Cwrs hanner diwrnod yw hwn gydag asesiad ar wahân i ddilyn. Yn dilyn cwblhau’n llwyddiannus, cewch dystysgrif cymhwysedd fydd yn eich galluogi i brynu dip defaid.
Os ydych angen prynu neu ddefnyddio cynnyrch dip defaid er mwyn trin clafr, llau neu bryfed yn eich diadell, mae angen i chi feddu ar y cymhwyster yma o dan y Gorchymyn Meddyginiaeth (Eithriadau ar gyfer Masnachwyr Cyffuriau Milfeddygol) 1998. Bydd y cwrs hwn yn trafod paratoi dip defaid trwy arddangos dealltwriaeth a gwybodaeth o anghenion deddfwriaethol, lles ac amgylcheddol, dillad amddiffynnol, cadw cofnodion, rheoli parasitiaid allanol, afiechydon defaid a gwaredu dip.
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn:
Nodwch gall Jimmy Hughes Services Ltd gyflwyno rhan o'r cwrs hwn yn ddigidol. Gweler manylion cyswllt yr holl ddarparwyr hyfforddiant isod.