28 Ebrill 2021
Dr David Cutress: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.
- Mae technoleg yn datblygu’n gyflym a drwy’r amser yn y sector amaethyddol
- Mae technolegau’n symud tuag at fwy o ystyriaethau amgylcheddol fel ffocws newydd i’r sector cyfan
- Mae hwyluso cyfranogiad ffermwyr yn y gwaith o ddatblygu a dylunio technolegau yn agwedd allweddol y mae angen ei hystyried fwyfwy ar bob lefel
Cyflwyniad
Caniataodd digwyddiad AgriTech 4.0 (Hwyluso Ymchwil, Datblygu, Arloesedd a Thraws-gydweithrediad yn y Gymuned Amaethyddol) i dros 300 o weithwyr proffesiynol amaethyddol a 100 o gwmnïau ddod ynghyd i drafod sut y gallai technolegau newydd a’r rhai sy’n newid chwarae rolau o fewn amaethyddiaeth tuag at ddarparu datrysiadau ar gyfer bwyd cynaliadwy. Roedd y digwyddiad hwn yn cwmpasu cynhadledd ac arddangosfeydd ar-lein ar ddau ddiwrnod (29 Ionawr 2021 ac 19 Chwefror 2021) gyda set ar ‘Her Arloesi mewn Technoleg’ rhwng y dyddiadau hyn (gyda’r enillydd yn cael ei gyhoeddi ar ail ddiwrnod y gynhadledd). Ar draws y digwyddiad hwn, trafodwyd pynciau yn cynnwys ffermio clyfar, hydroponeg, Cerbydau Awyr Di-griw (UAVs), iechyd y pridd, gwyddor data, dadansoddeg, modelu a llawer mwy. Er y trafodwyd llawer o dechnolegau arloesol, roedd y ffocws yn helaeth iawn ar ddatblygu’r systemau hyn fwyfwy ac mewn ffordd rwyddach ar lefelau ymchwilwyr a diwydiant. Trafodwyd nifer o gyfleoedd a grantiau graddfa fawr a bach, gyda’r nod o gynyddu cyfranogiad ymchwilwyr ac yn arbennig i hwyluso’r broses o bontio rhwng ymchwil a chymwysiadau gweithredol. Fodd bynnag, nod yr erthygl hon yw ymdrin yn fwy ag agweddau o’r trafodaethau a fydd yn cael effaith uniongyrchol sylfaenol i ffermwyr, tyfwyr a choedwigwyr yn y dyfodol.
Logos cwmnïau a sefydliadau’r cyfranogwyr yn nigwyddiad AgriTech 4.0
Meysydd diddordeb
Arloesi
Trafodwyd nifer o dechnolegau arloesol ac fe’i hamlygir yn y tabl isod, sy’n nodi sut y bwriedir eu defnyddio yn y maes amaethyddol.
Cyflwynwr/Cwmni |
Technoleg |
Defnydd |
Dolen |
Prifysgol Lincoln |
Roboteg |
Hel/Cynaeafu, Archwilio, cyfathrebu o fewn yr haid/fflyd, samplu annibynnol |
|
Ullmanna |
Chwynnu clyfar |
Camerâu chwynnu o fewn y rhes a meddalwedd adnabod AI i dynnu chwyn heb ddefnyddio plaladdwyr (ffocws organig) |
|
DroneAg |
Skippy Scout (Drôn) |
Sgowtio i greu adroddiadau cae ar iechyd a chynnydd cnydau |
|
Cyswllt Ffermio/GEOM |
Cerbydau awyr di-griw (UAVs) |
Newidiadau i hyfforddiant a deddfwriaeth UAV, Cymwysiadau UAV gyda da byw ac mewn amaethyddiaeth |
FC |
Agricam |
Delweddau thermol |
Rhybuddion mastitis ar hyn o bryd |
|
AFBI |
Delweddau thermol |
Cloffni, monitro llygaid lloi i roi rhybuddion iechyd Gweithio gyda system Agricam |
|
LiDAR |
Rhoi maethynnau a rheoli dyfrffyrdd (plannu byffer wedi’i dargedu ar lannau afonydd) |
||
Mapio pridd GPS |
Rhoi maethynnau |
||
Labordy yn y fan a’r lle ar gyfer tanciau slyri |
Rhoi maethynnau’n gywir yn ôl yr angen |
||
Delweddau UAV a Lloeren |
Gwella rheolaeth glaswelltir o bell |
||
Cambridge HOK |
Systemau ffermio fertigol |
Amaethyddiaeth amgylchedd rheoledig |
|
Zip Farming |
Deallusrwydd Artiffisial (AI) a charbon isel |
Integreiddio systemau AI ar gyfer asesu taliadau ecosystem, trafodwyd dewisiadau amgen i UAVs trydan |
|
Oasthouse |
Tai gwydr sy’n defnyddio gwastraff |
Amaethyddiaeth amgylchedd rheoledig |
|
Sinafis |
Synwyryddion rheoli cnydau |
Targedu optimeiddio twf cnydau a dyfrio/rheoli plâu |
|
AGXIO |
Awtomeiddio robotig AI |
||
IGS |
Systemau ffermio fertigol |
Amaethyddiaeth amgylchedd rheoledig |
Ochr yn ochr â thechnolegau ymarferol yn y cae, dangosodd systemau gan Entoprotech (trwy ffermio pryfed) a WASWARE (trwy ludyddion wedi’u hailgylchu a chreu deunyddiau) y potensial cynyddol ar gyfer ffrydiau gwastraff o amaethyddiaeth yn y dyfodol. Mae gan y ddau gwmni ffyrdd arloesol o ddelio â biomas organig tuag at economi gylchol trwy gynhyrchu allbynnau defnyddiol a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr sy’n gysylltiedig â phrosesu gwastraff amaethyddol. Gallai ychwanegu gwerth at ffrwd wastraff ffermwr gynorthwyo gydag economeg gyffredinol fferm ac ystyriaethau amgylcheddol yn y dyfodol.
Yn ogystal â’r rhai a oedd yn arddangos technolegau, cafwyd gwybodaeth ddiddorol gan aelodau o dîm DEFRA mewn perthynas â newidiadau oddi wrth y cynllun grantiau bach blaenorol ar gyfer cynhyrchiant cefn gwlad a thuag at y ‘gronfa offer a thechnoleg ffermio’ newydd a’r ‘gronfa trawsnewid ffermio’ sy’n rhan o’r ‘Cynllun Pontio Amaethyddol’ newydd ar gyfer Lloegr. Hanfod y cronfeydd hyn yw cynorthwyo ffermwyr i brynu offer ar wahanol raddfeydd a ddylai gael effaith ar gynhyrchiant ond gyda ffocws cynyddol ar feysydd sy’n ymwneud â buddion amgylcheddol a chynaliadwyedd. Nododd cynrychiolydd DEFRA ei fod yn gweld hyn fel llwybr ar gyfer tynnu rhai o’r risgiau oddi ar y ffermwyr/tyfwyr i ddod yn fwy arloesol a hwyluso mabwysiadu technolegau lle mae’n bosibl nad yw’r enillion ar fuddsoddiadau (ROI) wedi’u diffinio eto. Ymysg y themâu o ddiddordeb roedd rheoli dŵr yn gynaliadwy, awtomeiddio roboteg ac amaethyddiaeth fanwl gywir (trwy gydol y cyfnod cynaeafu, graddio a storio) yn ogystal â thechnolegau penodol ar gyfer coedwigaeth ac amaeth-goedwigaeth. Amlygwyd enghreifftiau o lwyddiannau’r cynllun blaenorol, er enghraifft ymgorffori systemau amaethyddiaeth amgylchedd rheoledig (CEA) mewn ffermydd cnydau bresych a arweiniodd at amseroedd storio bedair gwaith yn hirach a gostyngiadau gwastraff o 12%. Ac roedd offer arbenigol ar gyfer cynaeafu coedwigaeth wedi dyblu lefelau cynhyrchiant o goedwigoedd diarffordd bach trwy ganiatáu prosesu yn y fan a’r lle. Er bod hyn yn rhoi gwybodaeth ddiddorol o ran ymrwymiadau i annog pobl i ddefnyddio technoleg yn Lloegr, nid yw’n glir eto i ba raddau y bydd cynlluniau tebyg yng Nghymru (fel y Grant Busnes i Ffermydd) a’r Alban yn gweithio.
Rheoli’r data
Fel y gwyddys, mae technolegau newydd mewn amaethyddiaeth yn dod â chyfoeth o ddata newydd, yn ogystal ag ystyriaethau o ran perchnogaeth a rhannu data a gwerth y data a gesglir. Cyfeiriodd sawl sgwrs at y mater hwn gan ddisgrifio datblygiad llwyfannau canolog ar gyfer lletya, casglu a gweithio gyda’r cyfoeth aruthrol o ddata a hybiau sydd bellach i’w cael ar draws gwahanol feysydd Agri 4.0. Roedd enghreifftiau o hyn yn cynnwys prosiect agROBOfood yr UE (sydd â’r nod o ddod ag ymchwilwyr, hybiau, datblygwyr a defnyddwyr presennol/posibl systemau robotig ynghyd), prosiect SmartAgrihubs yr UE (sy’n ceisio meithrin yr ecosystem ddigidol trwy gysylltu a hwyluso ymgysylltiad ac arbrofion rhwng mentrau newydd, busnesau bach a chanolig, busnes a darparwyr gwasanaethau, arbenigwyr technoleg a defnyddwyr terfynol), DJustconnect (sydd â’r nod o gynnig lle i storio a rhannu data mewn ffordd ddiogel ac ystyrlon tuag at ddatblygu apiau ac offer a hyd yn oed goladu data ar gyfer archwiliadau i ffermwyr) a phrosiect DEMETER (sydd â phrosiectau peilot ar draws pob agwedd o’r gadwyn gyflenwi bwyd-amaeth i werthuso, arloesi ac ymestyn galluoedd dyfeisiau a synwyryddion a data a gesglir ar draws yr UE). Wrth i gwmnïau a systemau ddatblygu, mae’n sicr y bydd llawer iawn o orgyffwrdd o ran y data a gesglir a’r systemau a ddarperir, felly mae’n ymddangos bod pwysigrwydd cynyddol i lwyfannau trosfwaol sy’n gallu integreiddio ac amlygu’r rhain. Nodwyd yn y trafodaethau terfynol fod y DU ar hyn o bryd yn tueddu i fod ar ei hôl hi o gymharu â gwledydd eraill o ran dod ag argaeledd adnoddau fel hyn yn ogystal â chyfleoedd cyllido ynghyd mewn fformat hawdd ei gyrchu i ffermwyr ar lawr gwlad.
Arloesi er mwyn arloesi?
Er ei bod yn amlwg y gall a bod technolegau’n cael eu haddasu ar gyfer amaethyddiaeth mewn sawl ffordd ar draws y sector, ychydig o sgyrsiau a drafododd a oedd y rhain bob amser wedi’u hanelu’n gywir at ddefnydd ffermwyr/gweithwyr ac ar gyfer eu cymhwyso’n ymarferol mewn bywyd go iawn. Fodd bynnag, roedd y tîm o Innovation for Agriculture yn pledio’r achos hwn. Mae gan y consortiwm hwn ffocws allweddol ar y ffermwr/gweithiwr, ac mae’n rhaid i unrhyw arloesedd o ddiddordeb weithio’n dda ar gyfer yr unigolion hyn er mwyn cael eu hystyried yn ddefnyddiol. Mae’r grŵp yn gweithio gydag ymchwilwyr a busnes i ryngweithio â’r rhai ar lawr gwlad mewn amaethyddiaeth i hwyluso trosglwyddo gwybodaeth yn y ddau gyfeiriad, gan hysbysu ffermwyr am y technolegau diweddaraf (megis trwy’r cynllun llaeth 4d4f) a allai fod o ddiddordeb trwy gyfrwng gweithdai ac arddangosiadau ar y fferm, ac yn hanfodol gan drosglwyddo adborth ffermwyr i’r datblygwyr. Fe wnaethant nodi bod ffermwyr yn aml yn elwa ar eu harweiniad i weld y gwerth o fod ymysg y cyntaf i ddefnyddio technoleg fel arloeswr. Mae gallu darparu’r data lefel sylfaenol hwn yn caniatáu i blatfformau gael eu mireinio wrth iddynt dyfu, ac ni fyddai systemau o’r fath byth yn symud yn eu blaenau heb hynny. Er bod y grŵp yn canolbwyntio ar Loegr i raddau helaeth, maent wedi gweithio ar brosiectau ar draws gweddill y DU a byddent yn fan cyfeirio allweddol i unigolion sydd â diddordeb mewn arloesedd.
Agwedd ddiddorol arall y tu allan i’r ffocws ar arloesedd uniongyrchol, sy’n dangos eto bod y sector yn ei gyfanrwydd yn symud tuag at ddull sy’n canolbwyntio ar yr amgylchedd, oedd trwy sgyrsiau a roddwyd gan y ‘Rhwydwaith Ffermio Cyfeillgar i Natur’ a’r ‘Ymddiriedolaeth Genedlaethol’. Amlygodd y ddau grŵp sut mae technolegau fel ffensys anweledig, mapio maethynnau a systemau integredig ar gyfer rheoli plâu yn cael eu treialu a’u rhoi ar waith i ganolbwyntio ar natur ochr yn ochr ag agweddau ar gynhyrchiant neu hyd yn oed o flaen hynny.
Uchafbwyntiau
Ar gyfer ffermwyr sydd â diddordeb mewn cyrraedd targedau carbon niwtral nododd grŵp cyllid MAF bod awydd cynyddol sylweddol gan fanciau mewn ariannu prosiectau buddsoddi ar ffermydd i wella cynhyrchiant ochr yn ochr â thargedau carbon sero-net. Fe wnaethant dynnu sylw at dri chwmni sy’n gweithio yn y maes hwn: cwmni ynni FRE (farm renewable environmental) a oedd yn arbenigo mewn systemau treulio anaerobig arloesol, ‘OMNI Heat & Power’, contractwr gwresogi a thrydanol sy’n arbenigo mewn contractau a phrosiectau ynni adnewyddadwy sydd wedi’u hoptimeiddio ar gyfer ffermwyr, yn ogystal â Regenerco, cwmni gosod ynni solar sy’n arbenigo mewn gosodiadau diwydiannol ac amaethyddol. Er mai dim ond tair enghraifft yw’r rhain, mae llawer o gwmnïau a systemau eraill yn bodoli ac mae parodrwydd banciau i fuddsoddi yn arwydd da ar gyfer symud ymlaen gyda thargedau cyfeillgar i’r amgylchedd mewn golwg.
Roedd yr ‘Her Arloesi mewn Technoleg’, a gynhaliwyd rhwng diwrnodau’r digwyddiad, yn annog datblygu a chanmol technolegau newydd. Mae’n ymddangos bod y math hwn o gystadleuaeth yn dod yn fwyfwy cyffredin ar gyfer technolegau, ac mae cystadlaethau tebyg ar gyfer arloesi yn digwydd, gan gynnwys cydweithredu rhwng DEFRA ac Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI) drwy gyfrwng eu cystadleuaeth ‘Llwybrau Arloesi mewn Ffermio’ (FIP) a gynhaliwyd ym mis Mawrth 2021. Sinasens smart agri gan Sinafis a enillodd y gystadleuaeth gyda’u systemau monitro’r amgylchedd lleol ar gyfer cnydau. Mae’r system yn defnyddio metrigau syml iawn a rhad i’w casglu, sef lleithder a thymheredd, o ganopi cnydau (trwy synhwyrydd dail artiffisial wedi’i osod yn y cnydau), o’r pridd a’r aer o’u hamgylch. Trwy ddefnyddio’r cyfuniad o’r metrigau hyn, gall y system ragweld amodau sy’n ffafriol i afiechydon neu gylchoedd bywyd pryfed pla er mwyn rhybuddio tyfwyr, yn ogystal â helpu i optimeiddio amseriad hau, cynaeafu a dyfrio trwy ragfynegiadau ar gyfer yr hinsawdd yn y presennol a’r dyfodol. Yr ysgogydd allweddol ar gyfer y dechnoleg oedd cynnig dewis a oedd yn rhatach na’r systemau eraill ar y farchnad ac ar hyn o bryd maent wedi gweld buddion yn cynnwys gostyngiadau o 20% mewn dŵr a chynnydd o 10 – 15% yn y cynnyrch mewn gwahanol feysydd defnydd.
Un o’r uchafbwynt allweddol eraill oedd ymgysylltu â’r llywodraeth trwy gyfrwng trafodaethau â chynrychiolwyr DEFRA ar hyd y digwyddiad. Nodwyd secondiadau aelodau o dîm yr Ymddiriedolaeth Bwyd Cynaliadwy gan DEFRA ar gyfer cynorthwyo i ddatblygu offer newydd ar gyfer asesu a meincnodi er mwyn gwneud archwiliadau ffermydd yn fwy canolog ac yn symlach i ffermwyr yn y dyfodol. Y syniad oedd y gallai system archwilio newydd helpu i atal gorgyffwrdd ymatebion o feysydd amrywiol, oherwydd ar hyn o bryd amcangyfrifir bod yn rhaid i ffermwyr gynnal rhwng 7 a 24 o archwiliadau ar gyfartaledd bob blwyddyn. Gallai system o’r fath wedi’i chysoni (yn seiliedig ar waith blaenorol) ganiatáu ar gyfer un archwiliad integredig a hefyd gyflwyno ffocws ar agweddau ar gynaliadwyedd yn sgil gofynion cymhorthdal newydd yn tynnu sylw at 10 maes allweddol i’w hasesu: cynhyrchiant, pridd, dŵr, effeithlonrwydd y defnydd o ynni ac adnoddau, rheoli maethynnau, rheoli da byw, iechyd planhigion a chnydau, bioamrywiaeth, cyfalaf cymdeithasol a chyfalaf dynol. Os gellir treialu archwiliad o’r fath yn llwyddiannus gallai fod yn brif lwybr ar gyfer asesu cymhwysedd ar gyfer cymorthdaliadau newydd yn y dyfodol, ac mae Llywodraeth Cymru eisoes yn dangos ymrwymiad i strategaethau o’r fath trwy’r ‘adolygiad cynaliadwyedd fferm’.
Crynodeb
Roedd y digwyddiad yn llwyfan ar gyfer tynnu sylw at amrywiaeth ddiddorol o ddatblygiadau yn y sectorau technoleg amaethyddol, yn amrywio o systemau sydd eisoes yn cael eu defnyddio i fodelau a chysyniadau sydd â photensial sylweddol yn y dyfodol. Er bod cyfoeth o drafodaethau’n ymwneud ag ansicrwydd cymorthdaliadau ffermio newydd y llywodraeth, roedd systemau’r UE, a gafodd eu cwestiynu’n aml yn ystod y digwyddiad mewn perthynas ag effeithiau Brexit, yn amlygu nad oedd hyn yn cael fawr o effaith ar eu gallu i gynnal a chynyddu rhyngweithiadau â’r DU ar hyn o bryd. Roedd cryn bwyslais trwy gydol y trafodaethau ar y newid mewn ffocws oddi wrth ddatblygiadau technoleg ar gyfer cynhyrchiant uwch a thuag at ddulliau mwy cynaliadwy ac adfywiol. Neges glir a oedd yn amlwg trwy gydol y digwyddiad oedd bod technoleg yn offeryn y dylid ei ddefnyddio i ategu arferion ffermio traddodiadol a’u gwella, ond nad yw’n debygol o fod yn ateb ynddo’i hun. Dau faes a gafodd eu hadrannau eu hunain o fewn trafodaethau oedd iechyd y pridd trwy arferion adfywiol cynaliadwy a systemau ffermio amgylchedd rheoledig dan do. Mae’r diddordeb yn y meysydd hyn cymaint fel bod y trefnwyr yn cynllunio cynadleddau yn 2021 ar ‘Amaethyddiaeth yr Amgylchedd Rheoledig (CEA) 4.0’ a ‘Chnydau, Hadau a Phridd 4.0’ a fydd yn benodol ar gyfer y sectorau hyn.