21 Ebrill 2021
Mae fferm yn Sir Ddinbych yn cynaeafu pren o'i choetir er mwyn pweru boeler biomas ac er mwyn ei werthu fel tanwydd pren wrth fabwysiadu technegau adfywio naturiol i ddisodli'r coed hynny.
Mae gan Huw Beech goetir 12.5 hectar (ha) yn fferm Plas yn Iâl, fferm 75ha ger Llandegla.
Nid yw'r coetir, sy'n rhan o Goetir a Pharcdir Hanesyddol Cofrestredig CADW, wedi cael ei reoli ers 65 o flynyddoedd.
Mae Mr Beech yn gweithio gyda Cyswllt Ffermio ar brosiect safle ffocws, gan ddefnyddio dull gweithredu rheoli coedwigaeth lle y caiff y canopi ei gadw, a chaiff coed unigol neu grwpiau bychain o goed eu gwaredu ar adegau penodol.
Mae'r dechneg hon, a elwir yn goedwigaeth gorchudd parhaus, yn caniatáu i olau gyrraedd llawr y goedwig, er mwyn annog tyfiant eginblanhigion.
Bydd hyn yn caniatáu iddo sicrhau incwm trwy werthu'r pren fel tanwydd yn lleol, a bodloni anghenion ei foeler ei hun wrth wella a datblygu buddion amgylcheddol a bioamrywiaeth y coetir.
Cynghorydd y prosiect yw Phil Morgan, cyfarwyddwr Sustainable Forest Management a SelectFor, sy'n arbenigwr mewn coedwigaeth gorchudd parhaus.
Mae wedi bod yn rhoi cymorth i Mr Beech yn ei rôl fel Mentor Cyswllt Ffermio.
Mewn gweminar Cyswllt Ffermio a gynhaliwyd yn ddiweddar, dywedodd Mr Beech wrth gyfranogwyr mai'r prif beth sy'n ei ysgogi ef i reoli'r coetir mewn ffordd weithredol yw'r ffaith y disodlwyd tri boeler confensiynol yn y ffermdy mawr yn fferm Plas yn Iâl gyda boeler biomas 70kW.
Fel rhan o'r prosiect, arolygwyd darnau o'r coetir, a elwir yn 'lleiniau' ym maes coedwigaeth, gan ddefnyddio technegau a oedd yn cynnwys technoleg drôn.
Caiff coed penodol eu gwaredu er mwyn caniatáu golau i ddod trwodd.
Ar ôl gwaredu'r coed mwy o faint, bydd coed canolig a llai yn tyfu i lenwi'r bwlch.
“Mae angen cadw'r coesynnau o ansawdd gorau, nid oes yn rhaid i'r rhain fod y rhai mwyaf. Dylid targedu coed sydd â diffygion,” cynghorodd Mr Morgan ffermwyr sy'n ystyried camau tebyg.
“Bydd gwaredu'r coed mwy o faint yn creu digon o le ar gyfer adfywio, a bydd hyn yn caniatáu i olau gwasgaredig ddod i mewn.”
Mae effaith y ffaith nad yw golau yn cyrraedd llawr y goedwig yn fferm Plas yn Iâl yn amlwg mewn rhan o'r coetir lle mae stoc wedi cael ei wahardd ers 18 mlynedd, ond lle na fu unrhyw adfywio naturiol.
Roedd y canopi’n gaeedig gan fod y coetir yn llawn coed ffawydd a sycamorwydd mawr, ac nid oedd y golau'n gallu dod trwodd.
“Mae canopi coed mawr mor helaeth fel eu bod yn atal golau rhag dod i mewn,” meddai Mr Morgan.
Mae prosiect safle ffocws Cyswllt Ffermio wedi newid y ffordd y mae Mr Beech yn ystyried ei goetir – yn flaenorol, roedd yn ei ystyried yn faich.
“Rydym wedi dysgu, os byddwch yn rheoli eich coetir yn y ffordd gywir, byddwch yn cynyddu cynhyrchiant. Bellach, rydym yn ystyried ein coetir fel ased,” dywedodd.
Roedd Mr Beech yn dymuno annog eraill i fanteisio ar wasanaeth mentora a chynghori Cyswllt Ffermio, sy'n caniatáu i ffermwyr a choedwigwyr gael arweiniad a chyngor gan eu cymheiriaid am ystod eang o faterion.
“Mae gwybodaeth a chymorth Phil wedi bod yn amhrisiadwy,’’ meddai.
Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.