Fel arfer yn gwrs hyfforddiant undydd gydag asesiad ar ddiwrnod gwahanol. Rhoddir tystysgrif ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.
PA6 = Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod wedi mynychu’r cwrs hyfforddiant Defnyddio Plaladdwyr yn Ddiogel a/neu feddu ar Dystysgrif Cymhwysedd NPTC mewn Defnyddio Plaladdwyr yn Ddiogel (PA1). Mae’r cymhwyster hwn yn darparu hyfforddiant ar gyfer defnyddio offer chwistrellu â llaw. Bydd y cwrs yn edrych ar sut i baratoi, cynnal a chadw eich offer a sut i’w ddefnyddio a’i raddnodi’n gywir.
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Diogelwch Plaladdwyr
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn