30 Mai 2024

 

Bydd lleihau amharu ar y pridd, tyfu cnydau gorchudd a chynyddu amrywiaeth planhigion yn helpu ffermydd Cymru i ymdopi’n well â heriau hinsawdd y dyfodol.

Wrth i'r diwydiant symud tuag at ddefnyddio technegau cynhyrchu bwyd mwy cynaliadwy, dylai nod pob fferm fod i gynyddu carbon organig pridd, mynnodd Neil Fuller, arbenigwr mewn gwyddoniaeth rheoli pridd.

Mewn digwyddiad iechyd pridd Cyswllt Ffermio yn ddiweddar ar Fferm Treathro, fferm bîff ger Penrhyn Pen-caer, Sir Benfro lle mae David a Debbie Best yn treialu gwahanol arferion rheoli pridd, dywedodd Mr Fuller fod iechyd y pridd yn cynnig canlyniadau cynaliadwyedd a chynhyrchiant sylweddol i fusnesau fferm.

Fel man cychwyn, argymhellodd gael mesuriad gweithredol o iechyd priddoedd ffermydd - eu hiechyd biolegol, ffisegol a chemegol.

O ffyngau a bacteria microsgopig i bryfed genwair a chwilod, mae pridd yn cynnwys biliynau o organebau. 

“Mae'r rhan fwyaf yn fuddiol i gnydau ac yn cyflawni amrywiaeth o swyddogaethau, o dorri deunydd organig i lawr a gwella strwythur a draeniad y pridd,'' meddai Mr Fuller.

Bydd llawer hefyd yn gweithredu fel ysglyfaethwyr ar gyfer plâu, gan leihau'r angen am gemegau.

Mae pryfed genwair yn ddangosyddion da o iechyd y pridd gan eu bod yn sensitif i pH, llenwi â dŵr, cywasgiad, cylchdroadau, trin tir a deunydd organig.

Gall eu niferoedd a'u dosbarthiad ar draws cae ddatgelu beth sy'n digwydd o dan yr wyneb.

Daeth Mr Fuller â'r neges hon yn fyw gyda 'saffari pridd' trwy archwilio gwahanol briddoedd a gweithgaredd llyngyr o dan ficrosgop pwerus a'i rannu ar sgrin fawr.

Dylai fod gan briddoedd fferm dri math o bryfed genwair - ar yr wyneb, uwchbridd a phryfed genwair sy'n tyllu'n ddwfn.

Mae mwydod arwyneb bach yn byw ac yn bwydo ar sbwriel arwyneb a diwygiadau organig, mae pryfed genwair uwchbridd i'w cael yn yr uwchbridd, gan ffurfio tyllau llorweddol sy'n cymysgu'r pridd ac yn symud maetholion, ac mae pryfed genwair sy'n tyllu’n ddwfn yn gwneud tyllau dwfn, fertigol.

Er bod gan y rhan fwyaf o briddoedd pryfed genwair uwchbridd, mae absenoldeb mwydod ar yr wyneb a rhai sy'n tyllu'n ddwfn yn awgrymu bod y pridd wedi'i orweithio a bod gweithrediad y pridd wedi'i beryglu.

Dywedodd Mr Fuller fod angen ystyried strwythur ffisegol y pridd hefyd.

Os yw pridd wedi'i gywasgu, mae llai o le i wreiddiau planhigion dyfu ac i aer a dŵr gylchredeg.

Mae gan briddoedd cywasgedig gyfraddau ymdreiddiad a draeniad is, yn ogystal â llai o weithgaredd biolegol, tyfiant gwreiddiau planhigion a chynnyrch. 

Mae ganddyn nhw hefyd lai o allu i ymdopi â'r tywydd eithafol, rhybuddiodd Mr Fuller.

Mae priodweddau cemegol hefyd yn bwysig i iechyd y pridd. Mae cynnal y lefel pH optimwm a chyflenwad digonol o faetholion planhigion yn helpu i gefnogi twf cnydau.

Yn Nhreathro, mae'r teulu Best yn gweithio gyda Cyswllt Ffermio i archwilio effaith gwahanol dechnegau rheoli a mathau o laswellt ar ficrobioleg y pridd.

Mae pedwar maes prawf: ar un ohonynt, mae'r teulu Best yn pori eu buches sugno Red Ruby Devon ar system gylchdro ar dir pori parhaol ac ar un arall maent yn bwriadu tyfu gwndwn llysieuol gan amharu cyn lleied â phosibl ar y tir.

Cae o rygwellt parhaol a meillion gwyn a ddefnyddir ar gyfer gwywair a chae ar ben clogwyn sy'n SoDdGA ac sydd ddim ond yn cael ei bori'n ysgafn gan ferlod yw'r ddau safle prawf arall.

Dywedodd Non Williams, Swyddog Arbenigol Carbon Cyswllt Ffermio, fod stoc garbon gyfartalog y pridd yn y 10cm uchaf o bridd ar ei huchaf yn y cae ar ben y clogwyn, sef 62.2 tunnell yr hectar (t/ha), tra’r oedd yn 51t/hectar (ha) yn y borfa barhaol sy’n cael ei phori ar system gylchdro.

Yn y cae a ddefnyddiwyd ar gyfer gwywair, 'roedd yn 45.7t/ha a 41.7t/ha yng ngweddill y cae.

Dywedodd Dr Williams, ar ddyfnder pridd uwch, 30-50cm o dan y ddaear, fod stoc garbon gyfartalog y pridd ar ei huchaf - 30.4t/ha - yn y cae rhygwellt a meillion parhaol a ddefnyddir ar gyfer gwywair.

Mae'r prosiect hefyd yn archwilio lefelau'r bacteria, ffyngau, protosoa a nematodau llesol yn y pridd yn Nhreathro.

Dywedodd Lynfa Davies, Swyddog Arbenigol Bioamrywiaeth Cyswllt Ffermio, fod hyn wedi dangos bod yna lefelau mawr iawn o facteria buddiol.

Yn ddelfrydol, dylai lefelau ffyngau fod yn uwch ond awgrymodd fod lefelau isel yn nodweddiadol o lawer o briddoedd amaethyddol.

“Gellir gwella hyn trwy arferion adfywio megis defnyddio gwyndonnydd â gwreiddiau dwfn gan ddefnyddio dulliau sy’n amharu cyn lleied ar y tir â phosibl, sy'n caniatáu i ffyngau amlhau,'' meddai Ms Davies.

Bydd defnyddio llai o wrtaith artiffisial a chynyddu carbon pridd hefyd yn helpu, ychwanegodd.

Ond rhybuddiodd nad yw gwella iechyd y pridd yn broses gyflym.

“Mae'n bwysig cofio bod adeiladu iechyd pridd yn cymryd amser ac fe all gymryd sawl blwyddyn cyn y gwelir newidiadau sylweddol,'' meddai Ms Davies.

PANEL

Er bod ffermydd fel Treathro yn plannu glaswelltir sy’n gyfoethog mewn rhywogaethau, mae colledion enfawr mewn glaswelltir amrywiol o safon yn ystod y ganrif ddiwethaf yn golygu ei fod bellach yn gorchuddio dim ond 1% o dir y DU.

Dywedodd Sheena Duller o Plantlife Cymru, siaradwr yn y digwyddiad Cyswllt Ffermio, fod y sefydliad yn gweithio i'w adfer.

Eglurodd fod Plantlife yn helpu ffermwyr, tirfeddianwyr a grwpiau cymunedol i ofalu am laswelltiroedd trwy gynnig cyngor ymarferol am ddim.

Drwy lobïo am bolisïau a chyllid, un o’i nodau yw helpu i greu ac adfer glaswelltiroedd llawn rhywogaethau.

“Rydym am weithio mewn partneriaeth â ffermwyr a thirfeddianwyr sy'n awyddus i archwilio'r hyn y gallai glaswelltiroedd amrywiol ei wneud iddyn nhw, eu ffermydd a byd natur,” meddai Ms Duller.

“Gallwn ddarparu cyngor, cymorth gwybodaeth dechnegol, a all helpu penderfyniadau ynghylch y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a busnesau fferm unigol.''
 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Merched mewn Amaeth Cyswllt Ffermio yn dychwelyd – ac eleni mae ar daith!
29 Mai 2024 Mae merched sy’n gweithio ym myd amaeth ledled Cymru
Mentora yn helpu fferm i newid o gynhyrchu da byw i dyfu grawnwin
28 Mai 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Rhybuddio ffermwyr i beidio â thorri corneli ar ddiogelwch wrth i bwysau gynyddu i gwblhau gwaith
23 Mai 2024 Bydd ffermwyr dan fwy o bwysau nag erioed yn ystod y