Fferm Pant, Llanwytherin, Y Fenni

Prosiect Safle Ffocws: Hau india corn dan gnwd trwy ddefnyddio dril wedi ei haddasu

 

Trwy fonitro ansawdd y dŵr yn nalgylch afon Troddi yn Sir Fynwy gwelwyd bod lefelau’r ffosffad yn yr afon yn codi ar ôl glaw trwm. Gall hyn fod yn rhannol oherwydd bod dŵr yn rhedeg oddi ar sofl india corn mewn ardal lle mae mwy a mwy o india corn yn cael ei hau i gyflenwi biodreulwyr. Yn aml nid yw sefydlu cnwd neu orchudd ar ôl cynhaeaf india corn yn realistig oherwydd cyflwr y pridd yn yr hydref a’r problemau sy’n gysylltiedig â hau yn hwyr yn yr hydref.

Yn dilyn profiad yn Nenmarc lle mae cnwd yn cael ei hau dan filoedd o erwau o india corn yn awr, datblygwyd techneg newydd i ddiogelu sofl india corn rhag i’r pridd erydu ac i fwynau golli i afonydd dros y gaeaf. Mae’r dechneg yn golygu hau cnwd gorchudd yn yr india corn, Rhygwellt Eidalaidd neu barhaol, ar yr union amser a chyfnod iawn yn nhyfiant yr india corn.

Gall y dechneg hon helpu tyfwyr i gydymffurfio â rheolau gwyrddu, bodloni gofynion trawsgydymffurfio ac o bosibl leihau’r llygru ar gyrsiau dŵr wrth i nitrogen, mwynau eraill a gwaddol gael eu golchi i ffwrdd. Yn ychwanegol, dangosodd treialon bod gan y cnwd sydd wedi ei hau dan yr india corn y potensial i gynhyrchu hyd at dair tunnell o gynnwys sych i bob hectar. Gall hwn gael ei bori neu ei aredig fel gwrtaith gwyrdd, a fydd yn helpu i gynyddu’r cynnwys organig yn y pridd, ei strwythur a’i ffrwythlondeb. Gwnaed hyn i gyd heb gael effaith sylweddol ar y cynnyrch india corn.

Gall cynaeafu’r cnwd gorchudd fel silwair y gwanwyn canlynol fod yn heriol gan y gall yr wyneb fod yn anwastad ar ôl gweithgareddau cynaeafu india corn gan greu’r risg y bydd pridd yn llygru’r cnwd. Bydd nifer sylweddol o goesynnau india corn yn y cae hefyd, oni bai eu bod yn cael eu torri yn syth ar ôl y cynhaeaf. Mae’n debyg mai pori gan ddefaid neu wartheg ifanc sydd fwyaf addas, a hyd yn oed mewn tymhorau cynaeafu hwyr, mae Rhygwellt Eidalaidd wedi cynhyrchu 3 t/ha o gynnwys sych erbyn diwedd Mawrth ar tua 12 ME a 12% CP. Mae gan hyn y potensial i gynhyrchu >1,500 o ddyddiau pori i famogiaid neu 300 o ddyddiau pori i heffrod i bob hectar.

 

Nodau’r prosiect:

  • Dangos y defnydd o rygwellt wedi eu hau dan y cnwd fel dull o sefydlogi pridd dan sofl india corn dros y gaeaf
  • Rhoi gwybodaeth am yr amser gorau i sefydlu rhygwellt ar ôl hau cnwd india corn
  • Amcangyfrif mantais cost rhygwellt wedi ei hau dan y cnwd o ran y cynnyrch o anifeiliaid yn pori
  • Archwilio unrhyw fanteision posibl o ran strwythur y pridd, cynnwys organig a ffrwythlondeb yn deillio o’r cnwd sydd wedi ei hau dan yr india corn 

Beth fydd yn cael ei wneud:

Y cyfnod targed ar gyfer hau hadau gwair mewn india corn yw rhwng un wythnos ar ôl chwalu’r chwynladdwr olaf hyd y cyfnod pan fydd y cnwd tuag uchder y pen-glin yn gynnar ym mis Gorffennaf. Awgrymodd y treialon yn Nenmarc y gall y sefydlu gael ei wella yn fawr trwy ddrilio’r hadau a chadarnhau tu ôl i’r dril yn hytrach na chwalu hadau gwair neu chwalu a thrin, y ddau angen glaw i fod yn effeithiol. Mae drilio yn gwella dibynadwyedd y sefydlu ac yn gadael i chi ddefnyddio llai o hadau.

Rhygwellt Eidalaidd sy’n cynnig y dewis cryfaf ac mae ganddo’r potensial i gynhyrchu’r cynnyrch biomas gorau ar ôl i’r india corn gael ei gynaeafu. Gan ei fod yn llai cryf, mae’n debyg bod rhygwellt parhaol yn gweddu yn well i gael ei hau yn gynharach, ac oherwydd y nifer uwch o hadau i bob kg gellir ei hau ar gyfraddau hadau isel iawn.

Mae hau yng nghanol cnwd india corn sy’n tyfu gydag offer drilio rhwng y rhesi yn waith i yrwyr profiadol. Datblygwyd dril wedi ei haddasu yn arbennig gan Sefydliad y Gwy a’r Wysg a bydd y gwasanaeth yn cael ei ddarparu gan Field Options a fydd yn trefnu’r drilio a hadu ac yn trefnu’r gwaith. Mae’r dril yn cael ei gosod ar gyfer fformat dril 6 neu 12 rhes gyda gofod safonol rhwng y rhesi o 75 cm (30 modfedd), ond mae’n bosibl i’r dril gael ei haddasu ar gyfer hau dan gnwd mewn cnydau sydd wedi eu hau gyda dril 8 rhes. Dylai’r holl india corn sydd wedi ei ddrilio ar 75cm gyda chyfarwyddyd GPS fod yn addas.

Archwilir y monitro posibl ar ddŵr sy’n rhedeg oddi ar y pridd yn y gaeaf o ran ei ansawdd a’i gyfanswm hefyd o sofl india corn moel mewn cymhariaeth â’r safle fydd â chnwd wedi ei hau tano.


Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Dolygarn
James Powell Dolygarn, Llanbadarn Fynydd, Llandrindod Wells
Bryn
Huw a Meinir Jones Bryn, Ferwig, Aberteifi Meysydd allweddol yr
Marian Mawr
Aled Morris Marian Mawr, Dyserth, Rhyl Prif Amcanion Gwella