Cwrs hyfforddiant undydd a rhoddir tystysgrif presenoldeb yn dilyn cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.
Mae’n hanfodol i’ch busnes eich bod yn rheoli eich cyllid yn gywir. Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i ddatblygu’r lefel ofynnol o wybodaeth ariannol, deall beth fydd eich cyfrifydd ei angen a sut i osgoi problemau ariannol. Bydd y cwrs yn canolbwyntio ar gadw cofnodion ariannol a sut i gofnodi TAW, i sicrhau eich bod yn barod i allu cwblhau’r ffurflenni angenrheidiol. Bydd amser gennych hefyd i edrych ar ffeilio, Gwneud Treth yn Ddigidol (MTD) a beth fydd eich cyfrifydd ei angen ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Bydd y cwrs yn eich helpu i wybod lle i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddeddfwriaethau ariannol ac i ddeall y gwahaniaeth rhwng cyfrifeg treth a chyfrifon rheoli.
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Hanfodion busnes llwyddiannus
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn:
Nodwch gall yr holl ddarparwyr isod gyflwyno'r cwrs hwn yn ddigidol. Gweler manylion cyswllt yr holl ddarparwyr hyfforddiant isod.