Prosiect Rheoli Parasitiaid - Diweddariad Misol - Gorffennaf 2019

Perfformiad ŵyn wedi saethu i fyny ers newid y moddion i drin llyngyr

Mae David Lewis o Halghton Hall ger Wrecsam eisoes wedi gweld yr effaith sylweddol o fod yn rhan o’r prosiect hwn. Pan ofynnwyd iddo brofi ŵyn yn fwy rheolaidd yn ystod Gorffennaf, dyma’r ateb a gawsom -

“Does gennym ni ddim llawer o ŵyn yma i’w profi! Dim ond 100 o ŵyn sydd ar ôl ac maen nhw ar lawr glân. Ers i ni newid i foddion melyn ar gyfer y dos cyntaf yn seiliedig ar ganlyniadau FEC a’ch cyngor chi, mae’r ŵyn wedi altro’n sylweddol, a’r rhan fwyaf wedi’u gwerthu fel ŵyn tew erbyn diwedd Gorffennaf”.

Cyn i ni gymryd y clod i gyd, pwysleisiodd David fod ychydig o bethau eraill wedi newid yn cynnwys ail-hadu mwy o gaeau ar y fferm, bod y borfa wedi tyfu’n well eleni a dylanwad hyrddod â chofnodion perfformiad yn dod yn fwy amlwg. Ond a ydi o’n credu mai rheoli llyngyr yn well oedd y ffactor allweddol olaf i ddatgloi potensial y fferm.

 

Felly, beth sydd wedi newid?

  • Fel y pwysleisiwyd yn adroddiad Mai cofnodwyd cyfrif uchel o stronglyes yn ŵyn David
  • Moddion gwyn a arferai gael ei ddefnyddio gan ei fod yn dymor Nematodirus
  • Gan amau fod ymwrthedd i foddion gwyn yn gyffredin yn y rhywogaeth llyngyr strongyles, cynghorwyd David i ddefnyddio moddion levamisole  (melyn 2LV) yn ei le.
  • Dim ond 100 o ŵyn ar ôl i’w pesgi ddiwedd Gorffennaf o’i gymharu â 400 o ŵyn y llynedd (a werthwyd rhwng Hydref ac Ionawr).
  • Y tebygolrwydd yw nad oedd y niferoedd uchel o lyngyr strongyle oedd yn  amlwg ar ddechrau’r tymor yn cael eu rheoli gan y moddion gwyn arferol yn y blynyddoedd blaenorol (hyd yn oed o’i ddefnyddio fwy nag unwaith) ac roedd yn effeithio ar berfformiad yr ŵyn.
  • Y newid mawr arall - defnyddio llawer llai o foddion. Yn y gorffennol, byddai’r rhan fwyaf o ŵyn wedi cael 2 neu 3 dos o foddion gwyn cyn cael eu gwerthu, a byddai ŵyn diweddarach yn cael dos o Cydectin ar adeg diddyfnu. Hyd yma dim ond un dos o foddion melyn a roddwyd iddynt - a dim ond 100 o ŵyn sydd ar ôl ar y fferm!

Canlyniadau FEC arall-

Mae heriau cyfrifiadau wyau ysgarthol (FEC) wedi bod yn isel i gymedrol yn ystod y mis diwethaf yn achos y rhan fwyaf o’r grwpiau ŵyn a brofwyd. Tanlinellwyd hyn gan y profion lluosog a gwblhaodd Hywel Davies ar ddiwedd y mis (16 Mehefin oedd y tro diwethaf i roi moddion trin llyngyr). Cafodd y rhain eu diddyfnu ddiwedd Gorffennaf a dim 2 grŵp allan o’r 5 oedd a brofwyd oedd angen moddion trin llyngyr; fel arfer byddai’r holl ŵyn wedi cael eu trin ar adeg diddyfnu. Bydd angen cadw golwg manwl ar FEC ar ôl diddyfnu oherwydd gallai’r ‘archwiliad diddyfnu’ achosi imiwnedd is.

 

Canlyniadau FEC gan Hywel Davies, Celyn Mawr