilio i’r elw posibl ar
Brynllech Uchaf
Rhodri and Claire Jones Brynllech Uchaf, Llanuwchllyn
Dylasau Uchaf
Beca Glyn Dylasau Uchaf, Conwy Mae Dylasau Uchaf yn awyddus i