Rhys Evans
Rhyd-y-Main, Gwynedd
Mae Rhys Evans ar ymgyrch i ddatblygu system ffermio adfywiol gyda'i deulu ar eu fferm bîff a defaid.
Mae ei ymgais i greu busnes sy’n cynhyrchu bwyd cynaliadwy, yn gwella’r amgylchedd, yn croesawu ysbryd cymunedol ac sy’n hyfyw yn ariannol yn cael ei adlewyrchu yn ei swydd oddi ar y fferm, fel Arweinydd Ffermio Cynaliadwy ar gyfer Rhwydwaith Ffermio er Lles Natur (NFFN) Cymru.
Mae Rhys yn angerddol dros ffermio a byd natur ac mae’n awyddus i ddangos sut y gall, a sut y mae’n rhaid, i’r ddau fynd law yn llaw.
Dechreuodd y daith honno gyda gradd meistr mewn Rheoli Amgylcheddol ym Mhrifysgol Bangor, gan ymgymryd â rôl Swyddog Cadwraeth gyda Chyfoeth Naturiol Cymru ar ôl graddio ac yn ddiweddarach bu’n ymgymryd â rôl Swyddog Polisi Amaethyddol yn RSPB Cymru.
Yn ei rôl bresennol yn yr NFFN, mae Rhys yn cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ffermwyr ac ymwybyddiaeth gyhoeddus a gwleidyddol o sawl mantais ffermio er lles natur.
Mae'n gallu ymarfer yr hyn y mae'n ei eiriol ar y ddwy fferm deuluol yn Rhyd-y-main ger Dolgellau, y mae'n eu rhedeg gyda'i rieni a'i frawd.
Yma, mae ganddynt, ddiadell o famogiaid Mynydd Cymreig a gwartheg Duon Cymreig pur yn pori 283 hectar o dir bryn a mynydd.
Ar hyn o bryd, mae’r fferm mewn cyfnod trawsnewidiol i ffermio adfywiol, gyda’r dyhead i ailgyflwyno gwartheg brodorol, adfer dolydd gwair llawn rhywogaethau a gwerthu cynnyrch yn uniongyrchol i ddefnyddwyr trwy gynlluniau bocsys cig a llysiau.Dywed Rhys y bydd cymryd rhan yn yr Academi Amaeth yn ei helpu i gyflawni’r dyheadau hynny, a mwy.
Mae Rhys yn eistedd ar bwyllgor trefnu Cynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru.