Cwrs hyfforddiant undydd a rhoddir tystysgrif presenoldeb ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.
Mae anafiadau a salwch yn dinistrio bywydau a bydd busnesau’n dysgu sut i leihau’r peryglon i chi’ch hunan ac i eraill sy’n gweithio ar eich fferm. Gan weithio mewn cydweithrediad â’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE), mae Lantra Awards wedi datblygu’r cwrs hwn i gynorthwyo ffermwyr i leihau’r perygl o ddamweiniau ar y fferm a lleihau’r tebygolrwydd y bydd angen cymryd camau gweithredu gorfodol ffurfiol os cynhelir archwiliad.
Mae’r cwrs yma yn trafod amrywiaeth o agweddau’n ymwneud ag Iechyd a Diogelwch ar ffermydd. Dysgwch sut i leihau’r risg o gamau gweithredu gorfodol ffurfiol gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn dilyn archwiliad ar eich fferm. Bydd y cwrs yn trafod nifer o feysydd pwysig, yn ymwneud â diogelwch fferm, gan gynnwys cwympo o uchder a gwrthrychau’n cwympo, da byw, cerbydau a pheiriannau, plant ar ffermydd, ac archwiliadau ac ymyriadau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Iechyd a Diogelwch – Rheoli Risg mewn Coedwigaeth a Ffermio
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn:
Nodwch gall Jimmy Hughes Training Services gyflwyno'r cwrs hwn yn ddigidol. Gweler manylion cyswllt yr holl ddarparwyr hyfforddiant isod.