Mae hwn yn gwrs undydd llawn sy’n cael ei asesu. Bydd yr hyfforddai yn dysgu’r theori a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i gyflawni cymorth cyntaf nes bod y gweithwyr meddygol proffesiynol yn cymryd drosodd.
Mae'r cwrs hwn yn adeiladu ar y sgiliau, yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth ofynnol gan Gymorth Cyntaf Brys yn y Gweithle i roi'r ehangder a'r dyfnder critigol sydd eu hangen ar hyfforddeion yn y diwydiant Coedwigaeth.
Ar ddiwedd y cwrs, bydd yr hyfforddai yn cael tystysgrif hyfforddiant mewn Cymorth Cyntaf Brys yn y Gweithle (+F).
Noder:
Mae'r cwrs wedi'i ddatblygu i gydymffurfio â hyfforddiant +F y Comisiwn Coedwigaeth yn unol â Pholisi'r Comisiwn Coedwigaeth ar Gymorth Cyntaf yn y Gweithle, ac mewn ymgynghoriad â Chytundeb Diogelwch y Diwydiant Coedwigaeth (FISA).
Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.
O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Iechyd a Diogelwch – Rheoli Risg mewn Coedwigaeth a Ffermio
Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn: