Fferm Henbant Bach, Tai’n Lôn, Caernarfon

Prosiect Safle Ffocws: Sefydlu cynllun amaeth-goedwigaeth ac amaethyddiaeth adfywiol

Amcanion y Prosiect:

Mae Henbant yn fferm fechan sy’n dilyn egwyddorion ecolegol yng Ngogledd Orllewin Cymru. Rheolir y borfa bresennol yn holistaidd ond mewn lleiniau o dir sy’n fwy na gofynion dyddiol da byw. Bydd y rhesi o goed yn rhannu’r tir pori yn 30 uned ar wahân; bydd rhai yn rhywogaethau prennaidd hynod o flasus y gall gwartheg eu brigbori ac eraill yn cynhyrchu ffrwythau pen coed a ffrwythau meddal. Mae’r fferm hefyd wrthi’n sefydlu gardd farchnad ecolegol ddwys heb drin tir; yma, rhennir yr ardd gan ddefnyddio nifer sylweddol o goed ffrwythau a phlanhigion lluosflwydd. Bydd hyn yn cyfuno technegau a damcaniaethau garddio coedwig â gofynion system hynod o gynhyrchiol o dyfu llysiau yn flynyddol. 

Ymhlith tirweddau’r ddaear, mae cyrion coedwigoedd ymhlith y rhai mwyaf cynhyrchiol ac amrywiol. Felly, mae Henbant yn bwriadu ehangu cyfanswm cyrion coedwigoedd, gan wneud y gorau o amrywiaeth ar draws y fferm gyfan a thyfu cnydau bwyd o fewn y system hon. 

Byddant yn ceisio newid o’r system caeau draddodiadol bresennol i ddatblygiad amaeth-goedwigaeth trwy:

  • Sefydlu cylchdro llysiau ar raddfa caeau ynghyd â’r rhesi amaeth-goedwigaeth.
  • Plannu rhesi o goed ffrwythau pen coed a ffrwythau meddwl ymhlith y tir pori a’r ardd farchnad fio-ddwys ble na thrinnir y tir i ychwanegu at y dull aml-haenog.

 


Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Moelogan Fawr
Llion a Sian Jones Moelogan Fawr, Llanrwst, Conwy Meysydd
Hendre Ifan Goch
Rhys Edwards Hendre Ifan Goch, Pen-y-bont ar Ogwr ​​ Meysydd
Bodwi
Edward, Jackie a Ellis Griffith Bodwi, Mynytho, Pwllheli, Gwynedd