Arwyn Jones
Fferm Plas, Llandegfan, Ynys Môn
Prif Amcanion
- Lleihau costau dwysfwyd a brynir trwy wneud y defnydd gorau posib o fwyd a dyfir gartref.
- Cynyddu canran magu’r ddiadell gyda mesurau cost effeithiol.
- Gwella ansawdd y borfa yn ystod y tymor tyfu, i gynyddu cynnydd pwysau byw’r holl dda byw.
- Cofnodi perfformiad y ddiadell famol sy’n cynhyrchu’r anifeiliaid cyfnewid.
- Gwella ansawdd y silwair ymhellach a lleihau colledion yn y cae yn ogystal ag yn y clamp.
Ffeithiau Fferm Plas
Prosiect Safle Arddangos
“Mae ffermio’n newid, ac rwy’n credu ei bod hi’n amser da i gael barn arbenigol ar y busnes o safbwynt gwahanol. Os alla i wneud cynnydd o 5% yn unig ym mhob un o’r tair menter, gyda’i gilydd, mi fyddai hynny’n gwneud gwahaniaeth mawr i’r busnes”
- Arwyn Jones