Prosiect Rheoli Parasitiaid - Diweddariad Misol - Mai 2019

Nematodirus – y prif ffocws ymysg defaid yr adeg hon o’r flwyddyn:-

Y rhywogaeth bwysig gyntaf o lyngyr sy’n taro ŵyn yw Nematodirus. Gall hon fod yn llyngyren arbennig o ddinistriol i ŵyn ifanc gan fod y rhan fwyaf o wyau Nematodirus yn deor yn y gwanwyn, sef y cyfnod pan fydd ŵyn bach sy’n agored i niwed yn dechrau pori. Y norm ledled y wlad yw rhoi dos o foddion dilyngyru gwyn (Grŵp 1BZ). Mae dau reswm dros wneud hyn –

  1. Er bod ymwrthiant yn erbyn moddion gwyn yn gyffredin yn y grŵp strongyles (pob llyngyren heblaw Nematodirus), mae’n ymddangos ei fod yn dal yn gwbl effeithiol ar y mwyafrif o ffermydd yn erbyn Nematodirus (ychydig yn unig o eithriadau sydd i’w cael yn y Deyrnas Unedig).
  2. Mae’n opsiwn rhad pan fydd llawer o ŵyn i’w dosio – ac mae’n opsiwn da am ei fod yn lladd y parasitiaid mewn cyfnodau cynharach na mathau eraill o foddion lladd llyngyr.

 

Bydd llawer yn eich cynghori i beidio â gwneud profion FEC ar yr adeg hon yn y flwyddyn, am fod Nematodirus yn gallu creu problemau arwyddocaol i ŵyn cyn i’r oedolion ddechrau dodwy. Ond, er ein bod yn cytuno’r â’r rhesymeg, rydyn ni wedi bod yn annog ffermwyr ein prosiect ni i wneud profion a hynny am ein bod yn dal yn gallu sicrhau gwybodaeth werthfawr, a allai arwain at newid y moddion sy’n cael ei ddewis. Mae hyn yn cael ei amlygu yn y data sydd wedi dod o ffermydd gwahanol dros yr ychydig wythnosau diwethaf.

Fferm

Dyddiad Casglu

Math o Stoc

Enw’r Grŵp

FEC Strongyles

FEC Nematodirus

Cyfanswm EPG

N Drew

29/05/2019

Ŵyn

Ŵyn cynnar

210

70

280

D Lewis

22/04/2019

Ŵyn

Ŵyn - Gorcers Field 9 wythnos oed

420

0

420

D Lewis

22/04/2019

Ŵyn

Ŵyn - Big Field 6 wythnos oed

210

210

420

D Lewis

20/05/2019

Ŵyn

Ŵyn tew

315

70

385

J Powell

30/05/2019

Ŵyn

Ŵyn tew

350

70

420

R Lloyd Williams

31/05/2019

Ŵyn

Banc Tŷ Newydd

595

420

1015

 

Fel y gwelwch chi, er ein bod ni i gyd yn canolbwyntio ar Nematodirus, strongyles yw’r brif rywogaeth o lyngyren ymysg yr ŵyn hyn.  Mae llawer o’n ffermwyr yn gwybod nad yw moddion gwyn yn gwbl effeithiol yn erbyn y llyngyr strongyle hyn, ac felly maen nhw’n gallu newid a defnyddio grŵp arall a fyddai’n gweithio’n well yn achos y ddwy lyngyren. Er hynny, mae angen inni fod yn eithriadol ofalus ar yr adeg hon o’r flwyddyn wrth inni ddehongli’r cyfrifiadau: er bod y cyfrifiadau uchod yn y categori isel / canolig (o dan 500 epg), rydym yn dal i’ch cynghori i drin anifeiliaid rhag Nematodirus os oes yna hanes Nematodirus ac os yw’r amgylchiadau’n iawn. Mae’r rhagolygon Nematodirus ar wefan SCOPS (www.scops.org.uk) yn adnodd defnyddiol hefyd i helpu i wneud y penderfyniad hwn. Os nad oes cyfrifiad strongyle arwyddocaol, yna moddion gwyn fyddai’r dewis mwyaf priodol yn yr amgylchiadau hyn.

 

Sylwch: Nid yw trin mamogiaid i ladd llyngyr yn y gwanwyn yn gwneud dim i helpu problem Nematodirus am fod gan y mwyafrif o famogiaid mewn oed imiwnedd cyflawn neu gryf yn erbyn Nematodirus

 

Mae gwaith i dracio’ch gwartheg ar ôl eu troi allan wedi dechrau: -

Isod gallwch weld canlyniadau gwartheg o ddwy o’n ffermydd, Does dim angen gwneud profion ar y ddau achlysur hyn am mai’r cyngor yw y dylech fonitro stoc ifanc bob tair wythnos yn gyson, yn arbennig wrth i’r tywydd droi’n wlyb a chynnes – sy’n ddelfrydol i’r llyngyr ddeor ar y porfeydd.