Cwrs hyfforddiant deuddydd gydag asesiad annibynnol a thystysgrif ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.
Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol os ydych chi’n gweithio ar ffermydd, coetiroedd neu gadwraeth. Byddwch yn dysgu’r holl theory sy’n angenrheidiol er mwyn cadw a defnyddio llif gadwyn yn ddiogel, gyda materion allweddol yn ymwneud â chadwyn y llif, bar diogelwch a chynnal a chadw’r uned bŵer. Byddwch yn cael profiad ymarferol o ddechrau’r llif gadwyn, trafod yr holl brofion cyn torri a dysgu’r sgiliau angenrheidiol er mwyn trawslifio coed yn fedrus. Mae hwn yn gwrs ymarferol sy’n darparu sgiliau ymarferol yn ogystal â chanllawiau iechyd a diogelwch.
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Iechyd a Diogelwch – Rheoli Risg mewn Coedwigaeth a Ffermio
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn: