Alan Gardner
Yn wreiddiol o Sir Drefaldwyn, magwyd Alan ar fferm ucheldir ger y Drenewydd. Ar ôl ennill cymwysterau amaethyddol yng Ngholeg Addysg Bellach Sir Drefaldwyn tra’n gweithio ar y fferm deuluol, dechreuodd gymryd rhan ym Mudiad y Ffermwyr Ifanc a bu’n Gadeirydd Sir yn 1986.
Yn dilyn priodi a ffermio am ychydig ger y Trallwng, sicrhaodd gytundeb ffermio ar y cyd ar fferm ddefaid ger Yr Wyddgrug. Datblygodd y cytundeb cychwynnol o 150 erw i Denantiaeth Busnes Fferm 300 erw.
Mae Alan yn weithgar ar nifer o lefelau o fewn y gymuned wledig yn cynnwys CFfI, ac mae’n cymryd rhan yn rhaglen Gyswllt Ffermio cymaint â phosib. Mae hefyd yn llysgennad brwd dros gydweithio o’i brofiad o sefydlu Grŵp Trafod y Famau, sydd bellach yn ei 14eg blwyddyn, gyda chymorth Cyswllt Ffermio. Arferai Alan fod yn aelod o fwrdd HCC yn ogystal â gweithio fel cyfarwyddwr y cwmni a bu hefyd yn cynrychioli’r UAC yn ystod cyfnod sefydlu’r undeb. Mae swyddi eraill yn cynnwys gwasanaethu fel aelod o fwrdd Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru a gweithio fel Is Lywydd Cenedlaethol yr UAC.
Yn 2015, ennillodd Ysgoloriaeth HCC i Seland Newydd ac fe ddefnyddiodd y cyfle i asesu Grwpiau Ffocws ar Fusnes a’r defnydd o gasglu data’r llywodraeth a’r buddiannau a roddir i ffermwyr bîff a defaid drwy asesu costau cynhyrchu a meincnodi’n fanwl.
Yn meddu ar wybodaeth eang o weithio fel rhan o grŵp yn ogystal â sgiliau a phrofiad o lywodraethu corfforaethol, rheoli newid, datblygiad personol a cheisiadau rheoli tir arloesol, mae’n gobeithio parhau gyda’r gwaith ardderchog y mae’r rhaglen Agrisgôp wedi ei gyflawni yng Nghymru wledig hyd yn hyn.