Ysgellog, Rhosgoch, Amlwch, Ynys Môn
Prosiect Safle Ffocws: Argaeledd microfaetholion ym mhridd glaswelltir: ei ran wrth hybu cynhyrchiant glaswellt
Amcanion y prosiect:
Prif nod y prosiect fydd pennu statws microfaetholion priddoedd y fferm yng nghyd-destun hybu tyfiant glaswellt a gwerthuso goblygiadau’r canlyniadau o ran arferion rheoli’r fferm.
Mae’r amcanion fel a ganlyn:
- Pennu statws y microfaetholion a’r amrywiaeth yn y caeau silwair a’r rhai sy’n cael eu pori ar y fferm (yn y pridd, gan gywiro a chymharu gyda’r porthiant sy’n dod ohonynt)
- Pennu statws microfaetholion y tail ac ystyried ei swyddogaeth o ran ailgylchu microfaetholion ar y fferm
- Archwilio’r rhesymau posibl am unrhyw wahaniaethau yn statws y microfaetholion rhwng y caeau (os oes rhai)
- Canfod a oes unrhyw gydberthynas rhwng statws microfaetholion y pridd a thyfiant glaswellt
- Dynodi ardaloedd lle gallai ategu microfaetholion fod yn angenrheidiol/ddim yn angenrheidiol, a’r gost/arbediad cysylltiedig