Plas yn Iâl, Llandegla, Wrecsam, Sir Ddinbych

Prosiect safle Ffocws: Coedwigaeth Gorchudd Parhaus mewn Coetiroedd Fferm

Nod y prosiect:

  • Gwella’r rheolaeth coetir yn gyffredinol yn fferm Plas yn Iâl a fydd yn cyfrannu at gyflenwad coed cynaliadwy tuag at anghenion ynni’r fferm. Fe wneir hyn trwy baratoi a gweithredu cynllun rheolaeth coetir Coedwigaeth Gorchudd Parhaus (CCF), gan gyfuno canlyniadau arolygon ar y tir a drôn.
  • Wrth roi’r dosbarth cynnyrch a’r cynnydd blynyddol posibl yng nghyfanswm y coed ar gyfer torri wedi ei dargedu yn y blynyddoedd i ddod, bydd gwerth posibl yn cael ei gyfrifo a bydd ffigwr ar gyfer refeniw yn cael ei bennu.
  • Bydd y dull samplo/arolwg ar y tir yn casglu data masnachol ac am y coed o’r coetir gan roi cofnodion o newidiadau yn nodweddion y coetir a’i strwythur dros amser i fonitro cynnydd y trawsnewidiad. Gall effeithiau rheoli gorchudd parhaus wrth wella deilliannau buddiol fel cadwraeth, bioamrywiaeth, storio carbon a ffactorau eraill gael eu cynnwys yn y dull samplo yn rhwydd.
  • Bydd y weledigaeth ar gyfer y coetir yn ganolog i’r cynllun rheoli. Bydd y weledigaeth yn arwain yr holl weithrediadau gofynnol i gael y deilliannau a ddymunir gan wynebu cyfyngiadau’r safle ac unrhyw ddynodiadau sy’n gysylltiedig â’r safle. Defnyddir coedwigaeth gorchudd parhaus fel y dull rheoli i gyflawni buddion niferus ac integredig y trawsnewidiad.
  • Bydd cynnig enghraifft o gynnwys coetir fferm ym musnes y fferm, trwy hyrwyddo’r enillion economaidd posibl sydd i ‘asedau anghofiedig’ yn gymhelliant da i ffermwyr ddilyn llwybr tebyg. 
  • Mae defnyddio drôn a’r model prosesu data yn ffordd newydd flaengar o gynllunio i reoli coetir. Gall hyn gynnig manteision i ffermwyr a choedwigwyr petai’r drôn a’r meddalwedd yn cael eu hehangu ymhellach dros goetiroedd mwy.

Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Castellior
Castellior, Pentraeth Road, Porthaethwy, Ynys Môn Prosiect Safle
Ffrith Farm
Ffrith Farm, Treuddyn, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint Prosiect Safle
Cefngwilgy Fawr
Gareth, Edward a Kate Jones Cefngwilgy Fawr, Llanidloes Meysydd