Dŵr Glan

Mae Cyswllt Ffermio’n cydlynu cynllun dan arweiniad diwydiant i fynd i’r afael yn uniongyrchol â llygredd o amaethyddiaeth yng Nghymru er mwyn sicrhau Dŵr Glan yn ein afonydd.

 

 

 

Mae’r cefnogaeth canlynol ar gael gan Cyswllt Ffermio er mwyn eich cynorthwyo i leihau llygredd amaethyddol a gwella ansawdd dŵr:

Am fwy o wybodaeth ar y gwasanaethau yma, cysylltwch a ni yma, neu cysylltwch a’ch Swyddog Datblygu lleol


 

Cyngor

Mae'r Gwasanaeth Cynghori yn darparu cyngor arbenigol annibynnol, cyfrinachol ac wedi’i deilwra ar gyfer busnesau fferm a choedwigaeth

Sgiliau a Hyfforddiant

Datblygu eich sgiliau, datblygu eich hyder - byddwch yn dod ar draws ffyrdd newydd i ddatblygu eich busnes ymhen dim

Mentora

Paru mentoriaid fferm a choedwigaeth profiadol gyda mentai, gan ddarparu hyd at 15 awr o gefnogaeth un-i-un i’ch cynorthwyo i gyflawni eich amcanion busnes, technegol a bersonol

Partneriaeth Arloesi Ewrop yng Nghymru (EIP Wales)

Darparu cefnogaeth i brosiectau sy'n dangos arloesedd drwy gysylltu ymchwil gyda gweithgareddau ffermio a choedwigaeth

Agrisgôp

Eich cyfle i ymuno â phobl fusnes o'r un anian, sy'n cwrdd yn rheolaidd i rannu heriau, datblygu syniadau a chefnogi ei gilydd trwy newid

Cymorthfeydd un-i-un

Darparu cyngor ac arweiniad cyfrinachol yn ymwneud ag amrediad o bynciau sy'n berthnasol i ofynion eich busnes

Ein Ffermydd - dod o hyd i fferm leol

Mae Rhwydwaith Arddangos Cyswllt Ffermio yn gyfuniad o Safleoedd Arddangos a Ffocws.

Mae'r safleoedd yma a leolir ledled Cymru wedi eu dewis er mwyn rhannu enghreifftiau o arfer da, arloesedd a thechnoleg newydd ar ein ffermydd gyda'r diwydiant ehangach.