Trosolwg:

Mae rheoli maetholion yn effeithiol yn rhan hanfodol o gynhyrchu cnydau proffidiol o ansawdd uchel wrth hefyd warchod yr amgylchedd ehangach. Mae Cynllun Ardystio a Hyfforddi FACTS yn ymdrin ag arfer gorau o ran defnyddio gwrtaith a rheoli maetholion planhigion, ac mae’n caniatáu i ymgeiswyr llwyddiannus ddangos eu bod yn gallu darparu cyngor ar reoli maetholion yn effeithiol sy’n cyfrannu at system cynhyrchu cnydau gynaliadwy wrth reoli’r pwysau o ddiogelu’r amgylchedd ehangach. 
Mae rheoli maetholion bob amser wedi chwarae rhan hanfodol mewn cynhyrchu cnydau, ond yn sgil pwysau amgylcheddol cynyddol a’r angen i gynhyrchu cnydau mewn ffordd fwy effeithlon a chynaliadwy, nid yw deall sut i optimeiddio mewnbynnau cnydau fel tail organig a gwrteithiau gweithgynhyrchu erioed wedi bod yn bwysicach.
O ganlyniad i gwblhau’r cymhwyster FACTS yn llwyddiannus, byddwch yn deall yn iawn rôl gwrtaith mewn cynhyrchu cnydau ac yn cael eich cydnabod fel cynghorydd cymwys. Mae’r gofyniad i ffermwyr gael cyngor ar faeth cnydau gan gynghorydd cymwys FACTS wedi’i gynnwys mewn nifer o gynlluniau gwarant fferm, gan gynnwys Cynllun Gwarant Fferm y Tractor Coch. Felly mae'n gymhwyster hanfodol ar gyfer nifer o swyddi o fewn y diwydiant.


Ar gyfer pwy mae'r cwrs hwn:

Mae Cynllun Ardystio FACTS wedi’i gynllunio ar gyfer y rheini sydd am ddatblygu cymhwysedd mewn darparu cyngor ar wrtaith gan roi sylw dyledus i ddiogelu’r amgylchedd, gan gynnwys cynghorwyr, cynrychiolwyr gwneuthurwyr, ffermwyr a rheolwyr fferm sy’n ymwneud â chynhyrchu cnydau a rheoli fferm yn ehangach. Mae’r cwrs FACTS nid yn unig yn ymdrin â chynhyrchu cnydau âr ond hefyd yn edrych ar storio a defnyddio tail organig, cynhyrchu cnydau porthiant a rheoli glaswelltir, felly mae’n gymhwyster hynod fuddiol i’r rhai sy’n gweithio ar ffermydd cymysg. Bydd y Dystysgrif FACTS yn amhrisiadwy i reolwyr fferm ac agronomegwyr sy'n gorfod gwneud penderfyniadau ar wasgaru gwrtaith a chylchdroi cnydau yn ddyddiol. Bydd deall sut i reoli mewnbynnau maetholion yn effeithiol nid yn unig yn gwella proffidioldeb y fferm ond bydd hefyd yn sicrhau bod y fferm yn gweithredu gan ddilyn yr arferion gorau presennol a bodloni gofynion Deddfwriaeth y DU. 

Cynnwys y Cwrs:

  • Y pridd mewn perthynas â maeth planhigion
  • Ffynonellau maetholion organig
  • Natur a phriodweddau gwrteithiau
  • Maetholion cnydau mewn planhigion a'r ffactorau sy'n dylanwadu ar gynllunio rheoli maetholion
  • Defnydd o wrtaith ar y prif grwpiau cnydau yn y DU
  • Cludo, storio a thrin gwrtaith
  • Chwalu gwrtaith
  • Cod Ymarfer Amaethyddol Da a gofynion cyfreithiol a gofynion eraill i warchod yr amgylchedd

Dyddiadau Cyrsiau:

  • 23rd Hydref
  • 30th Hydref
  • 13th Tachwedd
  • 20th Tachwedd
  • 4th Rhagfyr
  • 18th Rhagfyr

Gofynion Mynediad:

Mae'r cwrs yn rhagdybio lefel sylfaenol o wybodaeth agronomeg, felly argymhellir yn gryf bod gennych ddwy flynedd o brofiad mewn agronomeg ar y fferm.

Noder bod hwn yn gwrs dwys iawn. Sicrhewch eich bod yn cysylltu â’r darparwr i drafod manylion y cwrs ac i wirio ei argaeledd. Diolch.

Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.

Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i gyflwyno’r cwrs hwn:

Coleg Sir Gar

Enw cyswllt:
Helen Williams

Rhiannydd Jones - Evans

Hannah Cooper


Rhif Ffôn:
Helen Williams: 07775011616 

Rhiannydd Jones - Evans: 01554 748582 / 8394

Hannah Cooper: 07469912607

 

Cyfeiriad ebost:

farmingconnect@colegsirgar.ac.uk


Cyfeiriad gwefan:
www.colegsirgar.ac.uk


Cyfeiriad post:
Heol Sandy Road, Pwll, Llanelli, Sir Gâr SA15 4DN


Ardal:
De Orllewin Cymru (mwyafrif y cyrsiau ar Gampws Gelli Aur, Llandeilo)


Sgiliau a Hyfforddiant Cysylltiedig

Iechyd, Lloches a Rheoli Lloi (ar gyfer y sectorau bîff a llaeth)
Cwrs undydd gyda thystysgrif presenoldeb ar ôl cwblhau’r cwrs yn
Cymorth Cyntaf yn y Gweithle
Cwrs hyfforddiant dros 3 diwrnod yn cynnwys agweddau ymarferol a
Dyfarniad Lefel 2 Defnyddio Plaladdwyr yn Ddiogel gan ddefnyddio Offer Llaw (PA6)
Fel arfer yn gwrs hyfforddiant undydd gydag asesiad ar ddiwrnod