Alan Gardner
Enw: Alan Gardner
E-bost: alan.gardner@agrisgop.cymru
Ffôn symudol: 07712 458358
Lleoliad: Sir y Fflint /Yn gweithredu ar draws Cymru
Arbenigedd: Ffermio ar y cyd, Mentrau ar y cyd, Arallgyfeirio, Arweinyddiaeth
- Cafodd Alan ei fagu ar fferm ucheldir ger y Drenewydd. Ar ôl gadael y coleg, priodi, a gweithio am gyfnod byr ar fferm ger y Trallwng, enillodd gytundeb ffermio ar y cyd ar fferm ger yr Wyddgrug ac aeth ati i’w datblygu o fferm 150 acer yn denantiaeth busnes fferm 300 erw. Roedd y busnes yn canolbwyntio ar ddiadell o 1,100 o famogiaid a oedd yn cynhyrchu ŵyn ar gyfer cig. Daeth y denantiaeth busnes fferm i ben yn 2016 ac ers hynny mae wedi arallgyfeirio a sefydlu sawl busnes gwahanol, gan gynnwys storio, prosesu a gwerthu coed tân.
- Mae Alan yn weithgar iawn yng nghymuned amaethyddol Cymru yn genedlaethol ac yn lleol, ac mae wedi cael nifer o rolau gwahanol yn ystod ei yrfa gyda rhai o sefydliadau rhanddeiliaid mwyaf blaenllaw’r diwydiant.
- Mae Alan yn llysgennad brwd o blaid cydweithio, a sefydlodd grŵp Trafod y Famau a gefnogir gan Cyswllt Ffermio sawl blwyddyn yn ôl, gan ddod â ffermwyr lleol ynghyd i drafod amrywiaeth eang o bynciau. “Mae gweld aelodau’r grŵp yn gweithio gyda’i gilydd tuag at nodau cyffredin, eu cyflawni ac yna’n gosod y bar yn uwch fyth yn drawsnewidiol ac yn werth chweil i bawb sy’n gysylltiedig!”
- Yn 2015 enillodd Alan Ysgoloriaeth Hybu Cig Cymru. Defnyddiodd ei amser yn Seland Newydd i asesu grwpiau ffocws busnes, gan ganolbwyntio ar y defnydd o gasglu data’r llywodraeth a’r ffordd mae gwybodaeth o’r fath o fudd i ffermwyr bîff a defaid drwy asesu costau cynhyrchu a meincnodi’n fanwl – mae’n gobeithio defnyddio’r holl bynciau hyn yn ei rôl fel arweinydd Agrisgôp.
- Mae gan Alan wybodaeth eang iawn am weithio gyda grwpiau a’u harwain o ganlyniad i’w wahanol rolau cyhoeddus. Mae’n gadeirydd profiadol sydd wedi arfer gwrando a rhoi cyfle i bobl leisio’u gobeithion a’u pryderon mewn awyrgylch grŵp Agrisgôp cefnogol. Mae nawr yn edrych ymlaen at rannu ei wybodaeth helaeth am lywodraethiant corfforaethol, rheoli newid, datblygiad personol a cheisiadau rheoli tir arloesol gydag aelodau ei grŵp ei hun.
Busnesau presennol
- Unedau storio, storio carafannau, gwerthu a phrosesu coed tân
- Ffermio ar raddfa fach
Profiad/sgiliau/cymwysterau perthnasol
- Tystysgrif Ôl-raddedig Prifysgol mewn Arweinyddiaeth Newid, Prifysgol Aberystwyth 2021
- Wedi astudio amaethyddiaeth yng Ngholeg Addysg Bellach Maldwyn tra’n gweithio ar fferm y teulu 1980-82
- Ar hyn o bryd yn aelod o fwrdd FUW Ltd ac yn gyfarwyddwr etholedig, ar ôl dal nifer o swyddi blaenorol
- Cyn-gadeirydd sirol Clwb Ffermwyr Ifanc Sir Drefaldwyn ac yn parhau i gadw cysylltiad agos â’r mudiad
- Sefydlodd Grŵp Trafod y Famau tua 2005
- Cyn-gyfarwyddwr ac aelod o fwrdd Hybu Cig Cymru
- Aelod o fwrdd Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru 2006 ac yn ddiweddar wedi cwblhau penodiad dwy flynedd fel aelod o’r Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru.