Mae'r galw am gynnyrch a dyfir yn lleol wedi cynyddu dros y misoedd diwethaf yn ystod argyfwng COVID-19 ble mae tirfeddianwyr mewn lle da i fanteisio ar y tuedd yma trwy gynhyrchu incwm arallgyfeirio ychwanegol.

Ymunwch â ni am weminar sy'n archwilio sut i roi permaddiwylliant ac amaethyddiaeth adfywiol ar waith i greu fferm mwy amrywiol.

Dyma'ch cyfle i glywed sut mae Fferm Henbant Bach wedi arallgyfeirio a datblygu opsiynau amgen ar fferm dda byw ar gyfer dod ag incwm ychwanegol i mewn. Fferm fechan sydd wedi’i hysbrydoli gan baramaethu yw Henbant Bach i ddarparu bwyd iach, uchel mewn maeth sydd wedi ei ffermio mewn dull adfywiol. Mae wedi’i lleoli rhwng y mynydd a’r môr yng Ngogledd Cymru.

Ymunwch i gael eich ysbrydoli i sefydlu eich gardd farchnad neu fenter amaeth-goedwigaeth eich hun ac archwilio cyfleoedd i ddatblygu system fwyd lleol cynaliadwy sy'n gwerthu cynnyrch yn uniongyrchol i'r cyhoedd, ochr yn ochr â'ch busnes fferm presennol.

 

Cyrsiau e-ddysgu cysylltiedig:


Related Newyddion a Digwyddiadau

GWEMINAR: Adolygiad Prosiect Porfa Cymru 2022
Prosiect Porfa Cymru - Adolygiad o'r Tymor Pori 2022 {"preview
GWEMINAR am wybodaeth grantiau: Cynllun Troi’n Organig - 12/07/2022
Siaradwr: Richard Evans, Llywodraeth Cymru Mae’r Cynllun Troi’n
GWEMINAR am wybodaeth grantiau: Grantiau Bach – Gorchuddio Iardiau a Buddsoddi mewn Rheoli Maetholion - 05/07/2022
Siaradwr: Richard Evans, Llywodraeth Cymru Mae Grantiau Bach –