Prosiect Rheoli Parasitiaid - Diweddariad Misol - Mehefin 2019

Detholiad o’r samplau FEC ŵyn dros y mis diwethaf:-

Yn gyffredinol, rydym ni wedi gweld cynnydd mewn niferoedd wyau ar draws y samplau ŵyn a welwyd ym mis Mehefin yn dilyn y cyfnod o law a gwres diweddar. Mae amodau cynnes gyda digonedd o leithder yn amodau delfrydol ar gyfer deor wyau a datblygiad y larfau. Felly, rydym ni wedi bod yn annog ein ffermwyr i fod yn wyliadwrus iawn 3 i 4 wythnos ar ôl y newid yma yn y tywydd. Er mwyn deall yr amrywiaeth rhwng y canlyniadau, rhoddir y canllawiau canlynol i ddefnyddwyr FECPAKG2 i ddehongli’r canlyniadau:

  • >200 epg -   Annhebygol o roi triniaeth (ceir rhai eithriadau)
  • 200 epg – 500 epg – Rhoi triniaeth o bosibl. Dylech ystyried ffactorau eraill megis cyfraddau twf, cyflwr.
  • > 500 epg – Tebygol o roi triniaeth

Felly, er bod y profion wedi cael eu cynnal yn ystod cyfnod risg uchel, cawsom ganlyniadau sy’n eistedd o fewn pob un o’r tri chategori, sy’n dangos digon o amrywiaeth rhwng ac o fewn ffermydd.

Mae’n ddiddorol nodi bod perfformiad / cyflwr y stoc wedi cael ei nodi’n “Dda” ar gyfer y canlyniad uchaf a gofnodwyd erioed, gan ddangos gwerth monitro. Mae profion cyfrif wyau ysgarthol yn aml yn canfod problemau cyn y llygad.

Cafodd y ddau sampl a gyflwynwyd gan Hywel Davies eu cymryd bythefnos ar ôl rhoi triniaeth llyngyr gwyn. Mae gwirio ar ôl trin yn arfer dda gan y bydd hynny’n amlygu unrhyw fethiannau o ran y driniaeth. Mae’n debyg bod rhai llyngyr yn goroesi’r driniaeth, ond gan fod y lefelau’n isel iawn, nid oes angen pryderu o ran rhoi triniaeth ychwanegol i’r ŵyn hynny. Bydd effeithlonrwydd triniaethau llyngyr yn cael ei brofi’n fwy manwl yn ddiweddarach yn ystod y tymor.

 

Canlyniadau gwartheg ifanc gan Ianto Pari:-

Mae’r trothwy ar gyfer trin gwartheg yn llawer is. Gan fod y grŵp cyntaf yn y grŵp ‘rhoi triniaeth o bosibl’ ac mewn cyflwr gweddol yn unig, penderfynodd Ianto dargedu’r driniaeth i’r grŵp yma’n unig.