Cwrs hyfforddiant undydd a rhoddir tystysgrif presenoldeb ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.
Gall perfformiad gwell gynyddu cynhyrchiant ac elw eich busnes. Mae’r cwrs hwn wedi ei ddylunio ar gyfer pobl sydd yn ymwneud â rheoli a datblygu staff. Gweithdy undydd yw hwn, lle byddwch yn dysgu sut i ddatblygu eich syniadau a’ch gallu, gan adeiladu ar eich profiad presennol. Byddwch yn gallu ystyried sut i roi technegau dysgu ar waith o fewn eich sefyllfa eich hun. Bydd eich gwybodaeth yn help i ysgogi eich tîm i berfformio a chyrraedd targedau, gan gysylltu eu perfformiad gyda blaenoriaethau’r busnes. Byddwch yn meddu ar wybodaeth i ddatblygu a rheoli perfformiad eich timoedd yn ogystal â datblygu technegau i gynnal a gwella perfformiad.
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
Rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Datblygu Sgiliau Arwain a Sgiliau Pobl ar gyfer Busnes Llwyddiannus
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn:
Nodwch gall y darparwyr isod cyflwyno'r cwrs hwn yn ddigidol. Gweler manylion cyswllt yr holl ddarparwyr hyfforddiant isod.