Cyfle arall i wrando’n ôl ar weminar diweddar yn eich amser sbâr. Mae gwndwn llysieuol yn opsiwn sy’n dod yn fwyfwy poblogaidd ar gyfer ffermwyr da byw. Mae’r bennod hon yn trafod sefydlu a rheoli gwndwn llysieuol ar gyfer cynhyrchu da byw gyda Monty White, Rheolwr Prosiect Amaethyddol ar gyfer DLF seeds. Byddwn yn edrych argwahanol opsiynau sefydlu gan gynnwys dulliau trin y tir gyn lleied â phosibl ac yna rheolaeth gywir i helpu’r glaswelltir sefydlu. Bydd mathau o hadau hefyd yn cael sylw gyda’r pwyslais ar ddewis y mathau cywir ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd. Gall gwndwn llysieuol hefyd gynnig manteision posibl i fioamrywiaeth uwchben ac o dan y ddaear, gan eu gwneud yn ddewis defnyddiol am sawl rheswm. Bydd Non Williams yn amlinellu prosiect Cymru Gyfan newydd gyda Cyswllt Ffermio, sy’n edrych ar wndwn llysieuol ac yn edrych ar berfformiad a dygnwch glaswelltir gwndwn llysieuol ledled Cymru.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Rhifyn 126 - Ffliw Adar a goleuadau sied ddofednod
Croeso i gyfle arall i ddal i fyny ar weminar Cyswllt Ffermio a
Pennod 125 - Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio: Golwg fanylach ar goetiroedd, bioamrywiaeth, a charbon
Ymunwch â'r arbenigwyr o dîm Cyswllt Ffermio wrth iddynt agor y
Pennod 124 - Datrysiadau ynni adnewyddadwy mewn tirwedd sy'n esblygu
Croeso i drafodaeth sy'n canolbwyntio ar amaethyddiaeth